Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod i'n cytuno'n llwyr gyda sylwadau Cadeirydd y pwyllgor? A diolch yn fawr iddo ef a'r tîm clercio am yr holl waith maen nhw'n ei wneud. Gaf i hefyd ddweud bod hyn yn gonsýrn nid yn unig i'ch adran chi, Weinidog, ond i nifer o adrannau'r Llywodraeth? Ac mae consýrn mawr gennyf i ac aelodau'r pwyllgor ynglŷn â'r broses LCM a hynny'n ein tanseilio ni fel sefydliad yma yn y Senedd. Gaf i ddechrau hefyd drwy adleisio sylwadau'r Cadeirydd ei fod yn siomedig ein bod ni ddim wedi cael ymateb ffurfiol i adroddiad y pwyllgor? Dylai hyn fod wedi digwydd cyn heddiw, a dwi'n gobeithio y cawn ni ymateb ffurfiol maes o law.
Ond, wrth i gymaint o LCMs ymddangos o flaen y chweched Senedd, nid yw peidio ymateb yn ffurfiol yn gwneud dim byd i hyrwyddo craffu go iawn yn y lle hwn. Rwy'n wirioneddol poeni bod gormod o LCMs yn cael eu pasio heb ystyriaeth ddigonol o'r effaith maen nhw'n ei gael ar y setliad datganoli, a thrwy hynny, ar y sefydliad yma. Yn sicr, ni ddylid disgwyl i Aelodau bleidleisio ar LCM heb i un o'r pwyllgorau sy'n craffu ar y Bil dderbyn ymateb llawn i'w adroddiad.