10. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2020-21 ac ail adroddiad 5 mlynedd y Comisiynydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:07 pm ar 23 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 6:07, 23 Tachwedd 2021

Dwi'n falch iawn o allu cyfrannu i'r ddadl yma heddiw, ond, cyn symud ymlaen, dwi am ddiolch o galon i'r comisiynydd am ei waith a'i ymrwymiad diflino i'r Gymraeg.

Mae'r Gweinidog eisoes wedi sôn yn barod am fanteision bod yn  ddwyieithog, ac rydw innau hefyd yn hynod o falch bod gen i ddwy iaith, oherwydd dwy iaith, dwywaith y dewis, ac, mewn gwirionedd, dwi am annog pawb yng Nghymru—plant, rhieni, pobl sydd yn oedolion—sydd am ddysgu'r iaith i fanteisio ar y cyfle i fod yn ddwyieithog.

Mae gan ddwyieithrwydd, wrth gwrs, nifer fawr o fanteision amlwg—yn fanteision cymdeithasol, economaidd, gwybyddol, ac yn y blaen—ac mae'r defnydd o'r iaith yn rhywbeth cymhleth dros ben, a dwi wedi cyfeirio'n barod at yr hyder sydd yn dod o ddefnyddio'r iaith yn gyson. Nawr, mae diffyg hyder, wrth gwrs, weithiau yn adlewyrchu ei hun yn y dewis, efallai, o Saesneg wrth ymwneud person â chyrff cyhoeddus. Mae diffyg hyder yn aml iawn deillio yn ôl i ddiffyg sgiliau yn y Gymraeg, felly mae'n rhaid i ni edrych arno fe fel cylch, mewn gwirionedd: diffyg sgiliau, diffyg hyder, diffyg defnydd. Felly, yn hytrach na bod yn feirniadol o'r diffyg ymwneud yna, mae'n rhaid i ni edrych i weld beth mae'r cyrff cyhoeddus yn ei wneud i'w gwneud hi'n rhwyddach i bobl ddefnyddio'r Gymraeg gyda nhw, a dwi'n croesawu'r ymchwil sydd yn mynd i gael ei wneud i hynny, achos mae angen i'r gwasanaeth dwyieithog yna fod yn un diofyn a dilestair, mewn gwirionedd, fel bod pobl yn gwneud y defnydd gorau o'r cyfleoedd. Beth sydd yn wych yn y Siambr yma yw bod yna bobl sydd wedi dysgu'r Gymraeg yn cymryd y cyfle hefyd i ddefnyddio'r iaith, ac mae hynny'n beth gwych iawn, iawn.

Mae adroddiad y comisiynydd yn nodi ystod eang o heriau sydd wedi wynebu'r Gymraeg dros y flwyddyn neu'r blynyddoedd diwethaf, o Brexit a'r pandemig i ganslo'r digwyddiadau cymdeithasol sydd wedi bod mor bwysig i bobl i ddod at ei gilydd i ddefnyddio'r iaith ym mhob rhan o Gymru, a chau ysgolion, a hefyd y mater o ail gartrefi rŷn ni wedi'i drafod yn barod y prynhawn yma, a'r diffyg gwasanaethau iechyd meddwl sydd ar gael yn y Gymraeg.

Ond rwyf am dynnu sylw at un mater sydd yn peri pryder mawr i fi. Mae'r adroddiad yma yn adroddiad pum mlynedd, ac yn nodi mai un o amcanion craidd y strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg yw cynyddu capasiti a sgiliau'r gweithlu cyfrwng Cymraeg. Nawr, yn anffodus, rŷn ni wedi gweld gostyngiad yn hyn dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r data yma yn peri gofid penodol. Bu cwymp trawiadol yn y pum mlynedd diwethaf yn nifer yr athrawon newydd gymhwyso sy'n gallu siarad Cymraeg, neu sy'n gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gostyngiad o 23 y cant yn y nifer sy'n gallu siarad Cymraeg a 27 y cant sy'n gallu gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg. Nawr, mae hyn lawer yn fwy na'r 8 y cant o ostyngiad yng nghyfanswm yr athrawon newydd gymhwyso. Mae hyn, wrth gwrs, yn fater o bryder mawr, ac mae'n amlwg bod siaradwyr Cymraeg ifanc yn gweld gyrfa arall y tu fas i'r sector addysg, yn anffodus. Felly, hoffwn i ofyn i chi beth yn union yw'ch cynlluniau chi i fynd i'r afael â hyn er mwyn sicrhau gweithlu digonol i gyflawni amcanion strategaeth 2050?

Os caf i droi yn sydyn cyn cloi at safonau iaith, dwi am ofyn i chi beth yw'r rhwystrau rhag gweithredu mwy o safonau iaith yn y sectorau hynny lle nad yw'r safonau'n bodoli'n barod, sectorau fel trafnidiaeth gyhoeddus, rheoleiddwyr yn y sector iechyd, a nifer o gyrff cyhoeddus eraill, cwmnïau dŵr a chymdeithasau tai yn benodol. Felly, sut ŷn ni'n eu tynnu nhw i mewn i'r cylch o safonau iaith?

Rwyf am orffen, Dirprwy Lywydd, gyda hyn: fe wnaeth Sam gyfeirio at y ffaith bod y comisiynydd wedi dyfynnu pryder, a dwi'n dyfynnu peth amheuaeth ganddo fe, ynghylch a yw'r ymdrechion hyd yma yn ddigonol i wireddu amcanion strategaeth 2050? Ydych chi'n cytuno ag asesiad y comisiynydd o sefyllfa'r Gymraeg? Diolch yn fawr iawn.