1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Joel James.
Diolch yn fawr, Lywydd. Fel y gwyddoch, Weinidog, drwy gydol y pandemig presennol, mae sgamwyr creulon wedi bod yn targedu pobl agored i niwed drwy anfon negeseuon testun yn honni eu bod yn cynrychioli’r Post Brenhinol. Yn y sgamiau hyn, anfonwyd negeseuon testun ffug, a ymddangosai fel pe baent yn dod oddi wrth y Post Brenhinol, yn rhoi gwybod i'r bobl y maent yn ceisio'u twyllo fod parsel neu lythyr yn aros i gael ei ddosbarthu iddynt, ond bod angen talu ffi weinyddol fach cyn y gellir gwneud hyn. Yn y pen draw, mae'r negeseuon hyn, a elwir yn negeseuon SMS-rwydo, yn casglu ac yn dwyn manylion personol y bobl sy'n cael eu twyllo, ac mewn rhai achosion, mae pobl wedi colli miloedd o bunnoedd o'u cyfrifon banc. Dangosodd adroddiad gan Which? ym mis Mehefin eleni fod 61 y cant o’r bobl a holwyd wedi cael y negeseuon SMS-rwydo hyn a oedd naill ai’n honni eu bod yn dod oddi wrth y Post Brenhinol neu gwmni dosbarthu arall. Y sgamiau yr adroddir amdanynt amlaf i wasanaeth rhannu sgamiau Which? yw negeseuon testun ffug sy'n honni eu bod yn dod oddi wrth y Post Brenhinol. Mae'n bryder fod rhai dioddefwyr hefyd yn derbyn galwadau ffôn dilynol gan y sgamwyr hyn, sydd weithiau o natur ymosodol, i geisio eu darbwyllo i anfon mwy fyth o arian. Yn ffodus, mae cyfraddau llwyddiant y sgamiau hyn yn gymharol isel, gyda phedwar o bob pump o bobl a holwyd yn sylweddoli bod y negeseuon hyn yn rhai ffug. Fodd bynnag, i'r rheini sy'n cael eu dal, gall yr effaith ariannol ac emosiynol fod yn ddinistriol. A all y Gweinidog nodi pa sgyrsiau y mae wedi'u cael gyda'r Post Brenhinol ynglŷn â'r negeseuon ffug hyn, ac a ydynt wedi cytuno ar flaengynllun gweithredu ai peidio? Diolch.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae'n sicr yn sôn am ffenomen annifyr iawn. Bydd pob un ohonom yn adnabod rhywun sydd efallai wedi cysylltu â ni yn ein hetholaethau i godi pryderon nid yn unig am sgamiau o'r natur hon, ond sgamiau eraill, a dyna pam fod pob un ohonom yn Llywodraeth Cymru yn mynd ati'n weithredol i gefnogi ymgyrchoedd ymwybyddiaeth o sgamiau. Rwyf i fod i gyfarfod â'r Post Brenhinol yn yr ychydig wythnosau nesaf, a byddaf yn sicrhau bod hynny ar yr agenda hefyd yn y cyfarfod hwnnw. Ac rwy'n fwy na pharod i adrodd yn ôl i'r Aelodau ar hynny.FootnoteLink
Diolch, Ddirprwy Weinidog, a diolch am achub y blaen gyda hynny a chyfarfod â'r Post Brenhinol ynglŷn â'r mater.
