Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Credaf mai'r peth pwysicaf y gallwn ei wneud i ddiogelu gwasanaethau anstatudol yw rhoi'r setliad gorau posibl i lywodraeth leol drwy'r grant cynnal refeniw a thrwy'r grantiau penodol eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu. Nid yw tua 80 y cant o'r grant cynnal refeniw wedi'i neilltuo, felly mae'n bwysig fod gan awdurdodau lleol ryddid i fuddsoddi yn unol â'u blaenoriaethau lleol. Ond fel y dywedais, byddwn yn cyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru ar 20 Rhagfyr, ac rydym eisoes wedi nodi y byddem yn ceisio blaenoriaethu cyllid ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ac anelu i roi'r setliad gorau posibl i lywodraeth leol. Wrth wneud hynny, credaf mai dyna'r ffordd orau o sicrhau bod y gwasanaethau anstatudol ond hynod werthfawr hyn yn y sefyllfa orau.