1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 23 Tachwedd 2021.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth ym Mlaenau Gwent? OQ57256
Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae cwblhau'r gwaith gwerth £1 biliwn o ddeuoli'r A465 a buddsoddiad mawr mewn seilwaith rheilffyrdd ym Mlaenau Gwent yn dangos cryfder ymrwymiad Llywodraeth Cymru i etholwyr yr Aelod, hyd yn oed wrth i Lywodraeth y DU wrthod ariannu ei chyfrifoldebau ei hun.
Prif Weinidog, fe wnaeth pobl gogledd Lloegr ddarganfod yr wythnos diwethaf yr hyn yr ydym ni yng Nghymru wedi ei wybod ers rhai blynyddoedd—na allwch chi ymddiried yn addewidion y Torïaid wrth sôn am fuddsoddiad mewn seilwaith a threnau a dyfodol cysylltedd yn ein cymunedau. Fe wnaeth pobl Lloegr ddarganfod neithiwr yn Nhŷ'r Cyffredin mai Llywodraeth yn Llundain ar gyfer Llundain yw hon, ac nad yw'n poeni am unrhyw ran o'r DU y tu allan i Lundain. Prif Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru barhau i gefnogi'r buddsoddiad yn rheilffordd Glynebwy? Rydym ni'n gwybod mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hi, ond maen nhw wedi gwrthod, dro ar ôl tro, buddsoddi yr un geiniog yn eu cyfrifoldebau i ddatblygu'r rheilffordd honno. Llywodraeth Cymru sydd wedi ailagor y rheilffordd honno, Llywodraeth Cymru sydd wedi buddsoddi mewn datblygu'r rheilffordd, Llywodraeth Cymru sydd wedi buddsoddi yn seilwaith y rheilffordd honno, Llywodraeth Cymru sydd wedi buddsoddi yn y cerbydau ar y rheilffordd honno, oherwydd ein bod ni wedi dysgu ym Mlaenau Gwent na allwch chi ymddiried mewn gair y mae Boris Johnson a'r Torïaid yn ei ddweud wrthym ni.
Mae hwnna'n safbwynt, Llywydd, sy'n cael ei rannu gan Robbie Moore, AS Ceidwadol Keighley ers 2019, a ddywedodd fod ei etholwyr, o ganlyniad i'r cyhoeddiad, wedi eu twyllo yn llwyr. Mae'r cyhoeddiad cyn belled ag y mae gogledd Lloegr yn y cwestiwn, Llywydd, nid yn unig yn cymryd arian oddi wrth y rhan honno o Loegr, ymhell i ffwrdd o Lundain, fel y dywedodd Alun Davies, ond mae'n cymryd pwerau oddi wrthyn nhw hefyd. Rydym ni wedi hen arfer â'r math hwn o ymddygiad gan y Llywodraeth Geidwadol bresennol. Dywedodd Andy Burnham:
'Yn ogystal â cholli allan ar seilwaith, cawsom ein tawelu hefyd' a bod yr unig strwythur ffurfiol ym mecanwaith Llywodraeth Prydain sy'n caniatáu i'r gogledd ddod ynghyd ag un llais bellach wedi ei ddiddymu. Yma yng Nghymru, rydym ni'n parhau i wneud pethau yn wahanol iawn, Llywydd. Rwy'n falch iawn o weld y bydd gwasanaeth newydd ar reilffordd Glynebwy o ddydd Llun 13 Rhagfyr, gwasanaeth bob awr rhwng Crosskeys a Chasnewydd, a bydd y £70 miliwn y llwyddodd Llywodraeth Cymru i'w ddarparu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn golygu y bydd y seilwaith ffisegol yn cael ei roi ar waith i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau rheilffordd ychwanegol hynny yn rhedeg rhwng Glynebwy a Chasnewydd hefyd.
Er gwaethaf y toriadau i bobl yng ngogledd Lloegr a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, Llywydd, ceir ymrwymiad o hyd o £98 biliwn i brosiect Lloegr yn unig, gwrthodiad digywilydd gan y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain i ddarparu unrhyw arian canlyniadol i ni yng Nghymru, honiad hurt bod canolfan yn Crewe—[Torri ar draws.] Fe wnes i'r camgymeriad, Llywydd, o oedi am eiliad rhag ofn bod yr Aelod yn dweud rhywbeth synhwyrol. Dylwn i fod wedi gwybod yn well, a byddaf i'n cofio hynny y tro nesaf. Gwrandewch ar hyn, Llywydd; gwrandewch arno eto: £98 biliwn—biliwn—yn cael ei wario yn Lloegr a dim un geiniog o arian canlyniadol i Gymru, a honiad hurt—hurt—gan ei gyd-Aelodau bod canolfan yn Crewe a chanolfan yng nghanolbarth Lloegr rywsut yn cael eu creu er budd Cymru.
