– Senedd Cymru am 5:14 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Symudaf yn awr i'r ddadl fer, a galwaf ar Janet Finch-Saunders i siarad am y pwnc a ddewisiwyd ganddi.
A gaf fi atgoffa'r Aelodau, os ydynt yn gadael, i wneud hynny'n dawel?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Laura Jones, Samuel Kurtz a James Evans.
Mae 'Ymgodi o'r Gaeaf', cerdd deimladwy a gyhoeddwyd y mis hwn gan Taylor Edmonds a phobl a phlant dyffryn Conwy, yn ein hatgoffa'n rymus o'r dioddefaint a achosir gan lifogydd mawr. Mae'n dweud:
'Yn ein tref gorlifdir / mae yna bethau y bu'n rhaid i ni eu derbyn: / byddwn yn cael ein llusgo o'n gwelyau / am dri o'r gloch y bore i lenwi bagiau tywod. Byddwn yn creu atalgloddiau, / cylch o wynebau gwlyb dan olau tortsh. / Bydd bechgyn yn gwylio ar gornel pob ystâd, / yn tecstio'r newyddion diweddaraf wrth i gaeau droi'n ddŵr agored, mae'r tonnau'n codi. Byddwn yn cael ein hynysu; / mae ein ffyrdd yn tyfu cerrynt, traciau trên wedi'u datod, / yn hongian o goed fel pontydd rhaffau. / Deuwn at ein gilydd, fel y gwnaethom o'r blaen. / Llond dyffryn o bobl yn adeiladu amddiffynfeydd, / yn ysgrifennu llythyron, yn gofalu am gymdogion, / yn galw ar arweinwyr i weithredu.'
Felly, rwy'n credu y byddech chi'n cytuno bod y rheini'n eiriau hyfryd, ond yn drist iawn o ran eu hystyr, gan blant Ysgol Bro Gwydir, Llanrwst, sy'n galw arnom i weithredu fel nad yw popeth yn cael ei golli.
Nawr, am flynyddoedd ers imi ddod yn Aelod yn y lle hwn, rwyf wedi gwneud fy ngorau i hyrwyddo'r achos dros leihau'r perygl o lifogydd yn nyffryn Conwy. Ond rwyf wedi gweld Aelodau eraill hefyd, yn eu hetholaethau, yn anobeithio'n fawr wrth weld eu cymunedau dan lawer o ddŵr. Cynhaliais ddau gyfarfod cyhoeddus yn lleol, cyhoeddi pedwar adroddiad a sicrhau newid cadarnhaol, megis gwaith brys yn Y Berllan, Perthi a chwlfertau ychwanegol o dan reilffordd dyffryn Conwy. Fodd bynnag, pethau bach yn unig yw'r rheini y gall gwleidydd etholedig eu gwneud. Nid oes gan ein cymuned gynllun clir, oherwydd mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod hwyluso ymchwiliadau annibynnol i ddigwyddiadau llifogydd sylweddol. Ac mae hynny'n wir am ardaloedd heblaw Aberconwy.
Mae 5,743 o bobl wedi llofnodi deiseb yn annog Llywodraeth Cymru i gychwyn ymchwiliad llawn, annibynnol, agored a chyhoeddus i lifogydd 2020 i gartrefi a busnesau ar draws Rhondda Cynon Taf. Rwy'n cytuno ac yn credu y dylai fod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i hwyluso ymchwiliadau annibynnol o'r fath.
Mae'n anghyfiawn, ac mewn gwirionedd nid yw'n effeithiol i ddibynnu'n unig ar adroddiadau ymchwiliadau llifogydd adran 19. Bu'n rhaid i drigolion Pentre yn fy etholaeth aros tan fis Gorffennaf 2021 i weld adroddiad mewn perthynas â digwyddiadau stormydd a ddigwyddodd ym mis Chwefror 2020—17 mis. Yn yr un modd, bu'n rhaid i drigolion Llanrwst aros wyth mis i weld adroddiad llifogydd adran 19, ac mae dogfennau statudol o'r fath yn darparu argymhellion allweddol. Dylid mynd i'r afael ag oedi yn y broses o lunio a chyhoeddi drwy osod terfynau amser statudol i roi diwedd ar y sefyllfa bresennol sy'n rhoi amser diderfyn i awdurdodau lleol. Yr wythnos diwethaf, dywedodd Sophie Howe, comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol:
'Gyda llifogydd yn digwydd yn fwy ac yn amlach, mae angen cynllun arnom i sicrhau nad yw’r baich ariannol yn disgyn ar y rhai lleiaf galluog i dalu—a dull cytunedig ledled Cymru o sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn gallu ymateb yn y ffordd iawn.
'Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn dweud bod yn rhaid yn ôl y gyfraith, i’r ffordd rydyn ni’n cyrraedd sero net wella llesiant yn ei gyfanrwydd, i bawb.
'Rhaid i gyrff cyhoeddus a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau weithredu nawr i atal y rhai sy’n cael eu heffeithio gan effeithiau dinistriol newid yn yr hinsawdd [rhag bod] dan anfantais am genedlaethau.'
Cytunaf yn llwyr â'r teimladau hynny, a galwaf ar yr Aelodau newydd yn benodol, ond ar bob Aelod yn y Senedd, i weithio'n drawsbleidiol ar y mater.
Amcangyfrifir bod 245,000 eiddo yng Nghymru yn wynebu risg o lifogydd. Yn ôl Climate Central, rhagwelir y bydd cymunedau ledled Cymru yn is na'r lefel lifogydd flynyddol erbyn diwedd y degawd hwn. Mae Queensferry, Y Fflint, Prestatyn, Y Rhyl, Bae Cinmel, Llandrillo-yn-Rhos, Llandudno, Llanfairfechan, Bangor, Biwmares, Caergybi, Pwllheli, Porthmadog, Abermaw, Aberdyfi, Aberystwyth, Aberaeron, Abergwaun, Penfro, Llanelli, Abertawe, Port Talbot, Caerdydd, gan gynnwys y Senedd hon, Casnewydd, a Chas-gwent oll yn wynebu risg o lifogydd.
Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i gynhyrchu strategaeth genedlaethol ar lifogydd ac erydu arfordirol, ac ar CNC i adrodd i Weinidogion Cymru ar y cynnydd a wneir ar weithredu'r strategaeth. Yn ôl y fersiwn ddiweddaraf, CNC sydd i reoli llifogydd o brif afonydd, eu cronfeydd dŵr a'r môr. Felly, gofynnwch i chi'ch hun: a yw hi o fudd i Gymru fod sefydliad sydd â chyfrifoldebau mor amrywiol, megis rheoleiddio diwydiannau, ymateb i 9,000 o geisiadau cynllunio bob blwyddyn, a rheoli 7 y cant o arwynebedd tir Cymru, hefyd â rhan mor bwysig i'w chwarae yn rheoli llifogydd? Nid wyf yn credu hynny, ac rwy'n ailadrodd fy ngalwadau am asiantaeth lifogydd genedlaethol annibynnol. Pan siaradwch â CNC ac uwch-reolwyr, maent yn dweud eu hunain, er mwyn bod yn asiantaeth lifogydd effeithiol, y byddai'n cymryd o leiaf 70 o weithwyr eraill, ac roedd hynny ddwy flynedd yn ôl. Felly, byddai hwn yn un corff sy'n ymrwymedig i fynd i'r afael â digwyddiadau llifogydd ledled Cymru. Rwy'n credu'n wirioneddol fod staff CNC yn gwneud eu gorau, ond cânt eu llethu.
Rwyf eisoes wedi dweud bod angen hyd at oddeutu 70 o staff ychwanegol i gynnal y gwasanaeth cyfan ar y lefelau a ddisgrifiwyd gan y camau gweithredu a'r gwelliannau yn adroddiad 'Llifogydd Chwefror 2020 yng Nghymru'. Fodd bynnag, nodir yn adroddiad yr Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd ar lifogydd yng Nghymru mai dim ond i gyflogi 36 o bobl cyfwerth ag amser llawn y defnyddiwyd y £1.25 miliwn ychwanegol a gafodd CNC mewn cyllid refeniw ar gyfer 2020-21, sef hanner yr hyn sydd ei angen.
