Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Dro ar ôl tro, clywsom nad oes digon wedi'i wneud i gyflawni hyn a sicrhau'r newid i ddatblygu cynaliadwy y mae'r Ddeddf yn ceisio ei gyflawni ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. Gallwn i gyd dderbyn bod codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth a newid diwylliant yn cymryd amser. Fodd bynnag, pasiwyd y Ddeddf bron i chwe blynedd yn ôl.
Er bod cyrff cyhoeddus wedi cael digon o amser a chyfle i gymryd camau hanfodol tuag at ymgorffori datblygu cynaliadwy ym mhob gwasanaeth cyhoeddus, nid ydym yn gweld geiriau'n trosi'n gamau pendant. Nid yw'n glir o hyd pa wahaniaeth y mae'r Ddeddf wedi'i wneud i'r ffordd y mae cyrff cyhoeddus yn gweithredu. Mae angen mwy o waith i gefnogi cyrff cyhoeddus sy'n gyfrifol am weithredu'r Ddeddf, i ddeall nid yn unig y saith nod llesiant, ond hefyd y pum ffordd o weithio a nodir yn y Ddeddf.
Yn ei adroddiad statudol, mae'r archwilydd cyffredinol yn datgan bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus wella'r ffordd y maent yn cymhwyso pob un o'r pum ffordd o weithio os ydynt yn mynd i sicrhau newid diwylliannol gwirioneddol—sef hanfod y Ddeddf. O'i adroddiad cynharach yn 2018, gofynnodd yr archwilydd cyffredinol i gyrff cyhoeddus sut roedd eu proses ar gyfer pennu amcanion llesiant wedi bod yn wahanol i'r ffordd roeddent wedi pennu amcanion corfforaethol yn flaenorol. Dywedodd y rhan fwyaf ei fod wedi bod yn wahanol, ond yn aml ni allent roi esboniad manwl ynglŷn â sut, neu roi enghreifftiau o sut roeddent wedi defnyddio pob un o'r pum ffordd o weithio.
Ac eto, dair blynedd yn ddiweddarach, rydym yn dal i ofyn yr un cwestiwn. Heb y newid diwylliannol, ni allwn oresgyn y rhwystrau i weithredu'r Ddeddf hon. Rhaid i'r pum ffordd o weithio fod yn ganolog wrth inni geisio gwneud cynnydd gwirioneddol gyda datblygu cynaliadwy, gan gynnwys cyfranogiad a chydweithio. Fel y dywed yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, rhaid inni dynnu sylw at y rôl allweddol y mae cymunedau a'u sefydliadau yn ei chwarae yn cyflawni uchelgeisiau Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol i wella llesiant, cyfranogiad dinasyddion a chydweithredu.
Mae'r archwilydd cyffredinol yn gyfrifol am asesu i ba raddau y mae cyrff cyhoeddus wedi mabwysiadu'r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth bennu a gweithio tuag at eu hamcanion llesiant. Yn ymarferol, golyga hyn ei fod yn gyfrifol am asesu a yw cyrff yn mabwysiadu'r pum ffordd o weithio.
Mewn ymateb i'r argymhellion a wnaed i'r archwilydd cyffredinol yn adroddiad y pwyllgor a'n rhagflaenodd, rydym yn croesawu'r canllawiau wedi'u diweddaru y mae wedi'u darparu i archwilwyr, sy'n codi disgwyliadau y bydd cyrff archwiliedig yn mabwysiadu egwyddor datblygu cynaliadwy. Rydym hefyd yn croesawu ei ddatganiad y dylai cyrff cyhoeddus sicrhau bod egwyddorion y Ddeddf yn cael eu hymgorffori yn eu cynlluniau adfer yn sgil COVID.
