Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Mae'r strategaeth yn ymwneud â mwy na dyheadau yn unig; mae wedi gosod nifer o fesurau ar gyfer barnu ei llwyddiant. Mae llawer eisoes wedi'u cyflawni: rydym wedi cyhoeddi cynllun llifogydd Cymru; rydym yn cynnal arolygon arfordirol i lywio penderfyniadau rheoli traethlin yn y dyfodol; rydym wedi lansio ein rhaglen rheoli llifogydd yn naturiol a ariennir yn llawn. Nid siarad yn unig am newid y mae'r Llywodraeth Cymru hon; mae'n ei gyflawni. Un o'r cerrig milltir mwyaf arwyddocaol yn ein strategaeth yw lansio'r diweddariad o'n canllawiau cynllunio ar gyfer perygl llifogydd ac arfordiroedd. Datblygwyd nodyn cyngor technegol newydd 15 ochr yn ochr â'r strategaeth genedlaethol, gan ategu a chryfhau ein polisi llifogydd. Mae'r ddau yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r risg a achosir gan newid yn yr hinsawdd.
Wrth i'n hinsawdd newid, mae patrymau llifogydd ac erydu arfordirol ledled Cymru yn newid ac yn gwaethygu; mae digwyddiadau eithafol yn digwydd yn amlach. Mae ein strategaeth yn cydnabod bod llifogydd yn ymwneud â mwy nag afonydd a moroedd yn unig. Rydym yn rhoi pwyslais o'r newydd ar y risgiau sy'n gysylltiedig â llifogydd dŵr wyneb ac erydu arfordirol. Ac yn awr, am y tro cyntaf, mae cwmpas TAN 15 wedi'i ehangu i gynnwys y risg sy'n gysylltiedig â dŵr wyneb, cyrsiau dŵr llai, draenio ac erydu arfordirol. Bydd datblygiadau newydd yng Nghymru yn fwy diogel o ganlyniad. Ceir map llifogydd newydd i gyd-fynd â TAN 15 ar gyfer cynlluniau sy'n ymgorffori newid hinsawdd. Mae'r TAN 15 newydd, fel ein rhaglen lywodraethu, yn canolbwyntio ar y dyfodol. Pan fyddwn yn dewis lle i leoli cartrefi neu ysgolion neu ysbytai newydd, nid yw ardal sy'n agored i lifogydd, boed hynny heddiw neu ymhen 25 mlynedd, yn ddewis synhwyrol neu gynaliadwy.
Mae CNC wedi cyhoeddi gwasanaeth newydd 'gwirio eich perygl llifogydd', ac erbyn hyn mae gan ddeiliaid tai ffordd gyflym a hawdd o wirio'r risg i'w cartref o afonydd, y môr neu ddŵr wyneb. Mae'r gwasanaeth yn rhan o'n pecyn map llifogydd newydd i Gymru, a fydd hefyd yn dangos lle mae ein buddsoddiad o fudd i gymunedau ac yn lleihau perygl llifogydd ac arfordiroedd i bobl. Mae ein strategaeth yn cynnwys mesur allweddol sy'n cysylltu cynhyrchion map llifogydd Cymru â rheoli asedau fel y gall y cyhoedd weld sut y mae ein gwaith a'n buddsoddiad yn gwneud gwahaniaeth iddynt hwy.
Ond mae'n bwysig nodi bod natur ein hasedau rheoli perygl llifogydd yn newid. Y llynedd, pan oeddwn yn gyfrifol am lifogydd, cyhoeddais raglen newydd ar gyfer rheoli llifogydd yn naturiol er mwyn helpu i annog ein hawdurdodau rheoli risg i archwilio a datblygu prosiectau rheoli llifogydd yn naturiol, ac rydym wedi ariannu'r rhaglen gyda chymorth grant 100 y cant. Eisoes, mae'r rhaglen yn cynnwys 15 prosiect ar draws 10 awdurdod rheoli risg gwahanol, a dros gyfnod y rhaglen, byddwn yn buddsoddi dros £3 miliwn i leihau perygl llifogydd i dros 1,100 eiddo. Mae nifer o'r prosiectau hyn eisoes wedi'u cwblhau drwy waith ar y safle, ac maent yn gweithio i leihau perygl llifogydd i gymunedau yr effeithir arnynt. Dechrau'n unig yw'r rhaglen beilot hon; bydd yn ein helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth o reoli llifogydd yn naturiol yng Nghymru a'r ffordd orau o gyflawni'r prosiectau hynny. Mae'n darparu enghreifftiau rhagorol o weithio mewn partneriaeth â'n cymunedau, gyda'n perchnogion tir a sefydliadau eraill. Ac mae hefyd yn dangos sut y mae prosiectau o'r fath nid yn unig yn lleihau perygl llifogydd ond yn darparu manteision amgylcheddol a chymdeithasol ehangach yn ogystal.