Ceir enghreifftiau sy'n dangos nad yw CNC bob amser o gwmpas ei bethau. Yr wythnos diwethaf, nododd is-gadeirydd Cyngor Cymuned Magwyr a Gwndy, y Cynghorydd John Crook, er iddynt ofyn i CNC am gopi o amserlen gynnal a chadw gyda dyddiadau ar gyfer clirio'r ffos, mai'r cyfan a ddarparwyd ar eu cyfer oedd nodyn yn dweud beth y dylid ei wneud yn fras. A yw hynny'n ddigon da i gymuned a welodd lifogydd difrifol ar noswyl Nadolig y llynedd? Yn ôl adroddiad adran 19 Pentre,
'roedd digon o le yn y gilfach i ymdopi â'r storm, ond cyfyngwyd ar y lle hwnnw'n sylweddol gan rwystrau a oedd yn y pen draw yn brif achos y llifogydd ym Mhentre yn ystod Storm Dennis.'
Caiff yr ased a'r llethr helaeth uwchben y gymuned eu rheoli gan CNC. Faint yn rhagor o gamgymeriadau sydd angen eu cysylltu â CNC cyn y cymerir y camau pendant rwy'n eu hargymell?
Ymrwymodd eich cyllideb yn 2021 £64.7 miliwn i ddiogelu cymunedau rhag llifogydd ac erydu arfordirol, sy'n cynnwys adnoddau gwerth £27.2 miliwn a £37.5 miliwn o gyfalaf—dyrannwyd y rhan fwyaf, mewn gwirionedd, i CNC. Felly, rwy'n dal i bryderu a yw CNC yn gwneud y defnydd gorau posibl o'r miliynau a gânt. Y llynedd, tynnais sylw at y ffaith warthus, er bod CNC wedi nodi bod angen £150,000 i drwsio arglawdd Tan Lan yn Llanrwst, fod ffermwyr wedi llwyddo i'w wneud am £15,000. Felly, mae gwir angen gofyn a yw buddsoddiad CNC i ddiogelu cymunedau yn costio mwy nag y mae angen iddo mewn gwirionedd.
Pan fyddwn yn siŵr fod prosiectau amddiffyn rhag llifogydd yn cael eu cyflawni yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol, gallwn fod yn hyderus, am bob cynnydd o £1 yn y gwariant cynnal a chadw, fod bron i £7 yn cael eu harbed mewn gwariant cyfalaf ar amddiffynfeydd. Yn bwysig iawn, tynnodd adroddiad ar y cyd gan Gymdeithas Yswirwyr Prydain a Flood Re sylw at y ffaith y gallai cynnydd o 50 y cant yn y gwariant cynnal a chadw presennol ychwanegu wyth mlynedd ar gyfartaledd at hyd oes amddiffynfeydd. Felly, mae'n ymddangos yn rhywbeth hynod o synhwyrol i'w wneud.
Yn ôl y strategaeth genedlaethol, nid oes gan berchnogion tir, partneriaid a rhanddeiliaid unrhyw ddyletswyddau eraill, ac eithrio rôl i'w chwarae fel perchnogion tir glannau afonydd neu berchnogion asedau. Yn ogystal â bod llawer o unigolion yn anymwybodol o'u cyfrifoldebau, ceir rhannau o gyrsiau dŵr cyffredin lle na wyddys pwy yw perchennog y tir, sy'n golygu nad oes unrhyw gamau'n cael eu cymryd i gynnal y glannau. Mae'r sefyllfa'n beryglus iawn mewn gwirionedd, felly byddwn yn falch pe baech yn ystyried—ac mae hwn yn wrthwynebiad adeiladol—ymgyrch barhaus i wella ymwybyddiaeth perchnogion glannau afonydd o'u cyfrifoldebau. Rhowch system ar waith sy'n nodi ac yn cynorthwyo perchnogion glannau afonydd nad ydynt yn cyflawni eu dyletswyddau, ac yn aml, pan ddônt yn ymwybodol o'r dyletswyddau hyn, byddant yn barod iawn i wneud hynny.
