1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 16 Tachwedd 2021.
6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o reolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OQ57214
Llywydd, penodwyd prif weithredwr newydd, cyfarwyddwr meddygol newydd a dau aelod annibynnol newydd eleni i gryfhau arweinyddiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fel sy'n ofynnol o dan y lefel bresennol o ymyrraeth a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.
Diolch. Prif Weinidog, yn ogystal â'r prif weithredwr, y cadeirydd, yr is-gadeirydd, saith aelod annibynnol, saith cyfarwyddwr gweithredol, mae'r bwrdd hefyd yn talu wyth cyfarwyddwr rhanbarth cyfan a 36 o gyfarwyddwyr, penaethiaid ac arweinwyr ar gyfer y rhanbarthau unigol—cyfanswm o 66 o gyfarwyddwyr. Er gwaethaf y strwythur rheoli pendrwm hwn, byddwch yn ymwybodol o lythyrau a dderbyniwyd yr wythnos diwethaf gan feddygon sy'n gweithio mewn adrannau brys yn Ysbyty Gwynedd, Glan Clwyd a Maelor, ac roedden nhw'n eich rhybuddio chi ac eraill bod ein harweinyddiaeth feddygol a nyrsio wedi methu â mynd i'r afael â phatrymau ymddygiad sy'n andwyo effeithlonrwydd ac nad ydyn nhw wedi esblygu ers degawdau.
Mae'r llythyrau brawychus hyn yn tanlinellu bod adrannau wedi mynd yn orlawn fel mater o drefn i'r pwynt lle mae darparu hyd yn oed yr agweddau mwyaf sylfaenol ar feddygaeth frys, fel trosglwyddiad cyflym o ambiwlansys, brysbennu, asesiadau ac ymchwiliadau cynnar, ac ymyriadau cyfnod allweddol o ran sepsis, strôc, gofal cardiaidd, trawma mawr a dadebru wedi'i beryglu yn fawr. Ac mae hynny er gwaethaf cyfradd swyddi gwag bresennol o 670 o swyddi gwag ar gyfer nyrsys rheng flaen. O ystyried yr anhrefn hwn sy'n bodoli o fewn y bwrdd hwn, a wnewch chi gael trafodaeth gyda'ch Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i sefydlu ymchwiliad i'r rheolwyr i ganfod ai eu tynnu nhw allan o fesurau arbennig, ychydig cyn etholiad, oedd y penderfyniad cywir mewn gwirionedd?
Wel, Llywydd, yr wythnos diwethaf roedd yr Aelod yn cwyno nad oedd digon o fiwrocratiaid y tu ôl i'w desgiau, a'r wythnos hon mae hi eisiau cwyno bod gormod. [Torri ar draws.] Roeddwn i yn y Siambr yr wythnos diwethaf pan gwynodd yr Aelod am brinder pobl y tu ôl i'w desgiau yn y gogledd, ac rwy'n gwrando'n astud ar yr hyn y mae'n ei ddweud heddiw wrth gwyno bod gormod o bobl yn gwneud y swyddi hynny. Ni dderbyniwyd unrhyw lythyr yr wythnos diwethaf, Llywydd. Ysgrifennwyd y llythyrau hynny ym mis Rhagfyr y llynedd a mis Mehefin eleni—[Torri ar draws.] A'r llythyrau y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw, Llywydd—. Rwy'n gwrando'n astud arni, hyd yn oed os nad yw'n gwrando arni hi ei hun. Ysgrifennwyd y llythyrau y cyfeiriodd hi atyn nhw ym mis Rhagfyr y llynedd a mis Mehefin y llynedd—
Cymerwch y peth o ddifrif—
Fe wnaf i gymryd y peth o ddifrif, oherwydd rwyf i hefyd wedi gweld yr ateb a roddodd y bwrdd i'r llythyrau hynny ym mis Gorffennaf eleni—y papur bwrdd, y papur bwrdd manwl iawn, a'r papur bwrdd difrifol iawn a aeth drwy'r pwyntiau a godwyd gan y clinigwyr hynny, oherwydd maen nhw wir yn bwyntiau pwysig iawn, ac mae'r bwrdd yn eu trin gyda'r difrifoldeb y maen nhw'n ei haeddu. Mae ganddyn nhw 800 yn fwy o nyrsys yn Betsi Cadwaladr nag yr oedd ganddyn nhw ddechrau tymor diwethaf y Senedd, felly mae hynny'n 800 yn fwy o bobl sy'n gallu helpu'r bwrdd i ddarparu'r gwasanaethau y mae pobl yn etholaeth yr Aelod ac ar draws y gogledd yn dibynnu arnyn nhw ac yn eu haeddu.
Mae'r gwasanaeth iechyd, ym mhob rhan o Gymru ac ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, o dan y pwysau mwyaf enfawr, a gall fod yn sicr a gall y bobl—[Torri ar draws.] Efallai nad yw'n ddigon da i'r Aelod, ond nid oes ganddi hi hudlath ac nid oes ganddi atebion hawdd i'r problemau hyn ac nid oes gan neb arall chwaith. Gall fod yn sicr ac, yn bwysicach na hynny, gall trigolion y gogledd fod yn sicr bod holl ymdrech y bwrdd a'i uwch reolwyr yn cael ei gyfeirio at wneud popeth o fewn eu gallu i ymdrin â'r pwysau dyddiol y mae'r gwasanaeth iechyd yn eu dioddef, ac i wneud yn siŵr bod y miloedd o bobl sydd, dim ond heddiw, yn ystod yr un diwrnod hwn, y miloedd o bobl yn y gogledd a fydd wedi defnyddio'r gwasanaeth iechyd ac wedi ei ddefnyddio yn llwyddiannus, yn parhau i dderbyn y gwasanaeth hwnnw.