2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 17 Tachwedd 2021.
2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch buddsoddi mewn isadeiledd yn y Gogledd? OQ57186
Diolch. Rwyf wedi cynnal sawl trafodaeth gyda Gweinidog yr Economi ar amrywiaeth o faterion ledled gogledd Cymru, ac yfory byddaf yn cadeirio pwyllgor y Cabinet ar ogledd Cymru, y bydd y Gweinidog yn ei fynychu. Rydym yn parhau i weithio'n agos iawn gyda'n partneriaid yn y sector cyhoeddus i sicrhau'r buddsoddiadau seilwaith economaidd gorau posibl ar draws pob rhan o Gymru, fel yr amlinellir yn ein rhaglen lywodraethu.
Gyda hynny mewn golwg, mae penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig, wrth gwrs, i beidio â chefnogi cais cyngor Wrecsam i'r gronfa lefelu i fyny i adnewyddu'r Cae Ras yn ergyd i'r clwb ac i bêl-droed yn ehangach, ac, yn wir, i'r rhanbarth yn ehangach hefyd. Mi fyddwch chi'n ymwybodol, dwi'n gwybod, bod tîm pêl-droed Wrecsam eisoes yn denu torfeydd o ryw 10,000 ar gyfer gemau cartref erbyn hyn. Mae'r Cae Ras yn llawn ar ddyddiau Sadwrn, ac mae angen datblygu y Cae Ras, nid yn unig er mwyn y clwb, ond er mwyn, fel roeddwn i'n dweud, sicrhau adnodd rhanbarthol a chenedlaethol fydd yn medru denu gemau rhyngwladol ar bob lefel yn y dyfodol. Mae hynny'n berthnasol yn enwedig heddiw, wrth gwrs, gan fod yna filoedd o bobl o'r gogledd wedi gorfod teithio unwaith eto i Gaerdydd i wylio'r tîm cenedlaethol yn chwarae. Mae Llywodraeth ar ôl Llywodraeth, wrth gwrs, yma yng Nghaerdydd, wedi siarad am hyn o safbwynt y Cae Ras, ond erioed wedi delifro. Dwi'n awyddus inni sicrhau bod datblygiad yn mynd yn ei flaen er gwaethaf penderfyniad Llywodraeth San Steffan, felly a wnewch chi fel Gweinidog ymrwymo i sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer datblygu'r rhan yma o'r dre, ac, wrth gwrs, gyfrannu at dwf y rhanbarth yn ehangach?
Diolch. Fel y dywedwch, roedd llawer mwy ar eu colled, rwy'n credu, nag a oedd ar eu hennill yng Nghymru o ganlyniad i gyhoeddiad Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa codi'r gwastad. Chwe awdurdod lleol yn unig a fu'n llwyddiannus yn eu ceisiadau, a gwrthodwyd gwerth £172 miliwn o geisiadau am gyllid. Roedd hynny'n amlwg yn cynnwys y Cae Ras yn fy etholaeth i yn Wrecsam, a thri chais canol tref ym Mangor, Abermaw a'r Bala. Credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn, a chofiais eto neithiwr; pan oeddwn yn ferch ifanc, ni fyddwn byth wedi gallu dod i lawr i Gaerdydd i wylio gemau pêl-droed rhyngwladol. Roedd yr holl gemau pêl-droed rhyngwladol a welais ar y Cae Ras, a chredaf ein bod yn colli grŵp o bobl ifanc nad yw eu rhieni'n gallu eu hebrwng i lawr. Yn sicr, fel y dywedwch, mae'r Cae Ras yn denu torfeydd o ychydig o dan 10,000 bob yn ail wythnos. Yn bendant, mae ewyllys o fewn y clwb pêl-droed a'r dref i weld cyfleusterau ychwanegol yn dod i'r Cae Ras. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru yn bartner ym mhrosiect porth Wrecsam, gan weithio gyda Phrifysgol Glyndŵr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a byddaf yn sicr yn gwneud popeth y gallaf ei wneud, fel Aelod o'r Senedd, ac fel Gweinidog gogledd Cymru, i sicrhau bod y prosiect hwnnw'n mynd rhagddo'n hwylus. Mae'n sicr yn ymddangos felly. Rwy'n sylweddoli ei fod yn brosiect hirdymor.
Yn ffodus, mae cais porth Wrecsam yn mynd i rownd 2 y gronfa codi'r gwastad, ac wrth gwrs roedd cais De Clwyd yn llwyddiannus yn rownd 1.