Fel y byddwch yn cytuno, rhaid ystyried perygl llifogydd cyn gynted â phosibl, nid yn unig er mwyn osgoi datblygiad amhriodol, ond hefyd i'w gwneud hi'n bosibl rheoli dŵr yn gynaliadwy. Felly, dylem weithredu ar alwadau Cymdeithas Yswirwyr Prydain i ddiwygio rheoliadau adeiladu mewn ymdrech i sicrhau bod lefel briodol o gydnerthedd yn erbyn llifogydd yn cael ei adeiladu i mewn i eiddo masnachol a domestig fel y safon. Yn ôl y dystiolaeth ar gyfer trydydd adroddiad Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd y DU—CCRA3—mae'r risgiau yng Nghymru sy'n sgorio'n uchel o ran eu maint yn y dyfodol a lle mae angen mwy o weithredu yn awr yn cynnwys llifogydd mwy difrifol a mynych i gartrefi, cymunedau a busnesau. Ceir corws cyfunol sy'n galw am weithredu mwy radical i ymladd llifogydd. Gwyddom ein bod yn cael llawer mwy o law mewn ychydig oriau yn awr nag y byddem yn arfer ei gael dros sawl diwrnod. Rwy'n gobeithio y gwnaiff y Senedd gyfan gydweithio yn awr i gyflawni'r newidiadau sydd eu hangen; fodd bynnag, yn eich dwylo chi y mae'r dulliau, y pŵer a'r adnoddau, Weinidog, felly gofynnaf i chi weithio gyda ni ar draws y Siambr hon a gwneud y newidiadau sydd eu hangen yn awr. Diolch.
Diolch am roi munud o'ch amser i mi, Janet. Mae hwn yn bwnc pwysig, a diolch am ddod ag ef yma i'w drafod heno. Rwyf innau hefyd, fel nifer o bobl ar draws y Siambr a thu hwnt, yn rhannu eich pryderon ynglŷn â CNC. Ond i ddechrau'n gadarnhaol, rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i groesawu'r cyhoeddiad am gynllun amddiffyn rhag llifogydd gwerth £10 miliwn y mae mawr ei angen yn Llyswyry yng Nghasnewydd yn fy rhanbarth i. Fodd bynnag, dros y ddau aeaf diwethaf, mae sawl ardal yn fy rhanbarth yn Nwyrain De Cymru heb gael cymorth. Mae llifogydd wedi effeithio'n sylweddol ar fy sir i, sef sir Fynwy, ac mae problemau llifogydd rheolaidd yno. Cafodd nifer o drigolion a ddioddefodd lifogydd ym mis Chwefror yn 2020, yn ystod storm Dennis, lifogydd eto fis Rhagfyr diwethaf. Mae un dafarn leol ym Mrynbuga, yr Olway, wedi dioddef llifogydd difrifol 20 gwaith yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, ac i wneud pethau'n waeth, nid ydynt erioed wedi cael unrhyw gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru na chefnogaeth gan CNC. Codi arian yn lleol yw'r hyn a'u helpodd i godi'n ôl ar eu traed y tro diwethaf.
Mae angen inni weld gweithredu gan Lywodraeth Cymru a CNC i atal rhagor o achosion o lifogydd rheolaidd sy'n dinistrio busnesau, cartrefi a bywoliaeth pobl. Mae'n hanfodol ein bod yn gweld buddsoddiad mwy difrifol mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd lle a phan fo'i angen i osgoi'r dinistr y mae llifogydd yn ei achosi, yn hytrach na'i adael a disgwyl canlyniadau gwahanol. Fel y dywedodd un o'ch Aelodau Llafur, Weinidog, rhaid i fuddsoddi yn ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon.
Rwy'n hynod ddiolchgar i'r Aelod dros Aberconwy am roi munud o'i hamser i mi heno. Mae llawer o drefi ledled Cymru wedi'u hadeiladu ger afonydd sy'n ymladd brwydr reolaidd yn erbyn y digwyddiadau glaw eithafol cynyddol sy'n digwydd ymhellach i fyny'r afon. Mae tref hynafol Caerfyrddin yn fy etholaeth i, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, yn un dref felly, sy'n dioddef yn rheolaidd yn sgil digwyddiadau o'r fath, yn enwedig ar gei'r dref, lle torrodd y Tywi ei glannau, gan orlifo dros ffyrdd a bygwth eiddo busnes dair gwaith dros gyfnod o naw wythnos yn ystod gaeaf 2020-21. Ar ôl mynychu cyfarfodydd gyda'r AS lleol a grŵp gweithredu a sefydlwyd gyda chynrychiolwyr busnesau lleol, siom enfawr i mi oedd clywed ei bod yn ymddangos bod CNC a Llywodraeth Cymru yn taflu'r baich o ddatblygu cynllun atal llifogydd ar gyfer yr ardal. Mae CNC bellach yn honni mai polisi Llywodraeth Cymru yw diogelu cartrefi cyn busnesau, ac, yn anffodus, gan mai siopau, swyddfeydd a bwytai sydd yn y rhan hon o Gaerfyrddin, mae'n ymddangos na chymerir camau ar unwaith i fynd i'r afael â'r broblem.