Roedd yn ddiddorol gweld cynllun llifogydd chwe phwynt trawsnewidiol y Torïaid ar gyfer Cymru yn gynharach eleni, ac rwy'n falch o'ch sicrhau bod y Llywodraeth eisoes wedi nodi'r hyn sydd yn eich cynllun llifogydd, y ffordd y maent eisoes yn cyflawni'r materion hynny, ac yn cyflwyno ffyrdd mwy cadarn o reoli a lleihau risg. Mae gan CNC ddyletswydd gyffredinol eisoes i oruchwylio'r gwaith o reoli perygl llifogydd ac mae'n gwneud gwaith rhagorol yn ymateb i ddigwyddiadau llifogydd, ochr yn ochr â'n hawdurdodau lleol a'n gwasanaethau brys wrth gwrs. Maent wedi cydnabod lle mae angen gwelliannau ac eisoes wedi cynyddu eu gwaith ar ragolygon, mapio, systemau rhybuddio am lifogydd ac ymateb i ddigwyddiadau llifogydd, yn dilyn y mesurau yn ein strategaeth a'r gwersi a ddysgwyd gennym yn 2020.
Mae gennym ein polisi llain las ein hunain yn TAN 15; fe fyddwch yn gwybod sut y caiff ei gryfhau i gydnabod risg gynyddol newid hinsawdd yn llawn. Rwyf wedi dangos heno sut y mae ein rhaglen fuddsoddi arfaethedig ar y lefelau uchaf erioed a sut y darparwyd cyllid brys ar unwaith yn dilyn digwyddiadau mawr mis Chwefror 2020.
Er ei fod yn fater a gadwyd yn ôl i raddau helaeth, mae yswiriant llifogydd yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi dylanwadu'n fawr ar y gwaith o'i siapio, gan gynnwys cyflwyno Flood Re. Rydym yn parhau i weithio gyda'r diwydiant i hyrwyddo'r cynllun hwn yn well a sicrhau bod trigolion yn gwybod sut y gellir gwneud defnydd ohono, hyd yn oed os yw wedi'i wrthod yn y gorffennol. Byddem yn croesawu mwy o gymorth i fusnesau, ond yn y pen draw, Llywodraeth y DU a wnaeth y penderfyniad i beidio â'u cynnwys yn Flood Re.
Nid ydym yn teimlo bod angen yr ymchwiliad annibynnol ar wahân y cyfeiriodd Janet Finch-Saunders ato i lifogydd 2020 yn Rhondda Cynon Taf, gan y byddai'n dargyfeirio amser swyddogion llifogydd oddi wrth y gwaith o gyflawni. Rhoddodd adroddiadau'r ymchwiliadau, ochr yn ochr ag adolygiad CNC o'r llifogydd, drosolwg cynhwysfawr ar y digwyddiadau llifogydd. Mae ein strategaeth newydd, ein canllawiau cynllunio a'n rhaglenni llifogydd ac arfordiroedd yn sicrhau newid ac yn gosod y cyfeiriad ar gyfer ffyrdd o weithio yn y dyfodol. Mae mwy i ddod, ond mae'r pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol yn archwilio ffyrdd o wella'r ddeddfwriaeth rydym yn gweithio o'i mewn, ac yn chwilio am ffyrdd newydd o gefnogi ein gwaith a chynyddu adnoddau.
Yn anffodus, wrth i'r hinsawdd newid, rhaid i bawb ohonom addasu, ac mae'r Llywodraeth hon yn edrych tua'r dyfodol, gan annog ffyrdd newydd o weithio, tra'n sicrhau bod ein seilwaith hanfodol yn cadw ein cymunedau'n ddiogel. Diolch.