Part of the debate – Senedd Cymru am 6:03 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Hoffwn i groesawu'r ddadl heddiw ar y ddau adroddiad gan Gomisiynydd y Gymraeg, a hoffwn ddatgan buddiant. Dyma'r cyfle cyntaf i mi wneud sylwadau ar waith y comisiynydd a hoffwn dalu teyrnged i'r gwaith caled y mae ef a'i dîm wedi'i wneud i gyflawni eu rolau, nid yn unig dros y 18 mis diwethaf, ond cyn hynny hefyd. Fel rydw i a llawer ohonom ni yn y Siambr hon wedi dweud, a chi hefyd, Weinidog, mae'r iaith Gymraeg yn perthyn i bawb, o bob cefndir. Mae'r gwaith y mae Comisiynydd y Gymraeg yn ei wneud yn helpu nid yn unig i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg, ond i ddiogelu a chynyddu’r defnydd hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gan edrych ar yr adroddiad pum mlynedd, rwy'n nodi pryder y comisiynydd:
'Er i'r uchelgais i gyrraedd miliwn o siaradwyr gael ei chroesawu’n fawr adeg ei chyhoeddi yn 2017, mae peth amheuaeth ynghylch a yw'r ymdrechion hyd yma'n ddigonol i'w gwireddu.'
O gofio mai dim ond ers mis Mai yr ydych chi wedi bod yn Weinidog dros y Gymraeg, mae gennyf ddiddordeb mewn clywed a ydyn ni'n dal i fod ar y trywydd cywir i gyrraedd y targed hwn erbyn 2050 a pha gamau yr ydych chi wedi eu cymryd i sicrhau ein bod ni'n cyrraedd y targed.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod yna ganfyddiad ymhlith siaradwyr Cymraeg fod gwasanaethau Cymraeg yn gwella i lefel lle maent yn hapus i drafod eu busnes gyda sefydliadau cyhoeddus yn y Gymraeg. Ond, rwy'n rhannu pryder y comisiynwyr am y diffyg data i fesur faint mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio wrth ddelio â sefydliadau cyhoeddus, ac mae'n broblemus nad os unrhyw ofyniad i'r sefydliadau sy'n cael eu llywodraethu gan safonau'r Gymraeg fonitro'r defnydd o'r iaith. Beth yw eich cynlluniau, Weinidog, i fynd i'r afael â'r galwadau hyn?
Mae'r adroddiad yn cyffwrdd â'r angen i fusnesau ac i elusennau hyrwyddo'r ffaith eu bod yn cynnig opsiwn cyfrwng Cymraeg. Wrth beidio â hyrwyddo hyn, nid yw llawer o siaradwyr Cymraeg yn mynd i ofyn am y gwasanaeth, ac i ofyn a yw'r gwasanaeth ar gael, ac ni fyddant wedyn yn trafod eu busnes yn Gymraeg. Weinidog, hoffwn glywed mwy am ba rôl y gall eich Llywodraeth chi chwarae wrth helpu i ddangos y gellir cynnig gwasanaethau yn ddwyieithog.
Yn ystod y ddadl hon y llynedd, tynnodd Suzy Davies sylw at y cwymp yn y galw am Gymraeg Safon Uwch, a allai effeithio ar gynlluniau i recriwtio a hyfforddi mwy o athrawon sydd â sgiliau Cymraeg. Mae'r her o ran recriwtio athrawon, yn enwedig ar lefel uwchradd, yn fater dwi wedi'i godi gyda chi o'r blaen yn y Siambr. Hoffwn glywed pa gynnydd sydd wedi ei wneud yn y maes hyn.
Yn olaf, Weinidog, a gaf i ofyn am gynlluniau yn y dyfodol yn dilyn ymlaen o gynllun Arfor, a redodd rhwng 2016 a 2020, gan wario £2 filiwn ar draws pedair sir Gymraeg, yn naturiol, yn bennaf i greu mwy o swyddi a gwell swyddi i gefnogi'r iaith? Mae'r comisiynydd yn nodi mai prin yw'r dystiolaeth ar hyn o bryd o lwyddiant y prosiect, ac mae'n bosibl nad yw chwistrelliad untro o arian heb fod iddo ddiben penodol iawn yn ddigon i greu sail tystiolaeth ynghylch y cysylltiad rhwng gwaith ac iaith. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â'r feirniadaeth hon, a pha newidiadau y gellir eu gwneud i gynlluniau yn y dyfodol i sicrhau eu bod yn cyflawni eu nodau yn llawnach?
Weinidog, mae'r adroddiadau gan y comisiynydd yn gefnogol, ond maent yn gosod her i'ch Llywodraeth i ddangos bod ganddi syniadau newydd i'w helpu i gyflawni ei hymrwymiadau a'i nodau. Byddaf yn hapus i gefnogi eich ymdrechion i annog mwy o bobl i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg, ond rwy'n aros am ymatebion i rai o bryderon y comisiynydd yr wyf wedi eu hamlygu heddiw i sicrhau bod dyfodol y Gymraeg yn ddiogel am genedlaethau i ddod. Diolch.