Nid Caerfyrddin yw'r unig le yr effeithiwyd arno gan ddiffyg gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'n iawn ein bod yn diogelu cartrefi pobl, ond mae busnesau'n hanfodol i ffyniant economaidd yr ardal ac ni ddylai'r Llywodraeth eu hanghofio. Weinidog, rwy'n gobeithio bod dadl yr Aelod dros Aberconwy heddiw wedi cadarnhau difrifoldeb y mater unwaith eto ac efallai y bydd yn arwain at weld Llywodraeth Cymru yn gweithredu i archwilio mesurau atal llifogydd megis carthu a rhwystrau llifogydd y gellir eu codi dros dro i ddiogelu trefi fel Caerfyrddin rhag llifogydd dinistriol yn y dyfodol. Diolch.
James Evans, a dim ond 30 eiliad y maent wedi'i adael i chi.
O, gallaf fynd drwy 30 eiliad heb unrhyw broblem. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n hyfryd gweld un Aelod o Blaid Cymru yma, ond mae'n drueni bod Llafur wedi esgeuluso hyn, fel y maent wedi ei esgeuluso ers blynyddoedd lawer. Mae llawer o drefi yn fy etholaeth, fel Llanfair-ym-Muallt, Pen-y-bont, Ystradgynlais, Aberhonddu, Crucywel—gallwn fynd ymlaen fel Janet Finch-Saunders, ond ni wnaf—yn dioddef problemau llifogydd yn flynyddol. Mae llawer o bobl yn y trefi hynny wedi dweud wrthyf fod carthu'n arfer cael ei wneud flynyddoedd yn ôl i leihau'r basleoedd yn ein hafonydd, ac ni welsom erioed lefelau llifogydd fel y rhai a welwn heddiw. Mae CNC yn dweud eu bod dan bwysau, eu bod yn or-fiwrocrataidd ac na ellir rhoi pethau drwy'r system, felly rwy'n gobeithio y gwnaiff y Gweinidog edrych ar garthu ein hafonydd i sicrhau bod ein trefi'n ddiogel ac nad ydym yn peri i bobl adael eu cartrefi, a bwrw ati i ymdrin â'r problemau y mae pobl yn eu hwynebu. Diolch.
Munud. Da iawn. [Chwerthin.]
Galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru i ymateb i'r ddadl. Lesley Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Janet Finch-Saunders, am gyflwyno'r ddadl hon. Rwy'n falch iawn o gael cyfle i ymateb ar ran Llywodraeth Cymru. Rydym yn gwneud llawer mwy i ymladd llifogydd yn ein cymunedau nag erioed o'r blaen. Rwy'n credu bod y 18 mis blaenorol wedi dangos y realiti amlwg sy'n ein hwynebu yng Nghymru, sef bod yr argyfwng hinsawdd wedi cyrraedd. Mae digwyddiadau tywydd garw yn digwydd yn amlach, ac mae angen inni addasu. A dyna'r rheswm pam y mae'r Llywodraeth hon wedi creu gweinyddiaeth newid hinsawdd newydd, i roi pŵer inni wneud mwy a gwneud newidiadau sylweddol.
Mae hwn yn gyfnod anodd i'n cymunedau yng Nghymru, a'r cyfan yn erbyn cefndir y pandemig iechyd cyhoeddus byd-eang, ond mae gwytnwch ein cymunedau yn rhyfeddol. Mae ein gwasanaethau brys a'n hawdurdodau rheoli risg wedi gweithio'n ddiflino yn dilyn llifogydd, gan atgyweirio seilwaith sydd wedi'i ddifrodi a gwneud eu gorau glas i gadw ein cymunedau'n ddiogel. Mae ymateb Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyflym ac yn sylweddol. Ers mis Chwefror 2020, rydym wedi darparu bron i £9 miliwn o gyllid i awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i ariannu gwaith atgyweirio ar ein seilwaith llifogydd a draenio, gan gryfhau gwytnwch ein cymunedau. Darparodd Llywodraeth Cymru 100 y cant o'r costau yr aethpwyd iddynt wrth inni geisio rhoi sicrwydd i drigolion a ddioddefodd yn sgil y digwyddiadau hyn. At hynny, mae ein buddsoddiad parhaus wedi profi ei werth, gyda chynlluniau a gwblhawyd yn ddiweddar yn gweithio'n dda ac yn cadw pobl yn ddiogel er gwaethaf glawiad a lefelau afonydd uwch nag erioed. Dros y 18 mis diwethaf, mae ein hawdurdodau rheoli risg wedi gweithio gyda'i gilydd i gynnal eu hymchwiliadau a chyflawni gwelliannau i'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt. Blaenoriaeth y Llywodraeth hon bob amser fydd ein cymunedau, ond mae cynlluniau llifogydd mewn sefyllfa ddelfrydol i sicrhau manteision economaidd ac amgylcheddol lluosog. Mae trafnidiaeth a chyfleustodau yn debygol o fod o fudd i waith o'r fath, a'i gefnogi; wrth inni gynllunio ar gyfer y dyfodol, gallwn alinio ein rhaglenni ariannu er mwyn cael gwell gwerth am ein buddsoddiad cyfunol.
