10. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2020-21 ac ail adroddiad 5 mlynedd y Comisiynydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:56 pm ar 23 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:56, 23 Tachwedd 2021

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom ni yma yn y Senedd, yn y Llywodraeth ac, yn bwysicach, bobman arall yng Nghymru. Dyna dwi wedi'i bwysleisio ers cael fy mhenodi'n Weinidog dros ein hiaith ni, a dyna dwi'n ei bwysleisio heddiw. Faint bynnag o Gymraeg rŷn ni'n ei siarad a beth bynnag mae ein cyswllt â'r iaith wedi bod, mae gyda ni i gyd gyfraniad i'w wneud iddi. Mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf i mi. Dwi'n ddiolchgar i'm rhieni am ei rhoi hi i mi, ac mae medru dwy iaith yn rhoi dwy ffenestr inni edrych ar y byd. Felly, cyn mynd ymlaen at graidd y drafodaeth, dyma jest osod fy ngweledigaeth i yn gryno ar gyfer ein hiaith ni, a sut y byddaf i'n gweld fy ngwaith i fel Gweinidog y Gymraeg.

Dwi am i fwy gael beth ges i. Dwi eisiau i fwy o bobl ddysgu'n hiaith. Dwi am fyw hynny o fy mywyd a allaf i drwy'r Gymraeg. Rydych chi efallai'n meddwl bod dim byd newydd yn fanna, ond ydyn ni yn y pentref polisi Cymraeg yn canolbwyntio digon ar ddefnydd iaith? Ydyn ni'n osgoi hynny efallai am ei fod ef bach yn anodd weithiau? Dwi am i fwy o bobl ddefnyddio'n hiaith ni, nid jest gallu ei siarad hi. Felly, defnydd yw'r allwedd i mi, a drwy brism defnydd dwi'n gweld fy ngwaith fel Gweinidog—defnydd nid jest darparu. 

Nôl ym mis Gorffennaf, fe wnes i gyhoeddi cynllun gwaith pum mlynedd 'Cymraeg 2050' er mwyn gwneud yn siŵr bod y weledigaeth honno'n dod yn fyw. Edrych ymlaen at bum mlynedd nesaf polisi iaith rôn i bryd hwnnw, ac mae cynlluniau reit gyffrous gyda ni ar y gweill, a mwy am y rheini dros y misoedd sy'n dod. Ond o dro i dro mae'n bwysig edrych nôl, a dyna rŷn ni'n ei wneud heddiw, ac rŷn ni'n gwneud hynny dros y flwyddyn ddiwethaf a dros y pum mlynedd diwethaf drwy lygaid Comisiynydd y Gymraeg.

Dyw'r cyfnod diweddar ddim wedi bod yn un hawdd i'r comisiynydd. Fel pob un ohonom ni, roedd yn rhaid i'r comisiynydd addasu i ddulliau newydd o weithio oherwydd COVID. Ond ar ben hynny, fe ddioddefodd y comisiynydd ymosodiad seiber anffodus iawn, ac mae'r gwaith adfer yn dilyn hwnnw wedi bod yn sylweddol. Rŷn ni'n parhau i weithio gyda'r comisiynydd i'w helpu gyda'r gwaith o adfer ei systemau yn dilyn yr ymosodiad yna.

Ym mis Hydref, fe gyhoeddodd y comisiynydd ei adroddiad pum mlynedd. Diben yr adroddiad yw rhoi trosolwg annibynnol inni o sefyllfa'n hiaith, rhywbeth sy'n hollbwysig wrth inni weithio tuag at y targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050, a dyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg.

Yn ei adroddiad pum mlynedd ar sefyllfa'r Gymraeg yn ystod y cyfnod hwnnw, mae'r comisiynydd yn ffocysu ar waith y Llywodraeth ac yn gosod sawl her inni. A dwi wastad yn croesawu heriau deallus ym mhob agwedd ar fy ngwaith. Does gan neb fonopoli ar syniadau da, a gaf i gymryd y cyfle i ddiolch i'r holl gyrff ac ymgyrchwyr eraill sydd wedi bod yn gweithio dros y Gymraeg yn y cyfnod o dan ystyriaeth yn yr adroddiad?

