Part of the debate – Senedd Cymru am 6:06 pm ar 16 Tachwedd 2021.
Cwnsler Cyffredinol, gan sôn eto am y panel arbenigwyr, sut fyddan nhw'n cael eu hapwyntio, a phryd rŷch chi'n meddwl y byddan nhw'n cael eu hapwyntio? A dwi'n sylwi y bydd yr ysgrifenyddiaeth ar wahân i'r gwasanaeth sifil, ond a fyddai modd sicrhau bod yr ysgrifenyddiaeth yn cael cefnogaeth adnoddau y gwasanaeth sifil pan fyddan nhw ei hangen?