O ran cyfathrebu, y rhanddeiliaid pwysicaf o hyd yw'r cymunedau rydym yn ceisio eu helpu. Ceir mannau anodd eu diogelu a sgyrsiau anodd, ond byddwn yn parhau i weithio gyda'n cymunedau i gynllunio ar gyfer eu dyfodol, yn enwedig yn yr ardaloedd sy'n wynebu risgiau sylweddol. Byddwn yn parhau i'w cefnogi wrth iddynt addasu. Bydd angen mwy o waith amddiffyn ar rai; efallai y bydd angen i eraill symud yn ôl i leoliad mwy diogel. Gwneir y penderfyniadau hyn drwy fonitro tystiolaeth sy'n esblygu a gweithio gyda'n hawdurdodau lleol, partneriaid cyflawni, ond yn bwysicaf oll, y bobl sy'n byw ac yn gweithio yno.
Yn dilyn etholiad mis Mai, gwnaethom gyhoeddi ein rhaglen lywodraethu, ac rydym wedi ymrwymo i darged uchelgeisiol i ariannu gwaith amddiffyn rhag llifogydd ar gyfer dros 45,000 o gartrefi. Byddwn hefyd yn cyflawni atebion ar sail natur i reoli llifogydd ym mhob prif dalgylch afon, gan ymestyn cynefinoedd gwlypdir a choetir yn y broses. At hynny, rydym yn cefnogi'r gwaith o adfer cynefinoedd glaswellt y môr a morfa heli ar hyd ein harfordir, sy'n darparu diogelwch ychwanegol i'r arfordir, ochr yn ochr â nifer o fanteision bioamrywiaeth. Mae'r ymrwymiadau hyn yn arwydd o'n bwriad i gyflawni. Rydym yn eu cefnogi gyda'r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad, gan ganiatáu inni weithredu mwy o gynlluniau a defnyddio mwy o adnoddau. Eleni yn unig, byddwn yn buddsoddi dros £65 miliwn ledled Cymru i gefnogi'r rhai sy'n wynebu risg o lifogydd ac erydu arfordirol, ac mae hyn yn cynnwys buddsoddiad cyfalaf o £36 miliwn yn uniongyrchol mewn asedau rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd. Bydd ein rhaglen rheoli risg arfordirol yn gweld cynlluniau sylweddol yn dechrau eleni i leihau risgiau i'n cymunedau yn y presennol a'r dyfodol, gan gynnwys cynlluniau yng Nghaerdydd, Abertawe, Aberaeron, Aberdyfi a Bae Penrhyn yng Nghonwy. Dyma neges glir gan y Llywodraeth hon na fyddwn yn derbyn llifogydd i gartrefi fel y normal newydd. Byddwn yn cynllunio'n ofalus ac yn buddsoddi yn y lleoedd cywir i leihau risg, cryfhau ein cymunedau a lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi strategaeth genedlaethol newydd uchelgeisiol ar gyfer llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru. Mae'r strategaeth yn gwella'r ffordd rydym yn gweithio gyda'n gilydd i leihau risg, gan ddarparu'r cyfeiriad angenrheidiol drwy amcanion a mesurau clir. Mae'n canolbwyntio ar gyflawni gwelliannau—gwell cyfathrebu, atebion mwy naturiol a dulliau o weithredu ar sail dalgylchoedd, eglurder ynghylch cyfrifoldebau a chydweithredu cyffredinol, ffyrdd gwell o fapio risg ac asedau, atal risg yn y dyfodol drwy gryfhau polisi cynllunio, prosesau cryfach a chyflymu cynlluniau llifogydd.
