Gwasanaethau Anstatudol

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 17 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 2:11, 17 Tachwedd 2021

Hoffwn ddatgan ar ddechrau'r cwestiwn fy mod yn gynghorydd sir ar gyfer Rhondda Cynon Taf.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 17 Tachwedd 2021

7. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau anstatudol? OQ57201

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:11, 17 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaethau statudol ac anstatudol drwy gyllid blynyddol y setliad craidd a thrwy grantiau penodol.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru

Diolch, Weinidog. Un sector sydd yn derbyn arian gan lywodraeth leol sy'n anstatudol ydy amgueddfeydd lleol. Hoffwn ofyn, felly, pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu amgueddfeydd lleol yn benodol, sydd yn bennaf yn cael eu hariannu gan awdurdodau lleol, ond sydd wedi dioddef toriadau enbyd o 31 y cant dros 10 mlynedd, gan nad ydynt yn wasanaeth statudol. Oes mwy mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud o ran darparu cyllid penodol i'w cefnogi i oroesi?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:12, 17 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Credaf mai'r peth pwysicaf y gallwn ei wneud i ddiogelu gwasanaethau anstatudol yw rhoi'r setliad gorau posibl i lywodraeth leol drwy'r grant cynnal refeniw a thrwy'r grantiau penodol eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu. Nid yw tua 80 y cant o'r grant cynnal refeniw wedi'i neilltuo, felly mae'n bwysig fod gan awdurdodau lleol ryddid i fuddsoddi yn unol â'u blaenoriaethau lleol. Ond fel y dywedais, byddwn yn cyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru ar 20 Rhagfyr, ac rydym eisoes wedi nodi y byddem yn ceisio blaenoriaethu cyllid ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ac anelu i roi'r setliad gorau posibl i lywodraeth leol. Wrth wneud hynny, credaf mai dyna'r ffordd orau o sicrhau bod y gwasanaethau anstatudol ond hynod werthfawr hyn yn y sefyllfa orau.