Roedd argymhelliad 2 yn adroddiad y pwyllgor a'n rhagflaenodd yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r cyllid sydd ar gael i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus. Yn ei hymateb, mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn ystyried
'yn flynyddol, y pecyn o gyllid a chymorth rydym yn ei ddarparu'n uniongyrchol i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus a byddwn yn edrych ar sut y gallwn godi ymwybyddiaeth o'r ystod o ffynonellau ariannu sydd ar gael iddynt.'
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dweud ei bod yn ymrwymo i weithio gyda byrddau gwasanaethau cyhoeddus i ddeall yn well sut y cânt eu hariannu. Fodd bynnag, gan nad yw byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, gofynnwn am eglurhad gan y Gweinidog ar y dull a gymerir i ystyried y pecyn cyllid y mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn ei dderbyn yn flynyddol.
Roedd argymhelliad 7 yn galw am ystyried pa gyrff sy'n dod o dan y Ddeddf, yn enwedig gan fod nifer o gyrff newydd wedi'u sefydlu ers hynny. Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn cwblhau adolygiad erbyn haf 2022, gan ymgysylltu ag Archwilio Cymru fel rhan o'r gwaith hwn. Fodd bynnag, byddem yn disgwyl i gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol gymryd rhan lawn yn yr adolygiad hwn hefyd, a nodwn, hyd y gwyddom, nad oes unrhyw ymrwymiad tebyg wedi'i wneud i ymgysylltu â'r comisiynydd.
Mewn ymateb i argymhelliad 8, nodwn fod Llywodraeth Cymru, yn dilyn etholiadau'r Senedd ym mis Mai, wedi symud i dymor llythyrau cylch gwaith y Llywodraeth, a bydd eu cylchoedd gwaith yn cael eu cymhwyso o flwyddyn ariannol gyfredol 2021-22. Mae'r ymateb yn ychwanegu bod y fframwaith ar gyfer y llythyrau cylch gwaith newydd yn cynnwys gofyniad i fodloni'n llawn y ddyletswydd llesiant a nodir yn y Ddeddf. Daeth y Ddeddf hon yn gyfraith yn 2015. Felly, fy nghwestiwn i'r Gweinidog yw pam na chafodd y penderfyniad ei wneud cyn nawr i fframio llythyrau cylch gwaith o amgylch y Ddeddf a sut y bydd hyn yn gweithio'n ymarferol.
I grynhoi, mae'n amlwg fod gweithredu'r Ddeddf yn cael ei atal gan lawer gormod o rwystrau. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r rhwystrau hyn, ond mae'r cynnydd wedi bod yn araf. Nid oes llwybr clir i fynd i'r afael â'r rhwystrau, a phwysleisiwn fod gofyn monitro a gwerthuso gweithrediad pob deddfwriaeth a gosod amserlen glir ar gyfer gweithredu. Mae angen i Lywodraeth Cymru arwain drwy osod cyfeiriad teithio clir, i'n galluogi ni fel Senedd, a Chymru fel gwlad, i ysgwyddo cyfrifoldeb ar y cyd dros ail-lunio gwasanaethau cyhoeddus er gwell.
Yn olaf, mae'n dal i fod llawer o waith i ni yn y Senedd ei wneud ar fonitro gweithrediad y Ddeddf a chyflawni gwaith craffu ar ôl deddfu. Rwy'n croesawu'r ymateb gan Bwyllgor Busnes y Senedd wrth iddo dderbyn yr argymhellion a gyfeiriwyd ato, y dylid ystyried sut i fwrw ymlaen â'r gwaith o graffu ar y Ddeddf. Wrth sefydlu pwyllgorau'r chweched Senedd, rwy'n falch fod cylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn cynnwys y Ddeddf hon. Dywedodd y Pwyllgor Busnes hefyd na ddylid gwneud y gwaith craffu yn annibynnol ar waith y pwyllgorau eraill, ac edrychaf ymlaen at gydweithio â'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a sicrhau y bydd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus rôl allweddol yn y gwaith hwn. Diolch.