Fel y gwyddoch, mae ymchwiliad diweddar gan bapur newydd cenedlaethol wedi dangos bod gyrwyr cerbydau nwyddau trwm y Post Brenhinol wedi bod yn cofnodi hawliadau goramser ffug, gan gytuno'n rheolaidd i shifftiau goramser pell a phroffidiol o hir ar benwythnosau a gwyliau banc. Fodd bynnag, honnir bod y gyrwyr hyn wedyn yn ymgymryd â dyletswyddau ysgafnach a llawer byrrach, sy'n cynnwys tasgau gweinyddol yn y swyddfa yn unig, gan adael i staff asiantaeth gyflawni siwrneiau hirach. Yn ôl y papur newydd, mae’n ymddangos bod yr arfer hwn wedi bod yn digwydd ers peth amser, ac mae rhai o weithwyr y Post Brenhinol wedi bod yn ffugio eu taflenni amser a’u horiau gwaith ers ymhell dros ddau ddegawd, gan ganiatáu i rai ohonynt ennill dwywaith eu cyflog blynyddol. Mae gweithwyr yn sawl un o swyddfeydd y Post Brenhinol wedi tynnu sylw at ba mor gyffredin yw'r arfer hwn, a'r ffaith hefyd fod goramser yn aml yn cael ei dalu cyn iddo gychwyn er mwyn osgoi honiadau o dwyll. Fel y Dirprwy Weinidog sydd â'r prif gyfrifoldeb am faterion yn ymwneud â Swyddfa'r Post a'r Post Brenhinol yng Nghymru, pa gamau rydych wedi'u cymryd i ymchwilio i'r honiadau hyn a mynd i'r afael â hwy?
Lywydd, rwyf bob amser yn cymryd yr hyn rydym yn ei ddarllen yn y papurau newydd gyda phinsiad mawr o halen, ac nid fy lle i yw gwneud sylwadau ar arfer honedig o'r fath. Mae'n sicr yn rhywbeth y byddem yn ei godi mewn partneriaeth gymdeithasol gyda'r cyflogwyr a chyda'r undebau llafur, ond ni fyddai'n briodol imi wneud sylwadau ar hynny heb wybod y manylion.
Diolch. Rwy'n gwerthfawrogi eich sylwadau, a byddwn yn eich annog i ymchwilio ymhellach i hyn a chael mwy o fanylion felly, oherwydd os caiff yr honiadau eu profi, credaf ei fod yn fater difrifol y mae angen ymchwilio iddo.
Fel rhywun sydd, heb os, yn darllen The Socialist, corn siarad y Blaid Sosialaidd, a elwid gynt yn Militant, byddech wedi bod â diddordeb mewn erthygl am weithiwr post yn Llanelli a ddiswyddwyd am chwythu'r chwiban wrth dîm ymchwiliadau mewnol y Post Brenhinol ynglŷn â sgam oriau gwaith ffug a oedd yn debyg iawn i'r un a ddisgrifiwyd yn fy nghwestiwn blaenorol. Yn ôl pob tebyg, yn ôl yr unigolyn hwn, mae uwch reolwyr wedi bod yn talu goramser nad ydynt wedi'i weithio i staff dosbarthu er mwyn ffugio eu rhagolygon cyllidebol ac i ddadlau dros gyllidebau adrannol uwch dros fisoedd yr haf.
Yn ôl adroddiadau, diben y twyll oedd caniatáu i depos gronni arian wrth gefn a fyddai wedyn yn cael ei wario yn ystod y tymhorau brig, gyda rheolwyr yn dadlau ei fod yn caniatáu iddynt reoli unrhyw ymchwydd yn niferoedd parseli yn well. Honnir bod y chwythwr chwiban wedi cael ei orchymyn gan eu rheolwyr i dalu staff yn dwyllodrus am oramser nad oeddent wedi'i weithio, a diswyddwyd y chwythwr chwiban wedi hynny ar ôl i archwiliad mewnol ddarganfod eu bod wedi rhoi gwybod i'r tîm ymchwiliadau mewnol am y gweithgaredd.
