3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 23 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:59, 23 Tachwedd 2021

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu, yn eich datganiad ysgrifenedig, wrth ymateb i'r uwchgynhadledd ddiwethaf, roeddech chi wedi cyfeirio at y ffaith bryd hynny nad oedd y Prif Weinidog Prydeinig wedi mynychu. Doedd e ddim wedi mynychu eto, ac, a dweud y gwir, dwi ddim yn credu ei fod e byth wedi mynychu. Doedd Theresa May byth wedi mynychu, David Cameron byth wedi mynychu. Mae'n rhaid ichi fynd nôl i Gordon Brown yn 2007, dwi'n credu. Rwy'n gwybod hyn achos roeddwn i'n darllen—. Roedd e wedi mynychu ym Melffast bryd hynny a dwi'n gwybod hyn achos mae e yn llyfr newydd Ieuan Wyn Jones, a dwi'n credu iddo gynrychioli Llywodraeth Cymru yn yr uwchgynhadledd honno tra oedd Rhodri Morgan yn ymadfer o'i salwch. Fe wnaeth Gordon Brown ddim ond troi lan oherwydd dwi'n credu bod Ian Paisley a Micheál Martin wedi bygwth canslo'r holl beth pe bai e ddim. Pam ŷch chi'n meddwl bod Prif Weinidogion Prydeinig mor amharod i fynychu'r uwchgynhadledd? Hynny yw, onid yw e'n bwysig? Tra bod pob Llywodraeth arall fel arfer yn hala eu Prif Weinidogion nhw, ac yn yr achos yma y Taoiseach a'r Tánaiste, onid yw o leiaf yn dangos amharch, a dweud y gwir, i'r Llywodraethau eraill fod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ddim yn cael ei chynrychioli yn yr un modd?

Mae Micheál Martin, y Taoiseach, wedi cyflwyno rhai syniadau ynglŷn â'r cyngor a chryfhau'r cyngor. Ydyw e wedi rhannu rhai o'r syniadau rŷch chi wedi'u crybwyll nawr, rhai syniadau eich hunain o ran diwygio y berthynas gyda'r corff seneddol cyfochrog? Mae statws cyfansoddiadol gwahanol gan yr amrediad o aelodau o'r cyngor, onid oes e? Mae gennych chi'r Weriniaeth, wrth gwrs, fel gwlad annibynnol; mae gennych chi Ogledd Iwerddon, Cymru a'r Alban, wrth gwrs, gyda'u seneddau datganoledig; ac wedyn mae gennych chi'r Crown dependencies, wrth gwrs, sydd â statws rhywle yn y canol—yn eithaf diddorol, tu fas i'r Undeb Ewropeaidd ond tu fewn i'r undeb tollau, tu fas i'r Deyrnas Gyfunol ac eto yn arddel Prydeindod. Mae hynny'n ddiddorol yng nghyd-destun y trafodaethau ddaw drwy'r comisiwn cyfansoddiadol. Oeddech chi wedi cael cyfle yn ystod y sgyrsiau ar yr ochr, sydd weithiau y rhai mwyaf diddorol yn ystod y sesiynau yma, i drafod y comisiwn cyfansoddiadol a'r gwersi, efallai, o'r amrediad yna o fodelau cyfansoddiadol sydd yn berthnasol i ni?

Yn olaf, ieithoedd lleiafrifol oedd un o'r themâu oedd wedi cael eu trafod. Oedd yna drafodaeth o gwbl ynglŷn â'r addewid gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i gyflwyno deddfwriaeth ynglŷn â'r iaith Wyddeleg yng Ngogledd Iwerddon yn dilyn yr argyfwng gwleidyddol a fu yn Stormont rai blynyddoedd yn ôl? Mae yna addewid i fod i ddeddfu cyn diwedd y flwyddyn, ond ychydig o wythnosau sydd ar ôl. Oedd yna unrhyw beth i'w adrodd o ran cynnydd i'r perwyl hwnnw?