9. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Diweddariad ar y Comisiwn Cyfansoddiadol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 16 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 5:45, 16 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Gyda'i gilydd, maen nhw'n cynrychioli'r manylrwydd academaidd traddodiadol a'r safbwyntiau gwahanol newydd y bydd eu hangen ar y comisiwn i feddwl yn greadigol ac yn radical ynghylch dyfodol Cymru. Rwy'n croesawu'r ymgysylltiad adeiladol y gallwn ni ei gael gyda phleidiau eraill yn y Senedd, wrth i ni geisio datblygu aelodaeth y comisiwn, ac rwy'n falch bod yr aelodaeth yn cynnwys amrywiaeth o safbwyntiau gwleidyddol.

Mae'n bwysig bod y comisiwn yn gallu adlewyrchu dinasyddion Cymru yn briodol yn eu holl amrywiaeth. Rwyf i wrth fy modd yn gallu cyhoeddi penodiad comisiynwyr gyda chynifer o brofiadau, ac o gynifer o gefndiroedd a chymunedau. Rwy'n ffyddiog bod gennym ni gomisiwn ar waith a all ddatblygu map ffordd ar gyfer Cymru well—Cymru fwy cyfiawn a Chymru fwy cynaliadwy.

Heb oedi ymhellach, ac nid mewn unrhyw drefn benodol, dyma'r naw comisiynydd a fydd yn ymuno â Dr Rowan Williams a'r Athro Laura McAllister ar y comisiwn annibynnol. Mae Dr Anwen Elias yn ddarllenydd mewn gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys gwleidyddiaeth diriogaethol a chyfansoddiadol gymharol, pleidiau gwleidyddol a democratiaeth gydgynghorol. Mae hi'n gyd-gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru a Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru.

Mae Lauren McEvatt yn gyn-gynghorydd arbennig Ceidwadol Llywodraeth y DU i Swyddfa Cymru o weinyddiaeth y glymblaid, lle bu'n gweithio ar gomisiwn Silk a Deddf Cymru 2014. Ers hynny, mae hi wedi gweithio i sawl Llywodraeth ledled dwyrain Affrica a'r Caribî ar ddiwygio cyfansoddiadol, masnach a buddsoddi.

Roedd Kirsty Williams, nad oes angen ei chyflwyno yn y lle hwn, yn Aelod o'r Senedd tan fis Ebrill diwethaf a'r Gweinidog Addysg yn ystod y pumed Senedd. Daeth yn arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ym mis Rhagfyr 2008 ac ar y pryd, hi oedd arweinydd benywaidd cyntaf unrhyw un o bedair prif blaid wleidyddol Cymru.

Albert Owen yw cyn AS Llafur Ynys Môn rhwng 2001 a 2019. Yn ystod ei gyfnod yn Senedd San Steffan, bu'n aelod o'r Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, y Pwyllgor Materion Cymreig a'r Pwyllgor Datblygu Rhyngwladol.

Shavanah Taj yw ysgrifennydd cyffredinol du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig cyntaf TUC Cymru. Mae Shavanah yn ymgyrchydd brwd ac yn aml mae modd dod o hyd iddi hi'n cyfrannu areithiau mewn dadleuon bord gron a gorymdeithiau protest ar faterion megis gwrth-hiliaeth, pontio teg, newid hinsawdd, hawliau dynol, hawliau menywod, cyflog teg a gwaith teg.

Bu Philip Rycroft yn was sifil am 30 mlynedd. Gweithiodd ar lefel uwch i'r Llywodraeth ddatganoledig yn yr Alban cyn symud i Swyddfa'r Cabinet yn Llundain lle bu'n arwain gwaith y gwasanaeth sifil i Lywodraeth y DU ar gyfansoddiad a datganoli. Ei swydd ddiwethaf oedd Ysgrifennydd Parhaol yn yr Adran Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

Mae Michael Marmot yn Athro epidemioleg ac iechyd y cyhoedd yng Ngholeg Prifysgol Llundain ac yn gyfarwyddwr Sefydliad Ecwiti Iechyd UCL. Mae'r Athro Marmot wedi arwain grwpiau ymchwil ar anghydraddoldebau iechyd ers dros 40 mlynedd. Cadeiriodd gomisiwn Sefydliad Iechyd y Byd ar benderfynyddion cymdeithasol iechyd, nifer o gomisiynau rhanbarthol Sefydliad Iechyd y Byd, ac adolygiadau ar ymdrin ag anghydraddoldeb iechyd i Lywodraethau yn y DU.

Mae Miguela Gonzalez yn ymarferydd amrywiaeth a chynhwysiant ac yn gyn-newyddiadurwr. Bu'n gweithio i'r BBC am 15 mlynedd, yn fwyaf diweddar fel arweinydd amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer y cenhedloedd. Ar hyn o bryd mae'n gweithio i gwmni gwyddor bywyd Abcam, lle mae hi'n gweithio i ddatblygu diwylliant agored a chynhwysol. Mae Miguela wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i weithredu prosiect Cyswllt Diwylliant Cymru ac mae hi hefyd wedi bod yn ddarlithydd gwadd yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd.

Yn olaf, Leanne Wood, cyn Aelod o'r Senedd dros y Rhondda a chyn Arweinydd Plaid Cymru. Yn arweinydd benywaidd cyntaf ei phlaid, mae hi'n dod â gwledd o brofiad gwleidyddol ac mae ganddi hi ymrwymiad hirsefydlog i faterion cyfiawnder cymdeithasol.

Bydd y comisiynwyr yn cael eu cefnogi gan banel arbenigol, a fydd yn dechrau cael eu penodi yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd aelodau'r panel yn dod ag arbenigedd mewn llywodraethu, y gyfraith, cyfansoddiad, economeg, cyllid a mwy o feysydd gwybodaeth sy'n hanfodol i gwestiynau am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Bydd y comisiwn yn cynnal ei gyfarfod cyntaf ar 25 Tachwedd, pan fydd y Prif Weinidog a minnau'n bresennol i groesawu'r comisiynwyr ac i nodi'r amcanion. Ar ôl hynny, bydd y comisiwn yn rhydd i gyflawni ei gylch gwaith yn annibynnol ar gyfarwyddyd y Llywodraeth. Rwy'n annog bob un ohonom ni i fanteisio ar y cyfle i ymgysylltu â'r comisiwn ac i ymuno yn y sgwrs genedlaethol. Diolch, Llywydd.