Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Jayne Bryant am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ac am y pwyntiau a wnaeth, a diolch hefyd i James Evans a Peredur Owen Griffiths am eu cyfraniadau. Er nad oes gan Gymru bwerau dros sawl agwedd ar ddeddfwriaeth cyffuriau a dosbarthu cyffuriau, mae mynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yn flaenoriaeth allweddol i mi, ac yn faes gwaith sy'n bwysig iawn yn fy mhortffolio. Gydag iechyd meddwl ac iechyd troseddwyr hefyd o fewn fy mhortffolio, byddaf yn ceisio gwneud gwahaniaeth ar draws y meysydd hyn sy'n dod gyda'i gilydd yn rhy aml, ochr yn ochr â chamddefnyddio sylweddau, i effeithio'n niweidiol ar y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Yn fy rôl fel Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, cyfarfûm â nifer o bobl a sefydliadau sy'n ymwneud â'r maes camddefnyddio sylweddau, ac mae lefel y gwaith a'r ymrwymiad sydd yn y maes a'r angerdd sydd gan lawer i weld diwygio wedi creu argraff fawr arnaf.
Mae camddefnyddio sylweddau yn broblem iechyd o bwys sy'n effeithio ar unigolion, teuluoedd a chymunedau. Yng Nghymru, mae ein polisi cyffuriau wedi'i wreiddio mewn dull o weithredu sy'n seiliedig ar leihau niwed, sy'n cydnabod camddefnydd o sylweddau fel problem iechyd a gofal cymdeithasol, yn hytrach nag un sy'n ymwneud â chyfiawnder troseddol yn unig. Yn hyn o beth, mae ein dull o weithredu yn wahanol iawn i'r dull o weithredu yn Lloegr, ac yn wir, dyma yw dull o weithredu yr holl weinyddiaethau datganoledig. Diwygiwyd ein cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2019-22 mewn ymateb i COVID-19 i adlewyrchu'r gwaith sydd wedi'i wneud ac sy'n parhau i gael ei wneud o ganlyniad i'r pandemig. Cyhoeddwyd y cynllun diwygiedig ym mis Ionawr 2021. Nod cyffredinol y cynllun cyflawni o hyd yw sicrhau bod pobl Cymru'n ymwybodol o beryglon ac effaith camddefnyddio sylweddau, ac i wybod ble y gallant gael gwybodaeth, cymorth a chefnogaeth. Mae ein byrddau cynllunio ardal a phartneriaid eraill yn parhau i weithio i gyflawni'r camau gweithredu o fewn y cynllun.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes cryf o ymrwymiad i'r maes hwn, ac rydym yn buddsoddi bron i £55 miliwn yn ein hagenda camddefnyddio sylweddau bob blwyddyn. Dyrennir dros £25 miliwn o hwn i'n byrddau cynllunio ardal camddefnyddio sylweddau, ac mae bron i £21 miliwn wedi'i neilltuo ar gyfer byrddau iechyd yng Nghymru. Yn 2020-21 hefyd, gwnaethom sicrhau bod £4.8 miliwn arall ar gael i gefnogi ein hymateb i COVID-19. Roedd dros £3 miliwn ohono'n cefnogi gweithredu bwprenorffin chwistrelladwy hirhoedlog yn gyflym ar gyfer cyn-ddefnyddwyr heroin sy'n wynebu risg. Mae Cymru bellach ar flaen y gad gyda gweithredu'r driniaeth newydd hon ledled y DU, os nad y byd. Rydym nid yn unig wedi diogelu'r gyllideb camddefnyddio sylweddau, ond rydym hefyd wedi manteisio ar y cyfle i gynyddu adnoddau yng Nghymru, yn wahanol i brofiad gwasanaethau camddefnyddio sylweddau mewn rhannau eraill o'r DU.
Ar y pwynt hwn, mae'n werth nodi bod adolygiad y Fonesig Carol Black o wasanaethau triniaeth yn Lloegr wedi cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf. Mae'n werth nodi hefyd fod Llywodraeth y DU yn dweud yn glir yn y cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad na fyddai'n edrych ar ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, yn wahanol i'r sefyllfa yn Lloegr, yma yng Nghymru rydym eisoes wrthi'n datblygu llawer o'i hargymhellion. Mae ein cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau wedi'i seilio'n gadarn ar ddull yn seiliedig ar iechyd a lleihau niwed. Rydym hefyd, fel y dywedais, wedi diogelu ac wedi neilltuo ein cyllid camddefnyddio sylweddau, ac rydym yn gweithio'n agos gyda'r maes tai ac ar draws iechyd meddwl i fynd i'r afael â her anghenion cymhleth sy'n cyd-ddigwydd. Cytunaf yn llwyr â sylw'r adolygiad fod camddefnyddio sylweddau yn gyflwr iechyd cronig sy'n galw am sylw hirdymor. Yng Nghymru, ein dull o weithredu o hyd yw lleihau niwed ac adeiladu cymunedau cryf ar gyfer gwella. Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â phroblemau trawma, gyda llawer ohono'n seiliedig ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a'r problemau iechyd meddwl a wynebir gan gynifer yn ein gwasanaethau camddefnyddio sylweddau.
Yng Nghymru, rydym hefyd yn ymwybodol iawn fod niwed camddefnyddio sylweddau yn disgyn yn anghymesur ar ein cymunedau mwyaf difreintiedig, gan ysgogi anghydraddoldebau iechyd i'r tlotaf a throseddoli'r rhai agored i niwed sydd angen cymorth a thriniaeth. Am y rheswm hwn, rhaid i fynd i'r afael â stigma ac edrych ar gamddefnyddio sylweddau fel mater iechyd barhau i fod yn ffocws i ni. Credaf yn gryf mai'r ffordd orau o fynd i'r afael â niwed camddefnyddio sylweddau yw drwy gynorthwyo pobl i gael triniaeth, nid eu troseddoli.