– Senedd Cymru am 5:44 pm ar 16 Tachwedd 2021.
Yr eitem olaf heddiw yw'r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar ddiweddariad ar y comisiwn cyfansoddiadol. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mis diwethaf, gwnes i gyhoeddi penodiad dau gadeirydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Rwy'n hapus iawn i allu dod yn ôl i'r Senedd i gyhoeddi penodiad y comisiynwyr.
Mae pob comisiynydd yn cynnig cryfderau, gwybodaeth, profiad a safbwyntiau gwahanol. Maen nhw'n dod o bob cwr o Gymru, y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Mae pob un wedi'i ddewis am y cyfraniad y gall ei wneud. Maen nhw'n gallu trin cyfraith ac ymarfer cyfansoddiadol a hefyd effaith ymarferol diwygiadau. Mae ganddyn nhw brofiad go iawn o gwestiynau fel, 'Sut fydd y diwygiadau hyn yn effeithio ar bobl?', 'Beth fydd yr effaith ymarferol?', 'Beth allwn ni ei ddysgu o brofiad gwledydd eraill, mewn cyfnodau eraill a llefydd eraill?'
Gyda'i gilydd, maen nhw'n cynrychioli'r manylrwydd academaidd traddodiadol a'r safbwyntiau gwahanol newydd y bydd eu hangen ar y comisiwn i feddwl yn greadigol ac yn radical ynghylch dyfodol Cymru. Rwy'n croesawu'r ymgysylltiad adeiladol y gallwn ni ei gael gyda phleidiau eraill yn y Senedd, wrth i ni geisio datblygu aelodaeth y comisiwn, ac rwy'n falch bod yr aelodaeth yn cynnwys amrywiaeth o safbwyntiau gwleidyddol.
Mae'n bwysig bod y comisiwn yn gallu adlewyrchu dinasyddion Cymru yn briodol yn eu holl amrywiaeth. Rwyf i wrth fy modd yn gallu cyhoeddi penodiad comisiynwyr gyda chynifer o brofiadau, ac o gynifer o gefndiroedd a chymunedau. Rwy'n ffyddiog bod gennym ni gomisiwn ar waith a all ddatblygu map ffordd ar gyfer Cymru well—Cymru fwy cyfiawn a Chymru fwy cynaliadwy.
Heb oedi ymhellach, ac nid mewn unrhyw drefn benodol, dyma'r naw comisiynydd a fydd yn ymuno â Dr Rowan Williams a'r Athro Laura McAllister ar y comisiwn annibynnol. Mae Dr Anwen Elias yn ddarllenydd mewn gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys gwleidyddiaeth diriogaethol a chyfansoddiadol gymharol, pleidiau gwleidyddol a democratiaeth gydgynghorol. Mae hi'n gyd-gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru a Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru.
Mae Lauren McEvatt yn gyn-gynghorydd arbennig Ceidwadol Llywodraeth y DU i Swyddfa Cymru o weinyddiaeth y glymblaid, lle bu'n gweithio ar gomisiwn Silk a Deddf Cymru 2014. Ers hynny, mae hi wedi gweithio i sawl Llywodraeth ledled dwyrain Affrica a'r Caribî ar ddiwygio cyfansoddiadol, masnach a buddsoddi.
Roedd Kirsty Williams, nad oes angen ei chyflwyno yn y lle hwn, yn Aelod o'r Senedd tan fis Ebrill diwethaf a'r Gweinidog Addysg yn ystod y pumed Senedd. Daeth yn arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ym mis Rhagfyr 2008 ac ar y pryd, hi oedd arweinydd benywaidd cyntaf unrhyw un o bedair prif blaid wleidyddol Cymru.
Albert Owen yw cyn AS Llafur Ynys Môn rhwng 2001 a 2019. Yn ystod ei gyfnod yn Senedd San Steffan, bu'n aelod o'r Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, y Pwyllgor Materion Cymreig a'r Pwyllgor Datblygu Rhyngwladol.
Shavanah Taj yw ysgrifennydd cyffredinol du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig cyntaf TUC Cymru. Mae Shavanah yn ymgyrchydd brwd ac yn aml mae modd dod o hyd iddi hi'n cyfrannu areithiau mewn dadleuon bord gron a gorymdeithiau protest ar faterion megis gwrth-hiliaeth, pontio teg, newid hinsawdd, hawliau dynol, hawliau menywod, cyflog teg a gwaith teg.