Mae themâu tebyg yn amlwg yn y ddau adroddiad rŷn ni'n eu trafod heddiw, yr adroddiad blynyddol a'r adroddiad pum mlynedd. Yn un peth, mae'r comisiynydd yn gofyn inni ddod â mwy o gyrff a sectorau o dan drefn safonau'r Gymraeg. Dwi am fod yn glir ac yn groyw am y safonau: rwy'n cefnogi'r drefn safonau ac yn edrych ymlaen at gydweithio gyda Phlaid Cymru ar sail ein cytundeb cydweithredu ar hyn. Fel y comisiynydd, rwy'n falch bod gyda ni bellach fwy o hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg gyda chyrff cyhoeddus, a dwi hefyd eisiau gwybod beth yn union yw effaith y safonau yna ar ddefnydd dydd i ddydd ein hiaith ni.

Os nad yw e'n hollol amlwg hyd yn hyn, dwi'n benderfynol o ystyried popeth rwy'n ei wneud fel Gweinidog y Gymraeg, drwy ba sianel bynnag, drwy lens defnydd y Gymraeg. Felly, dwi wedi gofyn i'r comisiynydd wneud darn o waith yn ystyried hyn. Dwi wedi gwneud hyn oherwydd fy mod i'n awyddus i ddeall sut mae'r safonau sydd eisoes wedi eu gosod yn helpu siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio mwy o Gymraeg ac am y rhwystrau sy'n atal pobl rhag defnyddio gwasanaethau Cymraeg. Yn ei adroddiad pum mlynedd, mae'r comisiynydd ei hun yn cydnabod nad yw nifer y bobl sy'n dewis defnyddio gwasanaethau Cymraeg yn cyfateb i'r nifer sy'n gallu siarad Cymraeg, felly mae'n rhaid inni edrych i mewn i hynny. 

Mae'n rhaid inni ddeall mwy hefyd am y rhwystrau mae sefydliadau yn dod wyneb yn wyneb â nhw wrth iddyn nhw roi cynnig ar ddarparu gwasanaethau Cymraeg, a deall pwy sydd yn y lle gorau i'w helpu a sut mae'r help yna'n edrych. Bydd casgliadau'r gwaith yna yn cyfoethogi dylanwad y safonau y byddwn ni'n eu paratoi yn y dyfodol, gyda'r bwriad eu bod nhw'n cynyddu faint o Gymraeg rŷn ni'n ei defnyddio o ddydd i ddydd.

Mae'r comisiynydd hefyd yn rhannu ein pryderon ni am effeithiau COVID ar y Gymraeg. Trwy gydol y pandemig, rŷn ni wedi bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth a thu hwnt er mwyn ymateb i sefyllfa a oedd yn newid yn gyflym. Rŷn ni wedi cyhoeddi ymateb reit sylweddol i'r awdit wnaethom ni ar effaith COVID-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg. Rŷn ni eisoes wedi dechrau gweithredu. Hefyd, mae rhai llwyddiannau wedi dod yn ystod y cyfnod anodd yma. Rydym ni wedi gweld diddordeb fel rydym ni erioed wedi ei weld mewn dysgu Cymraeg, er enghraifft, gyda lot o gyrsiau rhithiol newydd.

Mae fy mlaenoriaethau i dros y Gymraeg yn glir. Dwi am weld mwy o bobl yn defnyddio pa Gymraeg bynnag sydd gyda nhw bob dydd, yn eu cartrefi, yn eu cymunedau a'u gweithleoedd. Mae angen inni ddysgu gwersi o beth sy'n gweithio a beth sydd ddim, ac mae angen inni fod yn ddigon dewr i newid siẁd rŷn ni'n gwneud pethau os nad ŷn nhw'n gweithio. Mae angen inni flaenoriaethu, a gallai hynny olygu stopio gwneud rhai pethau er mwyn gwneud pethau mwy pellgyrhaeddol. Ac mae angen inni i gyd, yn Llywodraeth, yn gomisiynydd ac yn bartneriaid oll, sylweddoli bod y byd wedi newid ac, oherwydd y newidiadau hyn, mae'n amlwg bod angen inni hefyd newid y ffordd rŷn ni'n gweithio ac esblygu hynny.