Yn gynharach eleni ymwelais â safle'r tirlithriad rhwng Trecelyn a Chefn Mawr, a achoswyd gan storm Christoph, gan gau'r B5605 yno. Pan ysgrifennais at Lywodraeth Cymru am y niwed hwn i seilwaith allweddol, nododd ymateb y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ym mis Gorffennaf fod cais cyngor Wrecsam am gyllid i Lywodraeth Cymru yn
'aflwyddiannus oherwydd na fyddai gwaith atgyweirio yn lleihau'r perygl o lifogydd i eiddo ac na fyddai ond o fudd i'r briffordd'.
Yna ysgrifennodd arweinydd amgylchedd a thrafnidiaeth cyngor Wrecsam, 'Rydym yn rhagweld cost atgyweirio o tua £1 filiwn ac rydym yn pryderu na fydd y cyngor, heb gefnogaeth, yn gallu ariannu'r niwed sy'n gysylltiedig â stormydd.' Ond fel yr ysgrifennodd etholwr yr effeithiwyd arno y mis hwn, 'Mae llawer o bobl yn y pentrefi hyn heb geir at eu defnydd, ac maent angen trafnidiaeth sy'n golygu cerdded milltiroedd i'r safle bws agosaf neu orfod llogi tacsis costus.' Yn gynharach y mis hwn, cadarnhaodd y cyngor eu bod wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyngor gan ymgynghorwyr geodechnegol, a byddant yn cyflwyno achos busnes ar gyfer cyllid gan Lywodraeth Cymru. Sut, felly, rydych yn ymateb i'w datganiad mai'r rhwystr mwyaf fydd cael cyllid yn y flwyddyn ariannol hon i'w galluogi i gynllunio a chyflawni'r gwaith cyn gynted â phosibl?
Y tro diwethaf imi gael trafodaeth am y mater hwn gyda dirprwy arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, fy nealltwriaeth i oedd eu bod yn credu mai mater iddynt hwy oedd hyn bellach, a'u bod yn prosesu eu cais. Felly, nid wyf yn cydnabod hynny.
Rwyf wedi cael ymateb ynglŷn â hynny hefyd a dywedwyd wrthyf ei fod yn cael sylw, gyda swyddogion yn cyfarfod â swyddogion Wrecsam hefyd. Diolch.
Cafodd gwelliannau ar hyd yr A55 yng Ngwynedd 50 y cant o gyllid yr UE i wneud y gwaith. Un enghraifft yn unig yw hon o sut roedd seilwaith gogledd Cymru yn elwa o fod yn fuddiolwr net o gyllid Ewropeaidd. Cawsom addewid na fyddem yn waeth ein byd ar ôl Brexit, ac eto un awdurdod lleol yn unig yng ngogledd Cymru—Wrecsam—a elwodd o'r gronfa newydd, y gronfa codi'r gwastad, a hynny ar gyfer traphont ddŵr Pontcysyllte. Cyflwynodd cyngor sir y Fflint gais am gyllid rhanbarthol â blaenoriaeth uchel ar gyfer prosiectau seilwaith, gan gynnwys gorsaf barcffordd Glannau Dyfrdwy, a fyddai'n gwella mynediad i drigolion gogledd Cymru at 400 o fusnesau a 5,000 o swyddi ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, cyfleusterau parcio a theithio yng ngorsaf Pen-y-ffordd, a gwelliannau ar gyfer cludo nwyddau yn Castle Cement i alluogi cynnydd arfaethedig yn y gwasanaethau ar reilffordd Wrecsam-Bidston i ddau drên yr awr. Ni chafodd dim o hyn ei ariannu. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi fod Llywodraeth y DU yn gwneud cam â gogledd Cymru drwy beidio â darparu'r un swm o gyllid a buddsoddiad mewn seilwaith ag y byddem wedi'i gael pe byddem yn dal i fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd?
Yn sicr, rwy'n cytuno â'r Aelod. Yn amlwg, mae gweithredoedd Llywodraeth y DU yn gostwng y gwastad i Gymru gyfan, a gogledd Cymru yn bendant, yn hytrach na chodi'r gwastad, ac yn sicr mae gennym lai o lais dros lai o arian. Credaf fod hynny'n gwbl annerbyniol ac yn bendant, nid dyna a addawyd i ni. Felly, credaf eich bod yn iawn i fynegi pryderon ynghylch buddsoddiadau ar gyfer gogledd Cymru yn y dyfodol. Credaf fod hyn yn debyg o fod wedi gosod cynsail ar gyfer yr hyn sydd i ddod yn y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn defnyddio Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a'i methiant i sicrhau cyllid llawn yn lle cyllid Ewropeaidd. Nid yw'n ymddangos bod unrhyw sylwedd yn sail i'w hagenda codi'r gwastad.