Bu Philip Rycroft yn was sifil am 30 mlynedd. Gweithiodd ar lefel uwch i'r Llywodraeth ddatganoledig yn yr Alban cyn symud i Swyddfa'r Cabinet yn Llundain lle bu'n arwain gwaith y gwasanaeth sifil i Lywodraeth y DU ar gyfansoddiad a datganoli. Ei swydd ddiwethaf oedd Ysgrifennydd Parhaol yn yr Adran Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
Mae Michael Marmot yn Athro epidemioleg ac iechyd y cyhoedd yng Ngholeg Prifysgol Llundain ac yn gyfarwyddwr Sefydliad Ecwiti Iechyd UCL. Mae'r Athro Marmot wedi arwain grwpiau ymchwil ar anghydraddoldebau iechyd ers dros 40 mlynedd. Cadeiriodd gomisiwn Sefydliad Iechyd y Byd ar benderfynyddion cymdeithasol iechyd, nifer o gomisiynau rhanbarthol Sefydliad Iechyd y Byd, ac adolygiadau ar ymdrin ag anghydraddoldeb iechyd i Lywodraethau yn y DU.
Mae Miguela Gonzalez yn ymarferydd amrywiaeth a chynhwysiant ac yn gyn-newyddiadurwr. Bu'n gweithio i'r BBC am 15 mlynedd, yn fwyaf diweddar fel arweinydd amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer y cenhedloedd. Ar hyn o bryd mae'n gweithio i gwmni gwyddor bywyd Abcam, lle mae hi'n gweithio i ddatblygu diwylliant agored a chynhwysol. Mae Miguela wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i weithredu prosiect Cyswllt Diwylliant Cymru ac mae hi hefyd wedi bod yn ddarlithydd gwadd yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd.
Yn olaf, Leanne Wood, cyn Aelod o'r Senedd dros y Rhondda a chyn Arweinydd Plaid Cymru. Yn arweinydd benywaidd cyntaf ei phlaid, mae hi'n dod â gwledd o brofiad gwleidyddol ac mae ganddi hi ymrwymiad hirsefydlog i faterion cyfiawnder cymdeithasol.
Bydd y comisiynwyr yn cael eu cefnogi gan banel arbenigol, a fydd yn dechrau cael eu penodi yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd aelodau'r panel yn dod ag arbenigedd mewn llywodraethu, y gyfraith, cyfansoddiad, economeg, cyllid a mwy o feysydd gwybodaeth sy'n hanfodol i gwestiynau am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Bydd y comisiwn yn cynnal ei gyfarfod cyntaf ar 25 Tachwedd, pan fydd y Prif Weinidog a minnau'n bresennol i groesawu'r comisiynwyr ac i nodi'r amcanion. Ar ôl hynny, bydd y comisiwn yn rhydd i gyflawni ei gylch gwaith yn annibynnol ar gyfarwyddyd y Llywodraeth. Rwy'n annog bob un ohonom ni i fanteisio ar y cyfle i ymgysylltu â'r comisiwn ac i ymuno yn y sgwrs genedlaethol. Diolch, Llywydd.
Diolch, Gweinidog, am rybudd ymlaen llaw o'ch datganiad. Fel y gwyddoch chi, nid yw Ceidwadwyr Cymru yn credu y dylai bwrw ymlaen â'r comisiwn fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rydym ni'n credu bod gennych chi bethau pwysicach o lawer i'w hystyried, a dweud y gwir, o ran cael ein heconomi'n ôl ar y trywydd cywir, cael ein gwasanaeth iechyd yn ôl ar y trywydd cywir, a chael ein system addysg yn ôl ar y trywydd cywir ar ôl y pandemig. Ond nid ydych chi wedi gwrando ar y cyngor hwnnw. Rydych chi wedi mynd ymlaen ac wedi sefydlu eich comisiwn beth bynnag, sy'n siomedig yn fy marn i. Er hynny, rydym ni bob amser wedi dweud y byddem ni'n cymryd rhan yn hyn, a'i bod yn bwysig cael llais canol-dde o amgylch y bwrdd. Dyna pam yr ydym ni wedi enwebu Lauren McEvatt, a fydd, rwy'n siŵr, yn gwneud cyfraniad cadarnhaol iawn i'r trafodaethau hynny.
