8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmniau a Ddiddymwyd)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:32 pm ar 23 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 5:32, 23 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, i ddechrau, i fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor, a'n tîm clercio hefyd, am eu diwydrwydd a'u gwaith craffu. Efallai nad oes llawer ohonom ni, ond rydym ni'n gadarn yn ein trafodaethau.

Llywydd, roedd y memorandwm a osodwyd gerbron y Senedd, yn ein barn ni, wedi ei ddrafftio'n wael. Roedd y Bil a gyflwynwyd yn wreiddiol i Senedd y DU, yn wir, yn Fil ar gyfer Lloegr yn unig, ac rydym ar ddeall y gwnaeth y Gweinidog gais i Lywodraeth y DU, a gofyn i berthnasedd y Bil gael ei ymestyn i Gymru. Nawr, i ni, y ffaith allweddol yw nad yw hyn wedi ei gynnwys yn y memorandwm esboniadol. Dywedodd y Gweinidog wrthym mai'r rheswm am hyn oedd ei bod yn wybodaeth gefndir ac, yn sgil hynny, nid oedd angen ei chynnwys, ond fel pwyllgor, Gweinidog, rydym yn anghytuno, yn barchus ond yn gryf iawn, oherwydd er mwyn bod yn agored ac yn dryloyw wrth wneud penderfyniadau gan y Llywodraeth, yn enwedig mewn agweddau fel hyn lle mae gennym ni ddeddfwriaeth Cymru a Lloegr, mae yn bwysig. Mae'n fater perthnasol i'w dynnu i sylw'r Senedd yn rhan o'i hystyriaeth ar fater cydsyniad. Ac o dan amgylchiadau o'r fath lle gallai'r amserlenni atal pwyllgorau'r Senedd rhag craffu'n effeithiol, gofynnir i'r Senedd ystyried a phleidleisio heb dderbyn yr holl ffeithiau yn llawn. Nid ydym yn credu bod amgylchiadau o'r fath yn dderbyniol, a hoffem weld gwelliant yn hyn, fel bod y memorandwm esboniadol ar hyn neu ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol eraill a gyflwynir yn fwy cyflawn a chyfan.

Fe wnaethom ni ofyn i'r Gweinidog egluro i Aelodau'r Senedd sut, pryd, a pham y cyflwynwyd y cais i'r Bil i Loegr yn unig gael ei ddiwygio fel bod ei berthnasedd yn cael ei ymestyn i Gymru. Rydym yn nodi'r esboniad yn y sylwadau agoriadol, ond unwaith eto rydym yn credu y gallai fod mwy o eglurder, esboniad llawnach, er mwyn i Aelodau'r Senedd yn y fan yma allu ystyried hyn, nid ein pwyllgor ni yn unig.

Nawr, ar yr adeg hon hoffwn i dynnu sylw hefyd at y ffaith nad yw'r Gweinidog wedi ymateb yn ffurfiol i'n hadroddiad. Rydym yn cydnabod bod y Gweinidog wedi anfon llythyr at yr holl Aelodau ddoe, a oedd yn wir yn mynd i'r afael â dau argymhelliad penodol yn ein hadroddiad. Fodd bynnag, Gweinidog, mae'n rhaid i'n pwyllgor eich atgoffa yn garedig nad yw llythyr gan y Gweinidog yn ymateb ffurfiol gan Lywodraeth Cymru i adroddiad un o bwyllgorau'r Senedd.

Felly, o ran rhesymau'r Gweinidog dros wneud darpariaeth ar gyfer Cymru yn y Bil, mae gennym ni ddau brif bryder. Yn gyntaf, mae'r memorandwm yn nodi y byddai'r Bil, ac rwy'n dyfynnu,

'yn sicrhau bod trin apeliadau yng Nghymru yn cyd-fynd â'r hyn a wneir yn Lloegr'.