Diolch byth, ar ôl streic a drefnwyd gan Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, mae'r unigolyn dan sylw bellach wedi cael ei swydd yn ôl. Ond Weinidog, mae hyn yn ein cymell i ofyn sawl cwestiwn hanfodol a sylfaenol. Yn gyntaf, o gofio bod polisïau chwythu'r chwiban yn cael eu rhoi ar waith i ddiogelu pobl, pam y cafodd enw'r unigolyn dan sylw ei ddatgelu fel y gellid ei ddiswyddo? Yn ail, o ystyried bod yr arfer hwn i'w weld yn eithaf cyffredin, pam nad aeth Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu i'r afael â'r mater hyd nes ar ôl i'r unigolyn gael ei ddiswyddo? Mae'n sicr y byddent wedi gwybod am yr arferion hyn ac wedi mynd ati'n weithredol i'w gwrthwynebu. Ac yn drydydd ac yn olaf, pa sicrwydd sydd gennym nad yw'r gweithgarwch twyllodrus hwn yn digwydd mwyach yn nepos y Post Brenhinol ledled Cymru?
Lywydd, mae angen imi gyfeirio'r Aelod at fy ateb cynharach—nad yw'n briodol imi wneud sylwadau ar faterion unigol heb ystyried a bod yn gwbl ymwybodol o'r manylion ynglŷn â hynny. Ond er mai fi sy'n bennaf gyfrifol yn Llywodraeth Cymru am faterion sy'n ymwneud â'r Swyddfa’r Post a’r Post Brenhinol, hoffwn fachu ar y cyfle, efallai, i atgoffa’r Aelod nad ydynt wedi’u datganoli.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Lywydd. Fel y clywsom, yfory fydd Diwrnod Rhuban Gwyn eleni, y Diwrnod Rhyngwladol ar Ddiddymu Trais yn erbyn Menywod a dyddiad lansio 16 diwrnod o weithredu gyda'r bwriad o atal a diddymu trais yn erbyn menywod a merched ledled y byd, drwy alw am weithredu byd-eang i gynyddu ymwybyddiaeth, hyrwyddo eiriolaeth a chreu cyfleoedd i drafod heriau ac atebion.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn 2018, ymrwymodd y Llywodraeth hon i sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fenywod. Ers hynny, amheuir bod o leiaf 23 o fenywod wedi cael eu lladd yn sgil trais gan ddynion. Mae hyn yn drasiedi, ac ni all pethau newid hyd nes y caiff gwasanaethau i atal trais a chefnogi goroeswyr adnoddau llawn i ddiwallu'r angen cynyddol. Rydym wedi gweld y ffigurau a gyhoeddwyd heddiw gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy'n dangos cynnydd ledled Cymru a Lloegr yn nifer y troseddau sy'n gysylltiedig â cham-drin domestig.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Cymorth i Fenywod Cymru adroddiad 'Cyflwr y Sector', ac mae'n datgelu, o gymharu â'r flwyddyn ariannol ddiwethaf, y gwelwyd cynnydd o 22 y cant yn nifer y goroeswyr na ellid eu cynnig lloches iddynt oherwydd diffyg capasiti neu adnoddau. Golyga hyn fod o leiaf 692 o oroeswyr heb gael y cymorth roeddent ei angen. Mae'r adroddiad yn nodi'r camau angenrheidiol ar gyfer datblygu model mwy cynaliadwy ar gyfer y sector, gan dynnu sylw at y ffaith bod y cyllid cyfredol yn ddigon i dalu am y dyletswyddau presennol yn unig ac nad oes unrhyw arian dros ben ar gyfer argyfyngau a'r cynnydd disgwyliedig mewn capasiti fel yr hyn a welsom drwy gydol y pandemig, neu'r angen i fod yn hyblyg wrth gynnig cymorth, neu ffocws gwell ar atal ac ymyrraeth gynnar.
Gyda'r strategaeth a'r cynllun gweithredu newydd ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael eu datblygu, a chyda golwg gliriach yn awr ar sefyllfa gyllidebol Cymru dros y tair blynedd nesaf ar ôl adolygiad o wariant y DU, nawr yw'r cyfle perffaith i gyflawni'r ymrwymiadau hyn. A all y Gweinidog gadarnhau pa gamau sydd ar y gweill mewn perthynas â diogelwch a chynaliadwyedd i oroeswyr yng Nghymru? Diolch.