Rhaid i mi ddweud, ar ôl gwrando ar y geiriau yr ydych chi wedi'u traethu yn y gorffennol a'u cymharu â'r hyn yr ydych chi wedi'i gyflawni heddiw o ran cyfansoddiad y comisiwn, fy mod braidd yn siomedig. Gwnaethoch chi ddweud nôl ym mis Gorffennaf fod yn rhaid i aelodau'r comisiwn hwn gynrychioli pob oedran a chael eu tynnu o'r amrywiaeth ehangaf bosibl o sectorau mewn cymdeithas ddinesig—sefydliadau cyhoeddus, preifat, trydydd sector, y sector dinesig a sefydliadau ar lawr gwlad a phartneriaid cymdeithasol. Nid wyf i'n gweld llawer o'r sector preifat ar y rhestr hon. Nid wyf i'n gweld llawer o'r trydydd sector ar y rhestr hon. Nid wyf i'n gweld unrhyw sefydliadau ar lawr gwlad ar y rhestr hon chwaith. Rwy'n credu, felly, nad yw'n mynd i fod yn gwbl gynrychioliadol o ran y gwaith y mae'n ei wneud.
Rydym ni hefyd, wrth gwrs, wedi cwestiynu doethineb un o'r cyd-gadeiryddion sy'n cael ei benodi, gyda'r unigolyn penodol hwnnw'n gyn-ymgeisydd seneddol Plaid Cymru. Ond, unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth yr ydych chi wedi penderfynu ei benodi. Rydych chi wedi gwneud y penderfyniadau hyn heb unrhyw ymgynghori â fy mhlaid i na phleidiau gwleidyddol eraill yn y Siambr hon, ac eithrio gwahodd un enwebiad o amgylch y bwrdd. Felly, nid wyf i'n credu, mewn gwirionedd, fod cyfansoddiad y comisiwn penodol hwn yn ddigon eang, fel yr oeddech chi wedi bwriadu iddo fod yn wreiddiol.
Gwnes i ofyn rai cwestiynau i chi hefyd pan wnaethoch chi ddatganiad y mis diwethaf o ran y comisiwn. Gofynnais i faint yr oedd y comisiwn hwn yn mynd i gostio. Ni wnaethoch chi ateb y cwestiwn hwnnw. Gwnaethoch chi ddweud y byddech chi'n dod yn ôl ac yn ei ateb. Rydych wedi cael cyfle i roi mwy o gnawd ar yr esgyrn heddiw, o ran cost bosibl y comisiwn hwn. Mae gennym ni gyllideb Llywodraeth Cymru yn codi ymhen ychydig wythnosau. Felly, fe fyddwn i wedi tybio y byddech chi wedi gwneud rhywfaint o waith cartref, wedi cael y cyfrifiannell allan, ac wedi penderfynu mewn gwirionedd faint y mae'r peth hwn yn mynd i gostio yn ystod y ddwy flynedd nesaf, oherwydd dyna, wrth gwrs, yw'r cyfnod yr ydych chi wedi'i roi iddo. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni heddiw: beth yw'r lwfansau a fydd yn cael eu talu i'r cyd-gadeiryddion? Beth yw'r lwfansau a fydd yn cael eu talu i aelodau'r comisiwn? A ydyn nhw'n cael eu talu swm penodol, neu a yw ar sail fesul cyfarfod? Sut mae'r peth hwn yn mynd i weithio mewn gwirionedd? Rwy'n credu bod gan bobl ddiddordeb. Mae gan y cyhoedd ddiddordeb yn hynny.
Rwy'n credu hefyd fod gennym ni ddiddordeb mawr mewn pwy fydd y panel arbenigol o gynghorwyr. Rydych chi wedi dweud eich bod chi'n mynd i amlinellu enwau'r panel arbenigol maes o law, ac yr wyf i'n falch o glywed hynny. Ond, a gaf i awgrymu, o ystyried diffyg ehangder ac amrywiaeth y comisiwn ei hun, efallai y gallwch chi gynnwys hynny yn y panel arbenigol, wrth symud ymlaen, fel y gallwn ni sicrhau bod yr amrywiaeth y mae pawb eisiau ei weld yn cyfrannu at y broses hon?