Yn ein barn ni, fel pwyllgor, mae'n ddigon posibl y bydd y rhesymu hwn yn awgrymu mai'r sefyllfa ar gyfer Lloegr yw'r norm a'r sefyllfa ddiofyn. Rydym ni'n credu y dylai'r egwyddor arweiniol fod yn ateb sy'n diwallu anghenion y bobl yng Nghymru y mae'r ddeddfwriaeth yn effeithio arnyn nhw, a byddem yn hapus i glywed gan y Gweinidog nad dyma fwriad Llywodraeth Cymru, boed yn ymhlyg nac yn fwy eglur. Yn ail, er ein bod yn cydnabod barn y Gweinidog, drwy wneud darpariaeth ar gyfer Cymru yn y Bil, mewn dyfyniadau, byddai

'trethdalwyr Cymru yn cael eu trin mewn modd cyson', nid yw'n glir a fyddai'r Gweinidog, ac a ddylai hi, wneud yr un ddarpariaeth yn union ar gyfer trethdalwyr Cymru drwy Fil Cymru o gofio nad yw darpariaethau o'r fath wedi eu profi gyda'r rhanddeiliaid hyn.

Hoffwn i drafod yn fyr y rheoliadau y soniais amdanyn nhw ar ddechrau fy nghyfraniad, yn enwedig gan eu bod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol ac na fyddan nhw yn naturiol yn cael eu cyflwyno gerbron y Siambr hon. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am gytuno i'n hargymhelliad i'r rheoliadau hyn gael eu crybwyll heddiw. Er nad oes sôn amdano yn y memorandwm, roeddem yn ymwybodol o ddatganiad a gyhoeddodd y Gweinidog fis Gorffennaf pan ddywedodd y byddai rheoliadau'n dod i law a fydd yn cael effaith debyg i'r darpariaethau sydd i'w cynnwys ym Mil y DU hyd nes y daw'r Bil yn gyfraith. Mae hynny'n eithaf clir. Ar 19 Hydref, fe wnaethom ni ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn ble oedden nhw. Nawr, yn y diwedd, gosodwyd y rheoliadau hyn gerbron y Senedd am 9.00 a.m. ar 1 Tachwedd a daethon nhw i rym am 6.00 p.m. ar yr un diwrnod. Nawr, mae hynny'n enghraifft eithafol braidd o dorri'r rheol 21 diwrnod, yn enwedig gan fod Llywodraeth Cymru, rydym ni ar ddeall, yn gwybod ei bod yn dymuno gwneud y rheoliadau hyn fwy na thri mis cyn hynny.

Fe wnaethom ni ysgrifennu ar wahân at y Gweinidog ar y rheoliadau hyn, ac fe wnaeth y Gweinidog ymateb dros y penwythnos, ac rydym yn ddiolchgar iawn am hynny. Fodd bynnag, Gweinidog, byddwn i'n dweud yn syml fod y pwyllgor o'r farn nad yw nodi ein pryderon yn ymateb cwbl foddhaol; byddem ni wedi hoffi cael esboniad llawnach, a fyddai, yn ein barn ni, wedi bod yn fwy priodol a defnyddiol. Mae llythyr y Gweinidog atom hefyd yn tynnu sylw at rai materion eraill y byddwn o bosibl yn eu trafod ymhellach gyda hi.

Llywydd, rwy'n ymddiheuro am fynd ychydig dros yr amser, ond yn olaf, o ran gweithio rhynglywodraethol, dywedodd y Gweinidog wrthym fod y Bil wedi ei gyflwyno i Senedd y DU heb drafodaeth ymlaen llaw gyda Llywodraeth Cymru ynghylch a ddylid cynnwys darpariaethau ar gyfer Cymru. Mae hyn yn peri pryder mawr ynddo'i hun. Mae'n codi pwynt pwysig. Gan fod Llywodraeth y DU yn cydnabod bod y mater hwn wedi ei ddatganoli'n llawn, nid yw'n glir a yw'r Gweinidog yn awgrymu y dylai Llywodraeth y DU ymgynghori â Llywodraeth Cymru fel mater o drefn i weld a yw'n dymuno cael darpariaethau deddfwriaethol mewn Bil yn y DU. Byddai sefyllfa o'r fath, ym marn ein pwyllgor, yn anfoddhaol. Diolch, Llywydd.