Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Mae ein cynllun cydraddoldeb strategol ar gyfer 2020-24 yn nodi cynlluniau i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hirdymor, wedi'u hategu gan gynlluniau ar wahân sy'n gysylltiedig ag anabledd, rhywedd, hil a'r gymuned LHDTC+. Mae mynd i'r afael ag anghydraddoldeb hefyd yn rhywbeth sydd wedi'i ymgorffori yn ein rhaglen lywodraethu a thrwy ein dull o brif ffrydio cydraddoldebau.