Yn olaf, rwyf i eisiau gwneud y pwynt hwn, os caf i. Rydych chi a minnau'n amlwg yn cydnabod bod materion cyfansoddiadol, o ran dyfodol y DU, yn faterion i'r Deyrnas Unedig gyfan, nid un rhan gyfansoddol yn unig, fel yw Cymru. Felly, mae'n bosibl y bydd cael y sgwrs hon ar ei phen ei hun, heb gael trafodaethau ehangach ar sail y DU, yn eithaf ofer. Felly, a gaf i ofyn: pa drafodaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chael gyda Llywodraeth y DU, gyda Llywodraeth yr Alban, gyda Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ynghylch y ffordd y bydd y comisiwn hwn yn ymgymryd â'i waith a sut y gall gyfrannu at ddarn ehangach o waith, a fydd, yn amlwg, angen ei wneud ledled y DU os bydd unrhyw obaith y bydd hyn yn ymarfer ystyrlon? Diolch.
A gaf i ddiolch i chi am y pwyntiau yna? Maen nhw i gyd yn bwyntiau dilys ac yn codi materion pwysig—materion yr ydym ni wedi bod yn rhoi llawer o ystyriaeth iddyn nhw yn ystod y misoedd diwethaf, ac sydd wedi bod yn destun cryn drafodaeth.
Yn gyntaf ar y cyfansoddiad, mae'r cyfansoddiad wrth wraidd bron popeth sy'n digwydd ar hyn o bryd: Brexit, y cytundeb masnach a chydweithredu, Gogledd Iwerddon, erthygl 16, digwyddiadau yn yr Alban, yr effaith o ran Gogledd Iwerddon, cysylltiadau â Gweriniaeth Iwerddon, ac ati. Rwy'n credu mai'r broblem ynghylch y cyfansoddiad, rwy'n tybio, yw defnyddio'r gair 'cyfansoddiad', yn hytrach na defnyddio'r holl sefydliadau ac ysgogiadau pŵer a llywodraethu sy'n effeithio cymaint ar fywydau pobl. Mae'n rhywbeth sy'n hanfodol bwysig. Rwyf i, wrth gwrs, yn deall eich barn chi, er nad safbwynt Llywodraeth y DU ydyw, wrth gwrs, sy'n ymgysylltu, yn gyfansoddiadol, o ddydd i ddydd. Mae gennych chi lu o Weinidogion y mae ymdrin â materion sy'n ymwneud â'r cyfansoddiad yn brif swyddogaeth iddyn nhw.
O ran ei ehangder a'i amrywiaeth, rwy'n credu bod gennym ni gomisiwn eang iawn ac amrywiol iawn gydag amrywiaeth sylweddol ac eang o sgiliau. Yn sicr mae'n wir—. Mae llawer o ystyried wedi bod, ac mae llawer o enwau wedi'u hystyried, a sgiliau, a'r ffaith a fyddai pobl ar gael, a fyddai pobl yn gallu cyfrannu, ac ati, a sut y byddai hynny'n rhyngweithio â'r broses ymgysylltu, ac ati. Ond yr hyn sydd gennym ni yn fy marn i yw comisiwn sy'n eang iawn, yn fedrus iawn, ac rwy'n credu bod ganddo'r holl sgiliau y bydd eu hangen. Mae'n wir, wrth gwrs, ei bod yn anodd iawn, iawn, gydag 11 o bobl—naw unigolyn a dau gyd-gadeirydd—i gynnwys yr holl fathau o sgiliau ac amrywiaeth yr ydych chi eisiau'u cael. Yn y pen draw mae gennych chi gomisiwn sy'n mynd yn rhy fawr ac yn rhy fiwrocrataidd.
