7. Dadl y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015: Craffu ar y broses o roi’r ddeddf ar waith

– Senedd Cymru am 4:15 pm ar 24 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 4:15, 24 Tachwedd 2021

Yr eitem nesaf yw eitem 7, dadl y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol 2015: craffu ar y broses o roi’r Ddeddf ar waith. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i wneud y cynnig—Mark Isherwood.

Cynnig NDM7841 Mark Isherwood, Jenny Rathbone

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi:

a) Adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Bumed Senedd sef, Cyflawni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol: y stori hyd yma, a osodwyd ar 17 Mawrth 2021;

b) Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor, a gyhoeddwyd ar 5 Hydref 2021;

c) Ymateb Archwilydd Cyffredinol Cymru i Adroddiad y Pwyllgor, dyddiedig Awst 2021;

d) Ymateb Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru i Adroddiad y Pwyllgor, dyddiedig 3 Medi 2021;

e) Ymateb y Llywydd i Adroddiad y Pwyllgor, dyddiedig 22 Medi 2021;

f) Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, sef, Felly beth sy’n wahanol? Canfyddiadau Archwiliadau Egwyddor Datblygu Cynaliadwy yr Archwilydd Cyffredinol, dyddiedig 8 Hydref 2021; ac

g) Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, sef Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2020, dyddiedig 8 Hydref 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 4:16, 24 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y ddadl cyd-bwyllgor hon fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus. Mae dadleuon cyd-bwyllgor yn anghyffredin ac mae'r ddadl hon yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw hi fod y Senedd yn mabwysiadu dull cydweithredol, amhleidiol o graffu ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015. Mae'r ddeddfwriaeth flaenllaw uchelgeisiol hon yn torri ar draws popeth a wnawn yma yng Nghymru i sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn darparu'n effeithlon ac yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rai misoedd yn ôl, cododd fy rhagflaenydd yn y Siambr hon i siarad am ganfyddiadau adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y pryd, 'Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: Y stori hyd yma'. Canfu'r adroddiad fod arweinyddiaeth anghyson ac arafwch newid diwylliant yn gwneud cam â dyheadau'r Ddeddf, ers iddi ddod yn gyfraith chwe blynedd yn ôl. Dyma'r tro cyntaf i un o bwyllgorau'r Senedd gyflawni gwaith craffu cynhwysfawr ar weithrediad y Ddeddf, gyda 97 o sefydliadau'n cyfrannu at yr ymchwiliad. Roedd yn waith cymhleth a ganolbwyntiai ar edrych ar y darlun ehangach a'r rhwystrau i weithredu a oedd yn gyffredin i'r rhan fwyaf o wasanaethau cyhoeddus, os nad pob un. Edrychai'n eang ar y problemau sylfaenol y tu ôl i ymdrechion pawb i weithredu'r Ddeddf. Gwnaeth adroddiad y pwyllgor a'n rhagflaenodd 14 o argymhellion wedi'u hanelu'n bennaf at Lywodraeth Cymru.

Ar 5 Hydref 2021, gwnaeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ddatganiad yn y cyfarfod llawn ar weithrediad cenedlaethol llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Roedd y datganiad yn eang, ac er ei fod yn cyfeirio at adroddiad blaenorol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, nid oedd yn ymateb i'r argymhellion a geir ynddo. Ar y pryd, nid oedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hymatebion i'r tri adroddiad a edrychodd ar weithrediad y Ddeddf, gan gynnwys yr adroddiadau statudol cyntaf gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2020.

Wrth ymateb i ddatganiad y Gweinidog, mynegais bryder nad oedd yn bosibl cael dadl ddigonol heb fod yr holl ymatebion perthnasol ar gael, gan ychwanegu bod cynsail pryderus yn cael ei osod yn y ffordd yr ymatebodd Llywodraeth Cymru i'r adroddiadau hyn ac na ddylai'r dull anarferol hwn o weithredu ddigwydd eto. Mynegais bryderon ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i dderbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion yn adroddiad y pwyllgor mewn egwyddor, er gwaethaf honiadau a gawsom yn flaenorol y byddai'r arfer hwn yn dod i ben. Barn gyfunol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yw na ddylid defnyddio 'derbyn mewn egwyddor' mewn ymateb i adroddiadau pwyllgor eto a rhaid i argymhellion naill ai gael eu derbyn neu eu gwrthod. Pan fydd angen gwneud rhagor o waith i weithredu argymhelliad, neu os na ellir gweithredu erbyn dyddiad penodol, dylid nodi hyn yn glir wrth fanylu ar yr ymateb.