Diolch yn fawr, Sioned Williams. Mae hwn yn gwestiwn dilynol pwysig iawn wedi'r cwestiynau a'r drafodaeth gynharach y prynhawn yma yng nghwestiynau llafar y Senedd i mi. Mae'n amlwg yn gywilyddus ein bod yn dal i fod yn y sefyllfa hon, lle rydym yn gwybod bod trais yn erbyn menywod ar gynnydd, a'r ffaith bod gennym gynnydd syfrdanol—cawsom yr ystadegyn gennych—o 22 y cant.
Y goroeswyr yw'r rhai rydym yn edrych arnynt yn awr, yn enwedig i helpu i'n llywio ar y ffordd ymlaen, gyda'n hasiantaethau arbenigol. Felly, yr hyn sy'n allweddol i Cymorth i Fenywod Cymru, BAWSO a'r sefydliadau a oedd gyda ni nos Lun yn yr wylnos yw sut rydym yn datblygu pum mlynedd nesaf ein strategaeth genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rydym yn ei ddatblygu gyda'r heddlu wrth gwrs, y sector arbenigol a goroeswyr, a byddaf yn gwneud datganiad cyn diwedd y tymor hwn ar yr ymgynghoriad rydym yn ei gynnal ar y strategaeth ddrafft ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Ond mae'r ffordd rydym yn cefnogi'r gwasanaethau hynny i'w galluogi i ymdopi â'r her a'r anghenion, fel y dywedwch, yn hanfodol bwysig. Felly, y gyllideb refeniw ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol eleni yw £6.825 miliwn, ac mae hynny'n cynnwys cyllid afreolaidd o £1.575 miliwn, ac mae'n gynnydd o £1.575 miliwn ar y flwyddyn flaenorol. Mae hynny wedi helpu sefydliadau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i ateb y galw cynyddol a nodwyd gennych, wrth gwrs, o ganlyniad i bandemig COVID-19. Ond rydym hefyd wedi sicrhau cynnydd o 4 y cant yn y dyraniad i sefydliadau'r trydydd sector.
Yr hyn sydd wedi bod yn bwysig iawn yw ein bod wedi edrych ar gynaliadwyedd cyllid ac wedi dod â'r holl wasanaethau arbenigol ynghyd i'n helpu i symud ymlaen yn y ffordd rydych chi, yn gwbl briodol, wedi galw arnom i'w wneud. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod bod hyn yn rhywbeth lle mae pob sefydliad yn gweithio gyda'u hawdurdodau lleol yn lleol ac yn rhanbarthol, ond hefyd gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu, sy'n gyfrifol am gryn dipyn o arian arloesi. Ac mae'n cynnwys cyllid cyfalaf yn ogystal â chyllid refeniw i gryfhau'r seilwaith trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Diolch, Weinidog. Dylai'r ddyletswydd addysg cydberthynas a rhywioldeb yn y cwricwlwm newydd ddarparu addysg o ansawdd uchel yn unol â dull addysg gyfan o ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben. Felly, all y Gweinidog amlinellu sut y bydd y cwricwlwm newydd yn cynorthwyo gyda'r nod o ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben? Diolch.
