1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 16 Tachwedd 2021.
1. Pa effaith y mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd COP26 yn ei chael ar Gymru yn cyrraedd sero net? OQ57192
Rwy'n diolch i John Griffiths am y cwestiwn yna, Llywydd. Bydd COP26 yn rhoi cyfleoedd i Gymru arloesi, cydweithio a datblygu partneriaethau rhyngwladol i'n helpu i gyflawni ein huchelgais sero-net erbyn 2050. Byddwn yn cynyddu ein hallforion sgiliau a gwasanaethau gwyrdd ac yn denu buddsoddiad i Gymru wrth geisio sicrhau trosglwyddiad cyfiawn i sero-net.
Prif Weinidog, roeddwn i'n ffodus o gael bod yn bresennol yn COP26 yr wythnos diwethaf, ac roeddwn i'n falch o weld sylw yn cael ei dynnu yno at bwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus integredig yn yr ymdrech fyd-eang i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Ac, wrth gwrs, yn lleol yn y de-ddwyrain mae gennym ni argymhellion comisiwn Burns, y mae llawer ohonyn nhw yn cyfeirio at yr angen hwnnw am drafnidiaeth gyhoeddus fwy integredig fel y ffordd ymlaen i'n hardal ni. Rwy'n meddwl tybed, pan fyddwch chi'n myfyrio ar COP26 a chomisiwn Burns, a sut y maen nhw'n cysylltu â'i gilydd, beth fyddech chi'n ei ystyried yw'r ffordd ymlaen ar gyfer yr argymhellion hynny gan Burns, ac yn arbennig efallai, mesurau cychwynnol dros y flwyddyn neu ddwy nesaf os ydym ni am chwarae ein rhan yn y de-ddwyrain i wneud y cynnydd angenrheidiol o ran trafnidiaeth integredig, sy'n rhan bwysig o'r ymdrech gyffredinol i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.
Hefyd, o gofio bod tacsis yn rhan bwysig o'r cymysgedd ac, yn wir, yn arwyddocaol ar gyfer ansawdd aer, pryd y gallwn ni ddisgwyl gweld fflydoedd tacsis ledled Cymru yn mynd yn gerbydau trydan?
Llywydd, rwy'n diolch i John Griffiths am hynna, ac yn diolch iddo am fod yn COP i gynrychioli ei bwyllgor ei hun ac i wneud yn siŵr bod Cymru, ar lefel seneddol, yn cael ei chynrychioli ac yn gallu cynnal sgyrsiau, mi wn, â chynrychiolwyr seneddol o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig a ledled y byd.
Wel, mae'n ymddangos i mi, Llywydd, fod adroddiad pwyllgor Burns yn gwbl gyson â neges COP26, bod yn rhaid i ni newid y ffordd yr ydym ni'n teithio, bod yn rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd a gwell o wneud yn siŵr ein bod ni'n pwysleisio llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer cludiant yn hytrach na dibynnu ar y car. Nawr, mae'r uned sydd wedi ei sefydlu gan Trafnidiaeth Cymru yn bwrw ymlaen â'r 58 o argymhellion adolygiad Burns, ac rydym yn disgwyl ei hadroddiad blynyddol cyntaf yn fuan gan y ddau berson annibynnol sydd wedi eu penodi i oruchwylio gwaith yr uned honno. Bydd yn canolbwyntio ar gamau y gellir eu cymryd ar unwaith—gwella llwybrau teithio llesol i orsafoedd rheilffordd, er enghraifft, gan wneud yn siŵr bod llwybrau beicio newydd arloesol i ganiatáu i bobl symud ar feic yn ogystal ag ar drafnidiaeth gyhoeddus, a bydd yn parhau â'i gwaith i roi mwy o fanylion am argymhellion yr adolygiad sy'n dibynnu ar ailagor y llinell arall sydd ar gael o dde Cymru dros y ffin. Ac, fel hynny, rydym yn parhau i edrych ymlaen at ganlyniadau adolygiad cysylltedd Llywodraeth y DU. Bydd yn brawf gwirioneddol o Lywodraeth y DU a'i pharodrwydd i fuddsoddi mewn pethau y mae'n gyfrifol amdanyn nhw ac sy'n gwneud gwahaniaeth mor uniongyrchol yma yng Nghymru.
O ran tacsis, Llywydd, mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais y bydd pob tacsi a cherbyd hurio preifat yn cynhyrchu dim allyriadau o bibellau mwg erbyn 2028. Rydym yn cynorthwyo yn y gwaith trosglwyddo hwnnw gyda chyllid yn ogystal â mesurau polisi, ac rwy'n gwybod y bydd John Griffiths wedi gweld, yr wythnos diwethaf, ar 10 Tachwedd, ein bod ni wedi lansio cynllun treialu 'rhoi cynnig cyn prynu'. Mae'n gynllun sy'n caniatáu i yrwyr a pherchnogion tacsis ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd, yn sir Ddinbych, ac yn sir Benfro roi cynnig ar gerbyd cwbl drydanol sy'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn am ddim am 30 diwrnod er mwyn hysbysebu manteision y cerbydau trydan y tynnodd John Griffiths sylw atyn nhw.
Prif Weinidog, rydym ni i gyd eisiau i Gymru sicrhau sero-net cyn gynted â phosibl, ac rwy'n croesawu rhai o'r cynlluniau yr ydych chi newydd eu hamlinellu. Ond er bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer o siarad, gan ddatgan argyfwng hinsawdd yma yn 2019, mae polisïau a newid wedi bod yn araf ac yn feichus, mae targedau allweddol wedi eu methu neu eu newid, ac mae cyllidebau olynol wedi bod ymhell o fod yn wyrdd. Mae adroddiad cyflwr natur 2020 wedi tynnu sylw at y ffaith nad yw Cymru wedi cyflawni unrhyw un o'i phedwar nod ar gyfer y dull rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, ac mae'r cynllun cerbydau trydan diweddaraf yn hwyr ac nid yw'n cynnwys y manylion sydd eu hangen ar bobl Cymru. Prif Weinidog, pryd wnewch chi fuddsoddi'r arian sydd ei angen i fodloni'r targedau y mae eich Llywodraeth eich hun wedi eu gosod i'w hun?
Llywydd, nid wyf i'n adnabod y darlun truenus y mae'r Aelod yn ei gyfleu; byddai croeso mawr i ychydig yn fwy o sirioldeb ynghylch Cymru a'n rhagolygon ar gyfer y dyfodol. Mae'r Llywodraeth hon wedi cymryd camau radical, sydd fel rheol yn cael eu gwrthwynebu, wrth gwrs, gan ei Haelodau hi; pryd bynnag y bydd newid, mae Aelodau'r Blaid Geidwadol ar eu traed i'w wrthwynebu, ac mae ganddyn nhw'r agwedd honno wrth sôn am newid yn yr hinsawdd. Gadewch i ni glywed cyfres arall o areithiau o blaid ffordd fawr o amgylch Casnewydd a gweld pa les fyddai hynny i'r newid yn yr hinsawdd. [Torri ar draws.] Dyna'n union yr wyf i'n ei olygu. Daw'r cwestiwn sy'n cael ei ofyn i mi gan blaid sydd â'r hanes erioed o wrthwynebu'r camau angenrheidiol sydd eu hangen, boed hynny ym maes trafnidiaeth, boed hynny yn y ffordd y bydd angen i ni newid ein deiet yn y dyfodol—byddwn ni'n clywed araith arall yn y munud o blaid polisïau adweithiol ym maes amaethyddiaeth. Beth bynnag yw ef, maen nhw yn ei wrthwynebu, rydym ni'n ei wneud.