Mae'r strategaeth yn ymwneud â mwy na dyheadau yn unig; mae wedi gosod nifer o fesurau ar gyfer barnu ei llwyddiant. Mae llawer eisoes wedi'u cyflawni: rydym wedi cyhoeddi cynllun llifogydd Cymru; rydym yn cynnal arolygon arfordirol i lywio penderfyniadau rheoli traethlin yn y dyfodol; rydym wedi lansio ein rhaglen rheoli llifogydd yn naturiol a ariennir yn llawn. Nid siarad yn unig am newid y mae'r Llywodraeth Cymru hon; mae'n ei gyflawni. Un o'r cerrig milltir mwyaf arwyddocaol yn ein strategaeth yw lansio'r diweddariad o'n canllawiau cynllunio ar gyfer perygl llifogydd ac arfordiroedd. Datblygwyd nodyn cyngor technegol newydd 15 ochr yn ochr â'r strategaeth genedlaethol, gan ategu a chryfhau ein polisi llifogydd. Mae'r ddau yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r risg a achosir gan newid yn yr hinsawdd.
Wrth i'n hinsawdd newid, mae patrymau llifogydd ac erydu arfordirol ledled Cymru yn newid ac yn gwaethygu; mae digwyddiadau eithafol yn digwydd yn amlach. Mae ein strategaeth yn cydnabod bod llifogydd yn ymwneud â mwy nag afonydd a moroedd yn unig. Rydym yn rhoi pwyslais o'r newydd ar y risgiau sy'n gysylltiedig â llifogydd dŵr wyneb ac erydu arfordirol. Ac yn awr, am y tro cyntaf, mae cwmpas TAN 15 wedi'i ehangu i gynnwys y risg sy'n gysylltiedig â dŵr wyneb, cyrsiau dŵr llai, draenio ac erydu arfordirol. Bydd datblygiadau newydd yng Nghymru yn fwy diogel o ganlyniad. Ceir map llifogydd newydd i gyd-fynd â TAN 15 ar gyfer cynlluniau sy'n ymgorffori newid hinsawdd. Mae'r TAN 15 newydd, fel ein rhaglen lywodraethu, yn canolbwyntio ar y dyfodol. Pan fyddwn yn dewis lle i leoli cartrefi neu ysgolion neu ysbytai newydd, nid yw ardal sy'n agored i lifogydd, boed hynny heddiw neu ymhen 25 mlynedd, yn ddewis synhwyrol neu gynaliadwy.
Mae CNC wedi cyhoeddi gwasanaeth newydd 'gwirio eich perygl llifogydd', ac erbyn hyn mae gan ddeiliaid tai ffordd gyflym a hawdd o wirio'r risg i'w cartref o afonydd, y môr neu ddŵr wyneb. Mae'r gwasanaeth yn rhan o'n pecyn map llifogydd newydd i Gymru, a fydd hefyd yn dangos lle mae ein buddsoddiad o fudd i gymunedau ac yn lleihau perygl llifogydd ac arfordiroedd i bobl. Mae ein strategaeth yn cynnwys mesur allweddol sy'n cysylltu cynhyrchion map llifogydd Cymru â rheoli asedau fel y gall y cyhoedd weld sut y mae ein gwaith a'n buddsoddiad yn gwneud gwahaniaeth iddynt hwy.
Ond mae'n bwysig nodi bod natur ein hasedau rheoli perygl llifogydd yn newid. Y llynedd, pan oeddwn yn gyfrifol am lifogydd, cyhoeddais raglen newydd ar gyfer rheoli llifogydd yn naturiol er mwyn helpu i annog ein hawdurdodau rheoli risg i archwilio a datblygu prosiectau rheoli llifogydd yn naturiol, ac rydym wedi ariannu'r rhaglen gyda chymorth grant 100 y cant. Eisoes, mae'r rhaglen yn cynnwys 15 prosiect ar draws 10 awdurdod rheoli risg gwahanol, a dros gyfnod y rhaglen, byddwn yn buddsoddi dros £3 miliwn i leihau perygl llifogydd i dros 1,100 eiddo. Mae nifer o'r prosiectau hyn eisoes wedi'u cwblhau drwy waith ar y safle, ac maent yn gweithio i leihau perygl llifogydd i gymunedau yr effeithir arnynt. Dechrau'n unig yw'r rhaglen beilot hon; bydd yn ein helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth o reoli llifogydd yn naturiol yng Nghymru a'r ffordd orau o gyflawni'r prosiectau hynny. Mae'n darparu enghreifftiau rhagorol o weithio mewn partneriaeth â'n cymunedau, gyda'n perchnogion tir a sefydliadau eraill. Ac mae hefyd yn dangos sut y mae prosiectau o'r fath nid yn unig yn lleihau perygl llifogydd ond yn darparu manteision amgylcheddol a chymdeithasol ehangach yn ogystal.
