Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Janet Finch-Saunders, am gyflwyno'r ddadl hon. Rwy'n falch iawn o gael cyfle i ymateb ar ran Llywodraeth Cymru. Rydym yn gwneud llawer mwy i ymladd llifogydd yn ein cymunedau nag erioed o'r blaen. Rwy'n credu bod y 18 mis blaenorol wedi dangos y realiti amlwg sy'n ein hwynebu yng Nghymru, sef bod yr argyfwng hinsawdd wedi cyrraedd. Mae digwyddiadau tywydd garw yn digwydd yn amlach, ac mae angen inni addasu. A dyna'r rheswm pam y mae'r Llywodraeth hon wedi creu gweinyddiaeth newid hinsawdd newydd, i roi pŵer inni wneud mwy a gwneud newidiadau sylweddol.
Mae hwn yn gyfnod anodd i'n cymunedau yng Nghymru, a'r cyfan yn erbyn cefndir y pandemig iechyd cyhoeddus byd-eang, ond mae gwytnwch ein cymunedau yn rhyfeddol. Mae ein gwasanaethau brys a'n hawdurdodau rheoli risg wedi gweithio'n ddiflino yn dilyn llifogydd, gan atgyweirio seilwaith sydd wedi'i ddifrodi a gwneud eu gorau glas i gadw ein cymunedau'n ddiogel. Mae ymateb Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyflym ac yn sylweddol. Ers mis Chwefror 2020, rydym wedi darparu bron i £9 miliwn o gyllid i awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i ariannu gwaith atgyweirio ar ein seilwaith llifogydd a draenio, gan gryfhau gwytnwch ein cymunedau. Darparodd Llywodraeth Cymru 100 y cant o'r costau yr aethpwyd iddynt wrth inni geisio rhoi sicrwydd i drigolion a ddioddefodd yn sgil y digwyddiadau hyn. At hynny, mae ein buddsoddiad parhaus wedi profi ei werth, gyda chynlluniau a gwblhawyd yn ddiweddar yn gweithio'n dda ac yn cadw pobl yn ddiogel er gwaethaf glawiad a lefelau afonydd uwch nag erioed. Dros y 18 mis diwethaf, mae ein hawdurdodau rheoli risg wedi gweithio gyda'i gilydd i gynnal eu hymchwiliadau a chyflawni gwelliannau i'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt. Blaenoriaeth y Llywodraeth hon bob amser fydd ein cymunedau, ond mae cynlluniau llifogydd mewn sefyllfa ddelfrydol i sicrhau manteision economaidd ac amgylcheddol lluosog. Mae trafnidiaeth a chyfleustodau yn debygol o fod o fudd i waith o'r fath, a'i gefnogi; wrth inni gynllunio ar gyfer y dyfodol, gallwn alinio ein rhaglenni ariannu er mwyn cael gwell gwerth am ein buddsoddiad cyfunol.
O ran cyfathrebu, y rhanddeiliaid pwysicaf o hyd yw'r cymunedau rydym yn ceisio eu helpu. Ceir mannau anodd eu diogelu a sgyrsiau anodd, ond byddwn yn parhau i weithio gyda'n cymunedau i gynllunio ar gyfer eu dyfodol, yn enwedig yn yr ardaloedd sy'n wynebu risgiau sylweddol. Byddwn yn parhau i'w cefnogi wrth iddynt addasu. Bydd angen mwy o waith amddiffyn ar rai; efallai y bydd angen i eraill symud yn ôl i leoliad mwy diogel. Gwneir y penderfyniadau hyn drwy fonitro tystiolaeth sy'n esblygu a gweithio gyda'n hawdurdodau lleol, partneriaid cyflawni, ond yn bwysicaf oll, y bobl sy'n byw ac yn gweithio yno.
Yn dilyn etholiad mis Mai, gwnaethom gyhoeddi ein rhaglen lywodraethu, ac rydym wedi ymrwymo i darged uchelgeisiol i ariannu gwaith amddiffyn rhag llifogydd ar gyfer dros 45,000 o gartrefi. Byddwn hefyd yn cyflawni atebion ar sail natur i reoli llifogydd ym mhob prif dalgylch afon, gan ymestyn cynefinoedd gwlypdir a choetir yn y broses. At hynny, rydym yn cefnogi'r gwaith o adfer cynefinoedd glaswellt y môr a morfa heli ar hyd ein harfordir, sy'n darparu diogelwch ychwanegol i'r arfordir, ochr yn ochr â nifer o fanteision bioamrywiaeth. Mae'r ymrwymiadau hyn yn arwydd o'n bwriad i gyflawni. Rydym yn eu cefnogi gyda'r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad, gan ganiatáu inni weithredu mwy o gynlluniau a defnyddio mwy o adnoddau. Eleni yn unig, byddwn yn buddsoddi dros £65 miliwn ledled Cymru i gefnogi'r rhai sy'n wynebu risg o lifogydd ac erydu arfordirol, ac mae hyn yn cynnwys buddsoddiad cyfalaf o £36 miliwn yn uniongyrchol mewn asedau rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd. Bydd ein rhaglen rheoli risg arfordirol yn gweld cynlluniau sylweddol yn dechrau eleni i leihau risgiau i'n cymunedau yn y presennol a'r dyfodol, gan gynnwys cynlluniau yng Nghaerdydd, Abertawe, Aberaeron, Aberdyfi a Bae Penrhyn yng Nghonwy. Dyma neges glir gan y Llywodraeth hon na fyddwn yn derbyn llifogydd i gartrefi fel y normal newydd. Byddwn yn cynllunio'n ofalus ac yn buddsoddi yn y lleoedd cywir i leihau risg, cryfhau ein cymunedau a lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi strategaeth genedlaethol newydd uchelgeisiol ar gyfer llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru. Mae'r strategaeth yn gwella'r ffordd rydym yn gweithio gyda'n gilydd i leihau risg, gan ddarparu'r cyfeiriad angenrheidiol drwy amcanion a mesurau clir. Mae'n canolbwyntio ar gyflawni gwelliannau—gwell cyfathrebu, atebion mwy naturiol a dulliau o weithredu ar sail dalgylchoedd, eglurder ynghylch cyfrifoldebau a chydweithredu cyffredinol, ffyrdd gwell o fapio risg ac asedau, atal risg yn y dyfodol drwy gryfhau polisi cynllunio, prosesau cryfach a chyflymu cynlluniau llifogydd.