Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Yn ddiweddar, rydym wedi cael rhai cyhoeddiadau rhagorol iawn am y ffordd y gallem fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau y mae plant yn eu hwynebu: mae darparu addysg y blynyddoedd cynnar i blant dwy oed ymlaen a phrydau ysgol am ddim i bob plentyn yn yr ysgol gynradd yn gyhoeddiadau hynod o bwysig ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi ar hynny.
Hoffwn ganolbwyntio ar y mis cyntaf o fywyd babi ac yn benodol ar raglen y 1,000 diwrnod cyntaf. Felly, tybed pa ddadansoddiad y gallech fod wedi'i wneud o effeithiolrwydd y 1,000 diwrnod cyntaf, o gofio ei fod yn gyfnod mor allweddol wrth sefydlu anghydraddoldebau iechyd gydol oes yn ogystal â sgiliau cyfathrebu a chanlyniadau dysgu. Yn fwyaf arbennig, rwy'n awyddus iawn i ddeall y canlyniad gorau posibl i famau beichiog a'u babi newydd, y cerrig milltir datblygiadol i blant dwy oed a chyfyngu ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn y 1,000 diwrnod cyntaf hanfodol hynny.