Mae hynny'n arwain mewn gwirionedd at y pwynt arall y gwnaethoch chi ei godi, sef mater y panel arbenigol, rwy'n credu. Wrth gwrs, mae gwaith sy'n mynd rhagddo o ran hynny ac, wrth gwrs, mae'n rhaid ymgysylltu ynghylch hynny â'r cyd-gadeiryddion ac, yn wir, ag aelodau'r comisiwn nawr, a hefyd sicrhau'r hyblygrwydd. Felly, rydych chi'n iawn; o ran busnes, o ran cyllid, a'r sgiliau hynny, yr ydym ni wedi meddwl yn ofalus iawn am hyn, a gwn i fod y cyd-gadeiryddion ac aelodau'r comisiwn yn dechrau meddwl yn ofalus iawn am y rheini hefyd. Ond rwy'n credu mai'r hyblygrwydd a fydd yn y system yw'r gallu i ddod ag arbenigwyr i mewn yn ôl yr angen mewn meysydd penodol. Er enghraifft, bydd y rhaglen waith sydd gan y comisiwn, i ryw raddau, yn pennu rhai o'r arbenigwyr penodol iawn y mae angen eu cynnwys. Felly, rwy'n credu y bydd cael y math yna o hyblygrwydd ynddo a'r ffordd y mae'n gweithio yn bwysig. Ond, fel yr wyf yn dweud, mae llawer mwy o feddwl yn mynd i mewn i hynny.
Mae hynny wedyn hefyd yn arwain at y mater ynghylch yr holl sectorau eraill ac ati, a'r broses ymgysylltu. Rwy'n credu, os gwnewch chi gymryd y tri hynny gyda'i gilydd, mae gennych chi rywbeth sydd nid yn unig, rwy'n credu, yn uchel iawn ei broffil, yn fedrus iawn, ond sydd â'r gallu, rwy'n credu, i gyrraedd pob twll a chornel o'n cymdeithas a'n cymunedau a'n sefydliadau, a chael yr ymgysylltiad hwnnw. Ac, mewn sawl ffordd, y broses ymgysylltu yw'r darn pwysicaf bron—sicrhau bod hynny'n gweithio. Rwyf i wedi dweud hynny droeon hefyd.
O ran y gost a'r gyllideb, dim ond i ddweud yn gyntaf oll, mae'r telerau o ran cyflogi aelodau'r comisiwn mewn gwirionedd yn eithaf safonol ledled y DU mewn comisiynau o'r math penodol hwn. Mae'r costau a'r cyllidebu llawn ac ati yn dal i gael eu cyfrifo, ac, wrth gwrs, bydd datganiad cyllideb, felly bydd cyfle adeg hynny. Byddaf i'n ysgrifennu gyda manylion eraill, ond nid oes gennyf i'r manylion llawn hynny ar hyn o bryd.
O ran y DU gyfan, gadewch i ni wneud un peth yn glir: comisiwn Cymru yw hwn, ac wrth gwrs bydd yn rhaid iddo ymgysylltu â Llywodraeth y DU. Bydd yn rhaid iddo ymgysylltu â chomisiynau sy'n digwydd ym mhobman, ond rwyf i wedi amlinellu o'r blaen yr anhawster sylweddol yr ydym ni wedi'i gael yn ymgysylltu o gwbl â Llywodraeth y DU ar faterion diwygio cyfansoddiadol sylfaenol. Mae gennym ni anhawster gyda Llywodraeth y DU gan ei bod hi'n ei chael hi'n anodd iawn hyd yn oed i ddefnyddio'r term 'Llywodraeth ddatganoledig', ac rwy'n credu bod hynny'n dweud rhywbeth wrthych chi, o bosib.
Ond, edrychwch, mater i'r comisiwn fydd hyn. Unwaith y bydd y comisiwn wedi'i lansio'n ffurfiol nawr ar y pumed ar hugain, bydd yn datblygu ei gynllun gweithredu ei hun, ei broses ymgysylltu ei hun. Ac rwyf i wedi dweud droeon yn y Senedd hon y byddwn i'n disgwyl iddo ymgysylltu a defnyddio pob cyfle sydd o ran cyflawni ei waith, ymgysylltu er budd Cymru, a chyflwyno safbwyntiau a gweithio tuag at lunio adroddiad interim yn y pen draw ac yna adroddiad llawn.
Hoffwn i ddiolch i chi, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, am eich datganiad heddiw.