Ers datganiad y Gweinidog, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi ei hymatebion i'r tri adroddiad sy'n edrych ar y Ddeddf, a heddiw, cawn gyfle i drafod y rhain yn llawn. Fodd bynnag, ni fyddai hyn wedi digwydd oni bai am y dull rhagweithiol a phragmatig a gymerwyd ar y cyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a minnau wrth inni ofyn am y ddadl hon ar y cyd. Rwy'n gobeithio bod hyn yn dynodi ac yn anfon neges glir ynglŷn â'r modd difrifol y mae pwyllgorau'r Senedd yn mynd ati i graffu a chyflawni ein dyletswyddau i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Mae gweithrediad y Ddeddf yn dibynnu ar newid diwylliannol y bydd yn rhaid iddo ddechrau gydag ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ar bob lefel o gyrff cyhoeddus.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 4:20, 24 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Dro ar ôl tro, clywsom nad oes digon wedi'i wneud i gyflawni hyn a sicrhau'r newid i ddatblygu cynaliadwy y mae'r Ddeddf yn ceisio ei gyflawni ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. Gallwn i gyd dderbyn bod codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth a newid diwylliant yn cymryd amser. Fodd bynnag, pasiwyd y Ddeddf bron i chwe blynedd yn ôl.

Er bod cyrff cyhoeddus wedi cael digon o amser a chyfle i gymryd camau hanfodol tuag at ymgorffori datblygu cynaliadwy ym mhob gwasanaeth cyhoeddus, nid ydym yn gweld geiriau'n trosi'n gamau pendant. Nid yw'n glir o hyd pa wahaniaeth y mae'r Ddeddf wedi'i wneud i'r ffordd y mae cyrff cyhoeddus yn gweithredu. Mae angen mwy o waith i gefnogi cyrff cyhoeddus sy'n gyfrifol am weithredu'r Ddeddf, i ddeall nid yn unig y saith nod llesiant, ond hefyd y pum ffordd o weithio a nodir yn y Ddeddf.

Yn ei adroddiad statudol, mae'r archwilydd cyffredinol yn datgan bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus wella'r ffordd y maent yn cymhwyso pob un o'r pum ffordd o weithio os ydynt yn mynd i sicrhau newid diwylliannol gwirioneddol—sef hanfod y Ddeddf. O'i adroddiad cynharach yn 2018, gofynnodd yr archwilydd cyffredinol i gyrff cyhoeddus sut roedd eu proses ar gyfer pennu amcanion llesiant wedi bod yn wahanol i'r ffordd roeddent wedi pennu amcanion corfforaethol yn flaenorol. Dywedodd y rhan fwyaf ei fod wedi bod yn wahanol, ond yn aml ni allent roi esboniad manwl ynglŷn â sut, neu roi enghreifftiau o sut roeddent wedi defnyddio pob un o'r pum ffordd o weithio.

Ac eto, dair blynedd yn ddiweddarach, rydym yn dal i ofyn yr un cwestiwn. Heb y newid diwylliannol, ni allwn oresgyn y rhwystrau i weithredu'r Ddeddf hon. Rhaid i'r pum ffordd o weithio fod yn ganolog wrth inni geisio gwneud cynnydd gwirioneddol gyda datblygu cynaliadwy, gan gynnwys cyfranogiad a chydweithio. Fel y dywed yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, rhaid inni dynnu sylw at y rôl allweddol y mae cymunedau a'u sefydliadau yn ei chwarae yn cyflawni uchelgeisiau Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol i wella llesiant, cyfranogiad dinasyddion a chydweithredu. 

Mae'r archwilydd cyffredinol yn gyfrifol am asesu i ba raddau y mae cyrff cyhoeddus wedi mabwysiadu'r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth bennu a gweithio tuag at eu hamcanion llesiant. Yn ymarferol, golyga hyn ei fod yn gyfrifol am asesu a yw cyrff yn mabwysiadu'r pum ffordd o weithio.

Mewn ymateb i'r argymhellion a wnaed i'r archwilydd cyffredinol yn adroddiad y pwyllgor a'n rhagflaenodd, rydym yn croesawu'r canllawiau wedi'u diweddaru y mae wedi'u darparu i archwilwyr, sy'n codi disgwyliadau y bydd cyrff archwiliedig yn mabwysiadu egwyddor datblygu cynaliadwy. Rydym hefyd yn croesawu ei ddatganiad y dylai cyrff cyhoeddus sicrhau bod egwyddorion y Ddeddf yn cael eu hymgorffori yn eu cynlluniau adfer yn sgil COVID.

