Part of the debate – Senedd Cymru am 4:44 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Rwy'n croesawu'r cynnig pwysig i’w drafod heddiw gan Siân Gwenllian, gan fod ein cymunedau arfordirol yn darparu cyfleoedd hanfodol ar gyfer hyfforddiant, cyflogaeth ac adfer cynefinoedd morol. A chan fod Rhun wedi sôn am gregyn gleision, rwyf am ganmol cregyn gleision Conwy, y gorau yn y byd—busnes a sefydlwyd dros 100 mlynedd yn ôl. Mae 'Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru', sy'n gynllun 20 mlynedd, yn nodi amcan sector-benodol ar gyfer pysgodfeydd a dyframaethu, sef cefnogi a diogelu sector pysgota cynaliadwy, amrywiol a phroffidiol, gan gynnwys hyrwyddo pysgodfeydd cynaliadwy a sicrhau'r gwerth economaidd mwyaf i bysgod sy'n cael eu dal fel cyflenwad o brotein cynaliadwy.
Ond er bod ymrwymiad i ddiogelu ein pysgodfeydd yn ganmoladwy, mae'r diffyg camau wedi'u targedu a roddwyd ar waith drwy ddeddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru yn syfrdanol. Yn y bumed Senedd, bu'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn gwthio'n gyson am Fil pysgodfeydd Cymru, Bil yr ymrwymodd y Gweinidog i'w gyflwyno yn y chweched Senedd. Fodd bynnag, nid yw wedi'i gynnwys yn y rhaglen lywodraethu. Yn yr un modd, wrth ymateb i ddadl fer ar ddyfodol pysgota morol ar 24 Chwefror, dywedodd y Gweinidog y bydd polisi Cymru yn y dyfodol
'wedi'i gynllunio gyda rhanddeiliaid i adlewyrchu anghenion sector pysgodfeydd modern Cymru', a phwysleisiodd y bydd cydgynhyrchu gyda rhanddeiliaid yn egwyddor graidd. Fodd bynnag, yn dilyn fy nghwestiynau yng nghyfarfod y pwyllgor ar 11 Mawrth, dywedodd Cymdeithas Pysgotwyr Cymru wrth y pwyllgor nad oedd wedi cael unrhyw drafodaethau manwl bryd hynny gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â pholisi pysgodfeydd Cymru yn y dyfodol. Clywodd y pwyllgor hefyd fod grŵp cynghori Cymru ar y môr a physgodfeydd Llywodraeth Cymru yn profi heriau a'i fod yn cael ei adolygu ar y pryd. Felly, wrth i'r Gweinidog ymateb i'ch dadl heddiw, Blaid Cymru, byddwn yn falch iawn o gael diweddariad er mwyn creu amserlen ar gyfer Bil o'r fath, a diweddariad i'r Senedd ynglŷn ag a wnaed unrhyw gynnydd gyda'r rhanddeiliaid bellach.
Mae ein pysgodfeydd a'n gweithfeydd dyframaeth yn elfennau hanfodol o strategaeth bwyd Cymru. O grancod gogledd Cymru i gregyn gleision Conwy, unwaith eto, mae cynhyrchwyr bach a chynaliadwy'n darparu ffynonellau hanfodol o brotein ac omega 3 i farchnadoedd ledled ein gwlad. Ond os ydym am gael cymunedau arfordirol cynaliadwy, mae angen integreiddio'r sector bwyd môr yn llawn mewn strategaeth bwyd a diod newydd, gyda phob sector wedi'i alinio. Ni allwn ganiatáu i'r rhaniad rhwng bwyd-amaeth a bwyd môr ein hatal rhag mabwysiadu strategaeth fwyd gyffredinol.
Mae angen rhoi hyn ar waith ochr yn ochr â gwaith gyda rhanddeiliaid i gyflawni strategaeth bysgota newydd ar gyfer Cymru sy'n seiliedig ar yr egwyddor o gymaint â phosibl o gynnyrch cynaliadwy, ac un sy'n gosod dyletswydd gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i gynnal cynaliadwyedd pysgod ar gyfer pob stoc. Gyda fflyd o dros 400 o gychod trwyddedig, sy'n cyflogi 1,193 o bysgotwyr llawnamser a rhan-amser, mae diwydiant bwyd môr Cymru yn bwysig i'n heconomi leol. Rwy'n croesawu'n gynnes y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi sefydlu cronfa bwyd môr gwerth £100 miliwn ar gyfer y DU, sydd wedi helpu i adfywio’r sector pysgodfeydd a bwyd môr, gan fanteisio ar gwota pysgota ychwanegol y DU a dod â thwf economaidd i gymunedau arfordirol. Ond mae angen rhoi camau ar waith yn awr yn y strategaeth bysgota newydd i gydnabod y datblygiadau technolegol a wnaed a'r gwariant ariannol sy'n gysylltiedig ag uwchraddio offer mewn ffordd sy'n hyrwyddo rhinweddau gwyrdd—neu las—y diwydiant. Sbwriel pysgota yw 21 y cant o'r sbwriel a geir ar draethau Cymru, ac felly mae angen cymryd camau i fynd i'r afael â hyn. Dylai hyn gynnwys arian i gefnogi'r defnydd o botiau sy'n cynnwys diangdyllau i leihau pysgota anfwriadol o ganlyniad i offer a adawyd ar ôl neu a gollwyd.
Mae ardal cynllun morol cenedlaethol Cymru yn cynnwys oddeutu 32,000 km sgwâr o fôr a 2,120 km o arfordir. Mae hyn yn fwy o lawer na'n tirfas ac yn rhoi digon o gyfle i hybu swyddi morol a phrentisiaethau newydd, gan gynnwys ym maes dal carbon ac adfer cynefinoedd. Felly, rwy’n erfyn ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau pa gamau y bydd yn eu cymryd ar unwaith i gefnogi ein pysgodfeydd a'n gweithfeydd dyframaeth, fel na fyddwn yn lladd uchelgais ein perchnogion busnesau bach ac yn tanseilio hirhoedledd ein cymunedau arfordirol. Diolch yn fawr, Blaid Cymru, am gyflwyno'r ddadl hon.