Nid oes amheuaeth nad yw datganoli yng Nghymru wedi bod yn daith; mae hi wedi bod yn un hir. Os meddyliwch chi amdani am eiliad, gan wisgo eich hetiau amgylcheddol, fel taith reilffordd o Lundain—a bydd y Llywydd yn falch o hyn—i Aberystwyth. Nawr, ychydig iawn sydd eisiau i ni aros yn Paddington. Mae llai fyth eisiau rheolaeth uniongyrchol gan lywodraethwr tebyg i John Redwood mewn swyddfa yn Whitehall, er bod ambell un acw ar feinciau'r Ceidwadwyr eisiau mynd yn ôl i oes y trenau stêm a throi datganoli yn ei ôl. Mae'r rhan fwyaf ohonom ni yma, ac yng Nghymru, eisiau mynd yn ein blaenau ar frys, tân arni, ar y daith ddatganoli—gobeithio, Llywydd, ymlaen i Aberystwyth mewn trên trydan, drwy gefn gwlad Cymru, gan osgoi etholaethau rhai Aelodau Seneddol Torïaidd gwrth-Senedd yn Swydd Amwythig ar y ffordd.
Yn wahanol i Darren Millar, rwy'n croesawu penodiad y comisiynwyr. Fel y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, ni allwn ni gynnwys pawb, ac rydym ni i gyd yn gwybod pwy fyddai'r cyntaf i gwyno pe bai gormod o gomisiynwyr yn cael eu penodi.
Mae hwn yn gasgliad trawiadol iawn o gomisiynwyr, gyda phrofiad helaeth ac eang. Rwy'n falch iawn mai hwn yw'r comisiwn mwyaf amrywiol rŷn ni wedi'i weld hyd yn hyn yng Nghymru, ac mae'n galonogol gweld mwy o fenywod na dynion yn aelodaeth y comisiwn. Os caf i enwi rhai aelodau yn benodol: Dr Anwen Elias—mae hi'n dod â phrofiad helaeth ac academaidd ychwanegol i'r comisiwn. Mae hi wedi ysgrifennu'n ddiweddar yn The Welsh Agenda, gyda'i chydweithwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, am yr her o gynnwys pobl tu hwnt i'r wynebau arferol yn ein sgwrs genedlaethol i sicrhau bod y comisiwn mor gynhwysol â phosib. Rwy'n mawr obeithio y bydd modd defnyddio rhai o'r ffyrdd arloesol mae Dr Anwen Elias a'i chydweithwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi'u treialu dros yr haf. Ond, wrth gwrs—
—Cwnsler Cyffredinol, mae democratiaeth fwy cydgynghorol yn costio arian. Felly, a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ymrwymo i sicrhau bod gan y comisiwn ddigon o adnoddau i alluogi'r sgwrs ehangach yr ydym ni eisiau iddi ddigwydd, i ddigwydd?
Mae croeso i Lauren McEvatt, enwebai'r Ceidwadwyr, ac, yn amlwg, Ceidwadwr adeiladol. Mae gennym ni rai ohonyn nhw ar ôl o hyd. Ac mae ganddi gryn brofiad o gomisiwn Silk. Er gwaethaf y dwndwr acw gan Darren Millar ac eraill, rwy'n falch—[Torri ar draws.]—rwy'n falch bod y Ceidwadwyr yn cymryd rhan yn y comisiwn hwn.
Mae penodiad Shavanah Taj, ysgrifennydd cyffredinol TUC Cymru, i'w groesawu'n arbennig fel llais gweithwyr yng Nghymru. Ac mae hyn yn addas, onid yw, oherwydd yr oedd creu TUC Cymru yn 1974 yn gam pwysig ar daith ddatganoli. Roedd TUC Cymru ar y blaen pan ddaeth i ddatganoli, a chymerodd ychydig o amser i eraill ddal i fyny.
