Part of the debate – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Diolch yn fawr i Adam Price. Dwi wedi bod nawr dair neu bedair gwaith i'r uwchgynhadledd, a phob tro mae absenoldeb y Prif Weinidog yn codi—Prif Weinidog y Deyrnas Unedig. Fe allaf i weld, ddegawd yn ôl, pan oedd y system ar ôl cytundeb Good Friday yn rhedeg yn eithaf clir ac roeddem ni i gyd yn dal i fod o fewn yr Undeb Ewropeaidd—gallaf i weld roedd achos i'r Prif Weinidog beidio â bod yna. Ond, yng nghyd-destun Brexit ac yng nghyd-destun popeth sydd wedi digwydd ar ôl Brexit, mae'r achos i'r Prif Weinidog fod yna ac i siarad â'r partneriaid sydd mor bwysig yn y cytundeb yna—wel, mae hwnna'n cryfhau, dwi'n meddwl, ac roedd lot o bobl yn teimlo'n siomedig bod Mr Johnson ddim yn y gynhadledd. Roedd cyfle i fod yna ac i siarad â phobl eraill.
Roedd trafodaeth ddiddorol gyda'r Taoiseach a'r bobl eraill ar sut allwn ni gryfhau y cyngor, ac mae nifer o syniadau. Cyfeiriais i at y grŵp newydd o'r uwchswyddogion. Rŷn ni'n mynd i ofyn iddyn nhw i wneud rhyw fath o waith ar sut allwn ni gryfhau, ar yr un ochr, a jest diwygio sut mae'r cyngor yn gweithio, i gael popeth y gallwn ni mas o'r cyfle pan fydd pobl yn teithio o bob man i gwrdd â'i gilydd. Roedd hi'n ddiddorol, wrth gwrs, i glywed gan Ynys Manaw, Jersey a Guernsey. Mae agweddau diddorol ganddyn nhw. Roedd lot gan Brif Weinidog Jersey i'w ddweud ar y maes pysgota, er enghraifft, a sut mae hwnna'n rhan o'r trafodaethau sy'n mynd ymlaen gyda'r Undeb Ewropeaidd.
Doedd dim sôn yn y cyfarfod llawn am ddeddfu yn y maes iaith i Ogledd Iwerddon, ond o gwmpas y gynhadledd, clywais i nifer o bobl yn siarad am bwysigrwydd ar un ochr a sensitifrwydd ar yr ochr arall yr holl bwnc, a beth mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi'i addo ac, ar hyn o bryd, ddim wedi ei ddelifro.