Part of the debate – Senedd Cymru am 5:51 pm ar 16 Tachwedd 2021.
Diolch, Gweinidog, am rybudd ymlaen llaw o'ch datganiad. Fel y gwyddoch chi, nid yw Ceidwadwyr Cymru yn credu y dylai bwrw ymlaen â'r comisiwn fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rydym ni'n credu bod gennych chi bethau pwysicach o lawer i'w hystyried, a dweud y gwir, o ran cael ein heconomi'n ôl ar y trywydd cywir, cael ein gwasanaeth iechyd yn ôl ar y trywydd cywir, a chael ein system addysg yn ôl ar y trywydd cywir ar ôl y pandemig. Ond nid ydych chi wedi gwrando ar y cyngor hwnnw. Rydych chi wedi mynd ymlaen ac wedi sefydlu eich comisiwn beth bynnag, sy'n siomedig yn fy marn i. Er hynny, rydym ni bob amser wedi dweud y byddem ni'n cymryd rhan yn hyn, a'i bod yn bwysig cael llais canol-dde o amgylch y bwrdd. Dyna pam yr ydym ni wedi enwebu Lauren McEvatt, a fydd, rwy'n siŵr, yn gwneud cyfraniad cadarnhaol iawn i'r trafodaethau hynny.
Rhaid i mi ddweud, ar ôl gwrando ar y geiriau yr ydych chi wedi'u traethu yn y gorffennol a'u cymharu â'r hyn yr ydych chi wedi'i gyflawni heddiw o ran cyfansoddiad y comisiwn, fy mod braidd yn siomedig. Gwnaethoch chi ddweud nôl ym mis Gorffennaf fod yn rhaid i aelodau'r comisiwn hwn gynrychioli pob oedran a chael eu tynnu o'r amrywiaeth ehangaf bosibl o sectorau mewn cymdeithas ddinesig—sefydliadau cyhoeddus, preifat, trydydd sector, y sector dinesig a sefydliadau ar lawr gwlad a phartneriaid cymdeithasol. Nid wyf i'n gweld llawer o'r sector preifat ar y rhestr hon. Nid wyf i'n gweld llawer o'r trydydd sector ar y rhestr hon. Nid wyf i'n gweld unrhyw sefydliadau ar lawr gwlad ar y rhestr hon chwaith. Rwy'n credu, felly, nad yw'n mynd i fod yn gwbl gynrychioliadol o ran y gwaith y mae'n ei wneud.
Rydym ni hefyd, wrth gwrs, wedi cwestiynu doethineb un o'r cyd-gadeiryddion sy'n cael ei benodi, gyda'r unigolyn penodol hwnnw'n gyn-ymgeisydd seneddol Plaid Cymru. Ond, unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth yr ydych chi wedi penderfynu ei benodi. Rydych chi wedi gwneud y penderfyniadau hyn heb unrhyw ymgynghori â fy mhlaid i na phleidiau gwleidyddol eraill yn y Siambr hon, ac eithrio gwahodd un enwebiad o amgylch y bwrdd. Felly, nid wyf i'n credu, mewn gwirionedd, fod cyfansoddiad y comisiwn penodol hwn yn ddigon eang, fel yr oeddech chi wedi bwriadu iddo fod yn wreiddiol.
Gwnes i ofyn rai cwestiynau i chi hefyd pan wnaethoch chi ddatganiad y mis diwethaf o ran y comisiwn. Gofynnais i faint yr oedd y comisiwn hwn yn mynd i gostio. Ni wnaethoch chi ateb y cwestiwn hwnnw. Gwnaethoch chi ddweud y byddech chi'n dod yn ôl ac yn ei ateb. Rydych wedi cael cyfle i roi mwy o gnawd ar yr esgyrn heddiw, o ran cost bosibl y comisiwn hwn. Mae gennym ni gyllideb Llywodraeth Cymru yn codi ymhen ychydig wythnosau. Felly, fe fyddwn i wedi tybio y byddech chi wedi gwneud rhywfaint o waith cartref, wedi cael y cyfrifiannell allan, ac wedi penderfynu mewn gwirionedd faint y mae'r peth hwn yn mynd i gostio yn ystod y ddwy flynedd nesaf, oherwydd dyna, wrth gwrs, yw'r cyfnod yr ydych chi wedi'i roi iddo. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni heddiw: beth yw'r lwfansau a fydd yn cael eu talu i'r cyd-gadeiryddion? Beth yw'r lwfansau a fydd yn cael eu talu i aelodau'r comisiwn? A ydyn nhw'n cael eu talu swm penodol, neu a yw ar sail fesul cyfarfod? Sut mae'r peth hwn yn mynd i weithio mewn gwirionedd? Rwy'n credu bod gan bobl ddiddordeb. Mae gan y cyhoedd ddiddordeb yn hynny.
Rwy'n credu hefyd fod gennym ni ddiddordeb mawr mewn pwy fydd y panel arbenigol o gynghorwyr. Rydych chi wedi dweud eich bod chi'n mynd i amlinellu enwau'r panel arbenigol maes o law, ac yr wyf i'n falch o glywed hynny. Ond, a gaf i awgrymu, o ystyried diffyg ehangder ac amrywiaeth y comisiwn ei hun, efallai y gallwch chi gynnwys hynny yn y panel arbenigol, wrth symud ymlaen, fel y gallwn ni sicrhau bod yr amrywiaeth y mae pawb eisiau ei weld yn cyfrannu at y broses hon?
Yn olaf, rwyf i eisiau gwneud y pwynt hwn, os caf i. Rydych chi a minnau'n amlwg yn cydnabod bod materion cyfansoddiadol, o ran dyfodol y DU, yn faterion i'r Deyrnas Unedig gyfan, nid un rhan gyfansoddol yn unig, fel yw Cymru. Felly, mae'n bosibl y bydd cael y sgwrs hon ar ei phen ei hun, heb gael trafodaethau ehangach ar sail y DU, yn eithaf ofer. Felly, a gaf i ofyn: pa drafodaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chael gyda Llywodraeth y DU, gyda Llywodraeth yr Alban, gyda Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ynghylch y ffordd y bydd y comisiwn hwn yn ymgymryd â'i waith a sut y gall gyfrannu at ddarn ehangach o waith, a fydd, yn amlwg, angen ei wneud ledled y DU os bydd unrhyw obaith y bydd hyn yn ymarfer ystyrlon? Diolch.