Rwyf i hefyd yn croesawu penodiadau Albert Owen a Kirsty Williams, ond yn arbennig felly fy rhagflaenydd yng Nghanol De Cymru Leanne Wood. Meddyliwch pa mor bell yr ydym ni wedi dod ar y daith hon. Pan gafodd Kirsty Williams a chi, Llywydd, a'r Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol hefyd eich ethol, yma am y tro cyntaf, yn 1999, corff corfforaethol oedd hwn. Pan gafodd Leanne ei hethol am y tro cyntaf, yn 2003, cafodd ei hethol i gorff nad oedd yn Senedd ddeddfwriaethol sylfaenol, a heb unrhyw bwerau i godi trethi. Roedd Leanne Wood wedi pwyso'n gyson am welliannau o fewn ein setliad datganoli. O'i phapur, 'Gwneud ein Cymunedau'n fwy Diogel' yn 2008, yn galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol, i'r 'Cynllun Gwyrdd i'r Cymoedd', yn argymell i Gymru gael pwerau dros Ystad y Goron, ac yna 'Y newid sydd ei angen', pryd y cyflwynodd hi agenda radical ar gyfer sicrhau bod penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru yn cael eu penderfynu yma yng Nghymru yn nwylo pobl Cymru. Fel y dywedodd hi heddiw, gyda'r Alban yn debygol o benderfynu ar ei dyfodol ei hun yn ystod y blynyddoedd nesaf, mae hwn yn gyfle i bobl Cymru gael y sgwrs fwyaf am ein dyfodol fel cenedl nag a gawsom ni erioed. Ac mae Leanne Wood yn gywir yn y fan yna, ac mae'r sgwrs honno'n hanfodol bwysig. Rydym ni'n byw mewn oes cyfryngau cymdeithasol sy'n polareiddio safbwyntiau ac yn pwysleisio drwgdeimlad cilyddol. Dyna pam y mae sgwrs mor bwysig, fel ein bod ni'n gwrando'n astud ar eraill, yn enwedig ar rai sydd â safbwyntiau gwahanol.
Cwnsler Cyffredinol, gan sôn eto am y panel arbenigwyr, sut fyddan nhw'n cael eu hapwyntio, a phryd rŷch chi'n meddwl y byddan nhw'n cael eu hapwyntio? A dwi'n sylwi y bydd yr ysgrifenyddiaeth ar wahân i'r gwasanaeth sifil, ond a fyddai modd sicrhau bod yr ysgrifenyddiaeth yn cael cefnogaeth adnoddau y gwasanaeth sifil pan fyddan nhw ei hangen?
Rwy'n edrych ymlaen at weld y comisiwn hwn yn ymgysylltu'n adeiladol â phobl ledled Cymru. Mae'n bwysig sicrhau bod dyfodol Cymru yn nwylo'r Cymry. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn dal i gredu y gall Cymru fod yn genedl annibynnol ac y bydd hi un diwrnod. Nid yw'n fater o os ond pan fyddwn ni'n dod yn annibynnol, ond, am y tro, gadewch i'n taith barhau. Ac ar y daith honno, gadewch i ni fod yn barod i wrando ar wirioneddau anghyfforddus, ond, yn bwysicach, gweithredu arnyn nhw. Diolch yn fawr.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau a'i gyfraniadau? Rydym ni wir wedi bod ar daith ddatganoli sy'n parhau, ac mae cymdeithas yn newid yn barhaus. Mae cyfansoddiadau'n newid yn barhaus. Nid oes dim yn aros yn sefydlog. Gwnaethoch chi ofyn nifer o gwestiynau eithaf pwysig. O ran maint y panel arbenigol, ac ati, rwy'n credu y byddaf i, mae'n debyg, yn cyflwyno datganiad ysgrifenedig maes o law pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael ar hynny. Yn amlwg, mae'n bwysig iawn bod aelodau'r comisiwn a'r cyd-gadeiryddion yn cyfrannu at ddylunio hynny, oherwydd mae'n rhannol ddibynnol ar fframwaith y broses ymgysylltu—y cynllun strategol y byddan nhw'n ei ddatblygu o ran sut y byddan nhw'n cyflawni eu gwaith. Ond mae'n gyfle ychwanegol o ran sgiliau ac amrywiaeth ychwanegol i gyfrannu at hynny. Ond y comisiwn yw'r corff a fydd yn gwneud y penderfyniadau allweddol.
A gaf i ddweud, rwy'n falch iawn bod Shavanah Taj TUC Cymru wedi ymuno â'r comisiwn, oherwydd gan gynrychioli rhywbeth fel 0.5 miliwn o aelodau undebau llafur yng Nghymru, mae eu mewnbwn yn wirioneddol arwyddocaol, ac maen nhw, wrth gwrs, yn cael eu comisiwn eu hunain? Felly, mae rhyng-gysylltiad naturiol yna.
Rwy'n cytuno â chi hefyd, o ran yr ystyriaethau ynghylch cyllid, fod yn rhaid iddo allu gwneud ei waith yn iawn i ymgysylltu, neu fel arall nid oes diben sefydlu'r comisiwn.