Mae hyn hefyd yn hanfodol bwysig, gan gydnabod bod mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn gyfrifoldeb trawslywodraethol. Rwy'n gweithio'n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod, Jeremy Miles, ar ddiogelu pobl ifanc, ond rwyf hefyd yn cydnabod bod y cwricwlwm newydd yn rhoi cyfle gwych i fynd i'r afael â hyn. Credaf ei fod yn rhywbeth lle mae'n rhaid inni gydnabod hefyd ein bod wedi cael gwybodaeth syfrdanol yn ddiweddar oddi ar wefan Everyone's Invited am aflonyddu rhywiol mewn ysgolion, ac mae'n rhywbeth y mae'r Gweinidog addysg a minnau'n cydweithio arno, gan gydnabod bod hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef drwy'r elfen addysg cydberthynas a rhywioldeb yng nghwricwlwm newydd Cymru. Mae hynny'n mynd i fod yn statudol. Mae'n hanfodol nad yw'n rhan ddewisol o'r cwricwlwm, a bydd yn canolbwyntio ar ddatblygu perthnasoedd iach o'r blynyddoedd cynnar ymlaen. Ond hefyd, gwnaed gwaith parhaus pwysig iawn eisoes gyda phrosiect Sbectrwm mewn ysgolion, sy'n cael y math hwnnw o effaith. Rwyf wedi siarad â phrif gwnstabliaid yr heddlu yn ogystal â chomisiynwyr heddlu a throseddu ynglŷn â sut y gallwn ddefnyddio eu rhaglen ysgolion i fynd i'r afael â'r materion hyn hefyd.
Diolch. Rwy'n siŵr bod y Gweinidog yn cofio'r dystiolaeth bwerus a gawsom, a'r pwyntiau pwysig a wnaed yma yn y Siambr yn ddiweddar, yn y ddadl a gynhaliwyd ar atal sbeicio. Yn dilyn y bleidlais gadarnhaol o blaid y cynnig, yn benodol mewn perthynas â chefnogi mentrau sy'n mynd ati'n weithredol i herio agweddau diwylliannol sy'n caniatáu i aflonyddu ac ymosod rhywiol ddigwydd, pa gynnydd a wnaed, a beth yw'r camau nesaf i'r Llywodraeth, ar gynhyrchu strategaeth gynhwysfawr ar atal ymosodiadau ac aflonyddu rhywiol yn economi'r nos yng Nghymru, a cheisio eglurder gan Lywodraeth y DU ar eu cynlluniau i ddosbarthu casineb at fenywod fel trosedd gasineb? Diolch.
Diolch am y cwestiwn hwnnw hefyd, gan inni gael dadl bwerus iawn yma ynglŷn â sbeicio, a chredaf mai'r hyn a ddywedais yn y ddadl honno yw bod rôl ddifrifol iawn gan yr heddlu mewn ymateb i sbeicio—mae ganddynt rôl allweddol—a'r holl heddluoedd yng Nghymru, yn ogystal â'r comisiynwyr heddlu a throseddu, a'u bod yn cofnodi digwyddiadau a darparu hyfforddiant ychwanegol ac yn sicrhau ymateb cadarn er mwyn dwyn cyflawnwyr i gyfrif. Credaf fod cyfrifoldebau gan lywodraeth leol ac iechyd hefyd er mwyn sicrhau ymateb cydgysylltiedig a chydlynol. Nawr, dyma rydym yn gweithio arno gyda'r strategaeth newydd hon ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, gan fod yn rhaid inni ganolbwyntio ar drais yn y cartref, ond rydym bellach yn ymestyn hynny i fannau cyhoeddus, ac yn cynnwys economi'r nos.
Rwyf eisoes wedi crybwyll y ffaith, a chredaf fod y Prif Weinidog wedi dweud hyn ddoe, fod mynd i'r afael â chasineb at fenywod yn bwnc a fydd yn cael ei drafod yn uniongyrchol yng nghyfarfod nesaf y bwrdd partneriaeth plismona a bod rhai arferion da mewn mannau eraill y gallwn ddysgu ohonynt o ran sut y mae heddluoedd yn mynd i’r afael â hyn, ond hefyd adolygiad Comisiwn y Gyfraith a chydnabod casineb at fenywod fel trosedd. Yr hyn y gofynnwn amdano yw ein bod yn cael canlyniad yr adolygiad hwnnw cyn gynted â phosibl. Mae'n rhaid inni gydnabod bod hon yn drosedd gasineb, a chasineb at fenywod, ac yna rydym am i Lywodraeth y DU weithredu gyda deddfwriaeth, ac rwy'n gobeithio y bydd pob un o'n cyd-Aelodau'n cefnogi honno pan ddaw.