Bydd yr Aelodau yma yn gyfarwydd â'r ffigurau hyn, oherwydd bu’n rhaid i ni atgoffa ein cyd-Aelodau yno ohonyn nhw o'r blaen: mae 40 y cant o'r rhwydwaith rheilffyrdd yn Lloegr wedi ei drydaneiddio, mae 25 y cant o'r rhwydwaith yn yr Alban wedi ei drydaneiddio, ac o ganlyniad i weithredoedd Llywodraeth yr Aelod hwnnw, mae 2 y cant ohono wedi ei drydaneiddio yng Nghymru. Ac o ganlyniad i benderfyniadau'r wythnos hon, bydd y ffigur hwnnw yn Lloegr yn codi i 75 y cant—75 y cant i Loegr a 2 y cant i Gymru. Dyna'r hyn yr ydych chi'n ei gael gyda Llywodraeth Geidwadol.
Prif Weinidog, yn yr haf cyhoeddwyd bod gwerth mwy na £3 miliwn o welliannau ar fin cael eu gwneud ar rwydwaith ffyrdd Blaenau Gwent. Byddai cyllid llywodraeth leol yn cael ei gyfuno â swm ychwanegol o gyllid gan Lywodraeth Cymru i ddod â chyfanswm y buddsoddiad i dros £3 miliwn i wella cyflwr y ffyrdd ym Mlaenau Gwent, gwelliannau a gafodd eu disgrifio, ac rwy'n dyfynnu, fel rhai 'hanfodol' i gymunedau lleol, busnesau ac ymwelwyr â'r fwrdeistref.
Cyflwynais gwestiwn ysgrifenedig i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn gofyn am restr o'r ffyrdd sy'n cael eu hadolygu o ganlyniad i rewi gwaith adeiladu ffyrdd, ond dywedodd nad oedd yn gallu darparu'r wybodaeth cyn i'r panel adolygu ffyrdd lunio ei adroddiad cychwynnol. O ystyried anallu'r Dirprwy Weinidog i ymateb, a allwch chi ddweud a fydd y gwelliannau ffyrdd y mae mawr eu hangen hyn yn digwydd yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru, ym Mlaenau Gwent ei hun? Diolch, Prif Weinidog.
Llywydd, roeddwn i'n gwneud fy ngorau i ddilyn y cwestiwn. Yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, mae'r Gweinidog wedi dweud wrth yr Aelod bod angen iddi ofyn cwestiwn gwell os yw hi eisiau ateb gwell. Byddaf i'n darllen y cofnod o'r hyn sydd wedi ei ddweud y prynhawn yma, Llywydd, ac os oes unrhyw beth arall y gallaf i ei ddarparu i'r ateb, yna, wrth gwrs, rwy'n hapus i wneud hynny.
Ers cael fy ethol, rwyf i wedi cynnal llawer o gymorthfeydd stryd, a phatrwm y byddwch chi'n ei weld yn aml yn y cymorthfeydd hyn, pan fydd fy nhîm i allan ym Mlaenau Gwent, yw cludiant i ysbyty'r Faenor. Rwy'n gwybod y gall gymryd hyd at 45 munud i deithio o'r Faenor i Dredegar, er enghraifft, gan fy mod i wedi ei wneud fy hun, ond os ydych chi'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, gall fod yn daith llawer anoddach sy'n cymryd llawer mwy o amser. Yn dibynnu ar ble'r ydych chi'n byw ym Mlaenau Gwent a pha adeg o'r dydd yw hi, gall gymryd hyd at bedwar gwahanol fws a mwy na dwy awr dim ond i fynd un ffordd. Rwy'n gwybod mewn rhannau eraill o Ddwyrain De Cymru y gall fod hyd yn oed yn waeth na hyn. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno nad yw cysylltedd i ysbyty'r Faenor yr hyn y dylai fod, ac os felly, pa gynlluniau sydd gennych chi i wneud yr ysbyty hwn yn fwy hygyrch i'r bobl y mae'n eu gwasanaethu?
Wel, Llywydd, rwy'n ymwybodol iawn o'r mater o gysylltiadau bws ag ysbyty'r Faenor, ar ôl cael trafodaethau helaeth amdano gyda fy nghyd-Aelod, Alun Davies a gyda fy nghyd-Weinidog, Lynne Neagle yn y gorffennol hefyd. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n ddiwyd gyda Trafnidiaeth Cymru a'r awdurdodau lleol i gyflwyno cyswllt bysiau newydd i'r ysbyty a fydd yn mynd o Bont-y-pŵl, Trecelyn, y Coed Duon, Ystrad Mynach a Nelson. Y bwriad yw ei gyflwyno ddechrau 2022 a'i weithredu ar sail a fydd yn caniatáu i ni ddysgu'r gwersi o'r cyflwyniad hwnnw ac yna i weld beth arall allai fod ei angen i wneud yn siŵr bod cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da a dibynadwy â'r Faenor.