Rwy'n cytuno'n llwyr â rhai o'r sylwadau yr oedden nhw, yn fy marn i yn arwain at rai o'r sylwadau y mae un o'r cyd-gadeiryddion, Laura McAllister, wedi'u gwneud yn gyhoeddus yn ddiweddar, sef bod hyn yn ein rhoi ni ar y droed flaen. Mae'n ein galluogi i fod yn y sefyllfa, pan wyddom ni fod newid yn digwydd—gallwn ni weld bod newid o'n cwmpas ni, nid yn San Steffan yn unig, efallai'n fyd-eang ac yn sicr ar y llwyfan Ewropeaidd hefyd—am unwaith, yr hyn sy'n bwysig ynghylch hyn yw ein bod ni, o Gymru, yn gallu cyflwyno ein safbwynt ni ac nad ydym yn adweithiol yn unig i ddigwyddiadau a phenderfyniadau sy'n cael eu gwneud mewn mannau eraill. Ac mae'n ymddangos i mi fod hynny'n arwydd o aeddfedrwydd y wleidyddiaeth a'r ddemocratiaeth sy'n datblygu yng Nghymru
A gaf i orffen ar bwynt o undod ac ati mae'n debyg, gyda dau ddyfyniad penodol? Un oedd,
'Amrywiaeth yw'r un peth gwirioneddol sy'n gyffredin i bob un ohonom'.
Wrth gwrs, Winston Churchill oedd hwnna. A'r llall yw,
'Pan fydd pob un yn cael ei gynnwys, bydd pob un yn ennill', a dyna i chi Jesse Jackson. Diolch, Llywydd.
Diolch, Cwnsler Cyffredinol, am y datganiad yr ydych chi wedi'i wneud heno. Ond, gyda'r parch mwyaf, a oedd unrhyw bwynt gwirioneddol i'r datganiad hwn y prynhawn yma? A ydych chi wir yn credu bod y comisiwn hwn yn ddefnydd da o amser ac adnoddau Llywodraeth Cymru, o ystyried cyflwr ein GIG a'n system gofal cymdeithasol?
Er bod gennyf i bryderon gwirioneddol ynghylch cyfansoddiad y comisiwn hwn yn wleidyddol—sef, sôn am swyddi unochrog a swyddi i'r bechgyn—rwyf i'n pryderu mwy am yr hyn y byddai'n ei gostio i drethdalwyr Cymru, fel y gofynnodd fy nghyd-Aelod Darren Millar i chi'n gynharach yn y drafodaeth. Cwnsler Cyffredinol, a wnewch chi roi dadansoddiad o gostau cynnal y comisiwn hwn, o ran gwariant ariannol yn ogystal â'r gost o ddargyfeirio staff Llywodraeth Cymru o ddyletswyddau hanfodol eraill? Diolch.
Wel, diolch am eich sylwadau. Rwyf i bob amser yn poeni pan fydd rhywun yn dechrau ei araith â 'gyda'r parch mwyaf', sydd wedyn yn golygu ei fod yn mynd i fwrw ymlaen heb unrhyw barch o gwbl. Rwyf i hefyd yn poeni braidd pan fydd yr unigolyn wedyn yn sôn am gomisiwn sy'n saith menyw i bedwar dyn, fel 'swyddi i'r bechgyn', a tybed pan wnaethoch chi ysgrifennu'r araith a wnaethoch chi gyffwrdd â hyn—nid mor ysgafn eich troed â'r hyn yr hoffech i fod. Rwyf i eisoes wedi ateb y cwestiwn am y gost. A dweud y gwir, nid wyf i'n gweld llawer iawn o bwynt mynd dros hen dir y comisiwn; rydym ni wedi hen drafod hynny. Mae gennym ni fandad etholiadol i'r comisiwn hwn fynd yn ei flaen, ac rwy'n credu ei fod yn gomisiwn hynod amserol sy'n cael ei sefydlu ar hyn o bryd yn nyfodol cyfansoddiadol y DU, Ewrop, a'r sefyllfa fyd-eang yn y byd. Diolch.
A dyna ddiwedd ar y ceisiadau i siarad ar y datganiad yna, felly dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am y prynhawn, heddiw. Diolch yn fawr.