Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Diolch, Weinidog. Un sector sydd yn derbyn arian gan lywodraeth leol sy'n anstatudol ydy amgueddfeydd lleol. Hoffwn ofyn, felly, pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu amgueddfeydd lleol yn benodol, sydd yn bennaf yn cael eu hariannu gan awdurdodau lleol, ond sydd wedi dioddef toriadau enbyd o 31 y cant dros 10 mlynedd, gan nad ydynt yn wasanaeth statudol. Oes mwy mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud o ran darparu cyllid penodol i'w cefnogi i oroesi?