11. Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:36 pm ar 23 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 6:36, 23 Tachwedd 2021

Hoffwn i hefyd ategu'r deyrnged i Syr Wyn Williams, i aelodau'r tribiwnlysoedd, ac uned Tribiwnlysoedd Cymru am yr holl waith arbennig maen nhw wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn hynod heriol yma gyda'r pandemig. Rwy'n falch iawn, oherwydd yr estyniad synhwyrol i gyfnod penodiad Syr Wyn i fis Mawrth blwyddyn nesaf, mai nid dyma fydd adroddiad blynyddol olaf Syr Wyn. Rŷn ni wedi bod yn hynod ffodus o gael rhywun o'i safon ac o'i anian ef i fod yn llywydd cyntaf Tribiwnlysoedd Cymru. Mae Syr Wyn, yn ei adroddiad blynyddol, ac nid dyma'r tro cyntaf chwaith, wedi sôn am bwysigrwydd cynllunio ei olyniaeth. Fel rŷch chi'n gwybod, Cwnsler Cyffredinol, mae penodiad barnwrol yn cymryd misoedd yn hytrach nag wythnosau. A yw Llywodraeth Cymru wedi dechrau trafod gyda'r Arglwydd Brif Ustus i gynllunio ar gyfer olyniaeth Syr Wyn?