Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Ym mis Hydref, mynychais ail gyfarfod i weinidogion y DU ar gyffuriau, gyda fy swyddogion cyfatebol yn y gweinyddiaethau datganoledig. Cynhaliwyd y cyfarfod gan y Gwir Anrhydeddus Kit Malthouse AS, Gweinidog Gwladol yn y Swyddfa Gartref a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, a diben y cyfarfod oedd clywed gan nifer o siaradwyr arbenigol a rhoi cyfle i rannu arferion da, heriau a gwersi a ddysgwyd ar draws pob un o'r gweinyddiaethau. Hefyd, rhoddodd y cyfarfod gyfle i mi ddangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r agenda camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys ein pwyslais cryf ar leihau niwed a'r gwaith sy'n cael ei wneud drwy ein cynllun cyflawni. Yn y cyfarfod, croesawais ymrwymiad newydd Llywodraeth y DU i'r agenda hon a'r gwaith ar ddatblygu strategaeth gyffuriau newydd ar gyfer y DU. Fodd bynnag, gan nad yw cyfiawnder troseddol wedi'i ddatganoli, pwysleisiais bwysigrwydd yr angen i gymryd rhan lawn mewn unrhyw newidiadau sy'n effeithio ar Gymru, ac mae hyn yn rhywbeth y mae fy swyddogion mewn cysylltiad â'r Swyddfa Gartref yn ei gylch.
Ar sail ein dull o weithredu sy'n seiliedig ar leihau niwed yma yng Nghymru, nid ydym yn credu y byddai troseddoli unigolion sy'n agored i niwed ymhellach yn effeithiol. Rydym yn aros i'r strategaeth hon gael ei chyhoeddi, ond credaf ar y pwynt hwn nad yw Llywodraeth y DU yn bwriadu newid eu safbwynt presennol o arwain hyn drwy ymateb cyfiawnder troseddol.
Rydym wedi ymgysylltu'n llawn â chydweithwyr o'r gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU, sy'n rhoi cyfle i gydweithio a dysgu lle mae gennym nodau cyffredin i leihau niwed camddefnyddio sylweddau. Ym mae Abertawe, rydym wedi gweithio gyda phartneriaid lleol a'r Swyddfa Gartref, gan ddatblygu prosiect ADDER ochr yn ochr ag ardaloedd yn Lloegr. Prosiect gan y Swyddfa Gartref yw ADDER—caethiwed, dargyfeirio, tarfu, gorfodi ac adferiad—a gynlluniwyd i gefnogi dull system gyfan o fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau, gan ddod â thriniaeth a phlismona at ei gilydd, gyda chymorth ar gyfer ymyriadau ar lefel leol a gwaith cenedlaethol wedi'i dargedu ar gyflenwi. Mae prosiect ADDER yn cynnwys gweithgareddau cydgysylltiedig ar gyfer gorfodi'r gyfraith, ynghyd â gweithgarwch dargyfeiriol estynedig a darparu triniaeth ac adferiad, ac mae'n canolbwyntio ar ardaloedd lle ceir lefelau uchel o farwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau.
Rydym yn gweld hwn fel cyfle i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys gweithio gyda'r partneriaid cyfiawnder troseddol ar ymateb i gamddefnyddio sylweddau drwy driniaeth a thorri'r cylch i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed sy'n mynd i mewn ac allan o'r carchar. Mae'r dull o weithredu a nodir yn y prosiect ADDER yn cyd-fynd yn dda â gwaith Llywodraeth Cymru drwy'r byrddau cynllunio ardal, yn enwedig bwrdd cynllunio ardal bae Abertawe, lle bu nifer fawr o farwolaethau'n gysylltiedig â chyffuriau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, rwyf wedi mynegi fy siom wrth Lywodraeth y DU nad yw bae Abertawe wedi elwa o gyllid ychwanegol Trysorlys EM ar gyfer iechyd y mae ardaloedd y prosiect ADDER yn Lloegr wedi'i gael.
Rhan allweddol o'n hagenda lleihau niwed yw ein menter naloxone genedlaethol, lle rydym wedi gwneud cynnydd rhagorol. Datblygiad pwysig gyda naloxone yw'r gwaith a wnawn gyda'r heddlu i alluogi swyddogion i gario naloxone trwynol tra'u bod ar ddyletswydd. Rydym hefyd wedi ariannu cynllun peilot lle mae cyfoedion yn dosbarthu naloxone ar y strydoedd, a hefyd yn darparu cyngor ar leihau niwed sy'n rhoi pobl â phrofiad bywyd ar flaen ein gwaith, rhywbeth rwy'n ei groesawu'n fawr. Mae hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn ac wedi arwain at ystyried efelychu'r model hwn ym mhob rhan o Gymru.
Wedi i Weinidogion o bob un o'r pedair gwlad gytuno bod angen adolygu'r ddeddfwriaeth bresennol ar naloxone, rydym wedi ymgysylltu â chydweithwyr o'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yr Adran Iechyd yng Ngogledd Iwerddon a Llywodraeth yr Alban ar ddatblygu ymgynghoriad ar y cyd ar ehangu mynediad at naloxone. Daeth yr ymgynghoriad ledled y DU i ben ddiwedd mis Medi a gofynnai am farn ar ymestyn y gwasanaethau sy'n gallu darparu naloxone, rhywbeth a fyddai'n cefnogi ein dull o leihau niwed yng Nghymru. Mae fy swyddogion wrthi'n gweithio gyda chydweithwyr ar y camau nesaf a byddant yn ystyried effaith yr ymateb i'r ymgynghoriad mewn cyd-destun Cymreig.
Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hon, gan fy mod yn teimlo'n angerddol ynglŷn â gwneud gwahaniaeth yn y maes hwn. Er nad yw'r holl bwerau deddfwriaethol gennym at ein defnydd, mae llawer y gallwn ei wneud i ddatblygu ymateb unigryw Gymreig i gamddefnyddio sylweddau. Rwy'n cydnabod sylwadau'r Aelod, ond fel y mae hi hefyd yn cydnabod, yn nwylo Llywodraeth y DU y mae'r pwerau hyn, ac mae'n bwysig i mi fel Gweinidog ganolbwyntio ar lle gallwn wneud gwahaniaeth. Ac fel y dywedais wrth ymateb i'r ddadl gan Peredur Owen Griffiths, byddwn yn hapus iawn i ymgysylltu â'i grŵp trawsbleidiol ar y materion pwysig a godwyd heno.
Byddwn yn parhau i ddatblygu ein hymrwymiadau yn y cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau ac yn parhau, wrth gwrs, i ymgysylltu â chydweithwyr o'r gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU er mwyn gweithio gyda'n gilydd gyda'r nod o leihau'r niwed sy'n deillio o gamddefnyddio sylweddau. Diolch yn fawr.