Roedd yn ddiddorol gweld cynllun llifogydd chwe phwynt trawsnewidiol y Torïaid ar gyfer Cymru yn gynharach eleni, ac rwy'n falch o'ch sicrhau bod y Llywodraeth eisoes wedi nodi'r hyn sydd yn eich cynllun llifogydd, y ffordd y maent eisoes yn cyflawni'r materion hynny, ac yn cyflwyno ffyrdd mwy cadarn o reoli a lleihau risg. Mae gan CNC ddyletswydd gyffredinol eisoes i oruchwylio'r gwaith o reoli perygl llifogydd ac mae'n gwneud gwaith rhagorol yn ymateb i ddigwyddiadau llifogydd, ochr yn ochr â'n hawdurdodau lleol a'n gwasanaethau brys wrth gwrs. Maent wedi cydnabod lle mae angen gwelliannau ac eisoes wedi cynyddu eu gwaith ar ragolygon, mapio, systemau rhybuddio am lifogydd ac ymateb i ddigwyddiadau llifogydd, yn dilyn y mesurau yn ein strategaeth a'r gwersi a ddysgwyd gennym yn 2020.
Mae gennym ein polisi llain las ein hunain yn TAN 15; fe fyddwch yn gwybod sut y caiff ei gryfhau i gydnabod risg gynyddol newid hinsawdd yn llawn. Rwyf wedi dangos heno sut y mae ein rhaglen fuddsoddi arfaethedig ar y lefelau uchaf erioed a sut y darparwyd cyllid brys ar unwaith yn dilyn digwyddiadau mawr mis Chwefror 2020.
Er ei fod yn fater a gadwyd yn ôl i raddau helaeth, mae yswiriant llifogydd yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi dylanwadu'n fawr ar y gwaith o'i siapio, gan gynnwys cyflwyno Flood Re. Rydym yn parhau i weithio gyda'r diwydiant i hyrwyddo'r cynllun hwn yn well a sicrhau bod trigolion yn gwybod sut y gellir gwneud defnydd ohono, hyd yn oed os yw wedi'i wrthod yn y gorffennol. Byddem yn croesawu mwy o gymorth i fusnesau, ond yn y pen draw, Llywodraeth y DU a wnaeth y penderfyniad i beidio â'u cynnwys yn Flood Re.
Nid ydym yn teimlo bod angen yr ymchwiliad annibynnol ar wahân y cyfeiriodd Janet Finch-Saunders ato i lifogydd 2020 yn Rhondda Cynon Taf, gan y byddai'n dargyfeirio amser swyddogion llifogydd oddi wrth y gwaith o gyflawni. Rhoddodd adroddiadau'r ymchwiliadau, ochr yn ochr ag adolygiad CNC o'r llifogydd, drosolwg cynhwysfawr ar y digwyddiadau llifogydd. Mae ein strategaeth newydd, ein canllawiau cynllunio a'n rhaglenni llifogydd ac arfordiroedd yn sicrhau newid ac yn gosod y cyfeiriad ar gyfer ffyrdd o weithio yn y dyfodol. Mae mwy i ddod, ond mae'r pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol yn archwilio ffyrdd o wella'r ddeddfwriaeth rydym yn gweithio o'i mewn, ac yn chwilio am ffyrdd newydd o gefnogi ein gwaith a chynyddu adnoddau.
Yn anffodus, wrth i'r hinsawdd newid, rhaid i bawb ohonom addasu, ac mae'r Llywodraeth hon yn edrych tua'r dyfodol, gan annog ffyrdd newydd o weithio, tra'n sicrhau bod ein seilwaith hanfodol yn cadw ein cymunedau'n ddiogel. Diolch.
Diolch, Weinidog, a diolch, bawb. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.