Roedd argymhelliad 2 yn adroddiad y pwyllgor a'n rhagflaenodd yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r cyllid sydd ar gael i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus. Yn ei hymateb, mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn ystyried

'yn flynyddol, y pecyn o gyllid a chymorth rydym yn ei ddarparu'n uniongyrchol i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus a byddwn yn edrych ar sut y gallwn godi ymwybyddiaeth o'r ystod o ffynonellau ariannu sydd ar gael iddynt.'

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dweud ei bod yn ymrwymo i weithio gyda byrddau gwasanaethau cyhoeddus i ddeall yn well sut y cânt eu hariannu. Fodd bynnag, gan nad yw byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, gofynnwn am eglurhad gan y Gweinidog ar y dull a gymerir i ystyried y pecyn cyllid y mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn ei dderbyn yn flynyddol.

Roedd argymhelliad 7 yn galw am ystyried pa gyrff sy'n dod o dan y Ddeddf, yn enwedig gan fod nifer o gyrff newydd wedi'u sefydlu ers hynny. Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn cwblhau adolygiad erbyn haf 2022, gan ymgysylltu ag Archwilio Cymru fel rhan o'r gwaith hwn. Fodd bynnag, byddem yn disgwyl i gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol gymryd rhan lawn yn yr adolygiad hwn hefyd, a nodwn, hyd y gwyddom, nad oes unrhyw ymrwymiad tebyg wedi'i wneud i ymgysylltu â'r comisiynydd.

Mewn ymateb i argymhelliad 8, nodwn fod Llywodraeth Cymru, yn dilyn etholiadau'r Senedd ym mis Mai, wedi symud i dymor llythyrau cylch gwaith y Llywodraeth, a bydd eu cylchoedd gwaith yn cael eu cymhwyso o flwyddyn ariannol gyfredol 2021-22. Mae'r ymateb yn ychwanegu bod y fframwaith ar gyfer y llythyrau cylch gwaith newydd yn cynnwys gofyniad i fodloni'n llawn y ddyletswydd llesiant a nodir yn y Ddeddf. Daeth y Ddeddf hon yn gyfraith yn 2015. Felly, fy nghwestiwn i'r Gweinidog yw pam na chafodd y penderfyniad ei wneud cyn nawr i fframio llythyrau cylch gwaith o amgylch y Ddeddf a sut y bydd hyn yn gweithio'n ymarferol.

I grynhoi, mae'n amlwg fod gweithredu'r Ddeddf yn cael ei atal gan lawer gormod o rwystrau. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r rhwystrau hyn, ond mae'r cynnydd wedi bod yn araf. Nid oes llwybr clir i fynd i'r afael â'r rhwystrau, a phwysleisiwn fod gofyn monitro a gwerthuso gweithrediad pob deddfwriaeth a gosod amserlen glir ar gyfer gweithredu. Mae angen i Lywodraeth Cymru arwain drwy osod cyfeiriad teithio clir, i'n galluogi ni fel Senedd, a Chymru fel gwlad, i ysgwyddo cyfrifoldeb ar y cyd dros ail-lunio gwasanaethau cyhoeddus er gwell.

Yn olaf, mae'n dal i fod llawer o waith i ni yn y Senedd ei wneud ar fonitro gweithrediad y Ddeddf a chyflawni gwaith craffu ar ôl deddfu. Rwy'n croesawu'r ymateb gan Bwyllgor Busnes y Senedd wrth iddo dderbyn yr argymhellion a gyfeiriwyd ato, y dylid ystyried sut i fwrw ymlaen â'r gwaith o graffu ar y Ddeddf. Wrth sefydlu pwyllgorau'r chweched Senedd, rwy'n falch fod cylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn cynnwys y Ddeddf hon. Dywedodd y Pwyllgor Busnes hefyd na ddylid gwneud y gwaith craffu yn annibynnol ar waith y pwyllgorau eraill, ac edrychaf ymlaen at gydweithio â'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a sicrhau y bydd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus rôl allweddol yn y gwaith hwn. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:26, 24 Tachwedd 2021

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, Jenny Rathbone.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Hoffwn ddefnyddio'r cyfle hwn i roi teyrnged i Nick Ramsay, a gadeiriodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac roedd yn arwain ar yr adroddiad hwn, a dywedodd yn ei ragair fod gwneud i ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol weithio yn y pen draw

'yn dibynnu ar bob corff cyhoeddus a phawb.'

Er, wrth gwrs, mae'n dibynnu mwy ar rai nag ar eraill. Ein dyletswydd graidd fel Senedd yw dwyn Llywodraeth Cymru a'r 43 corff arall a enwir yn y Ddeddf i gyfrif, a gall fod yn eithaf heriol cadw'r pum ffordd o weithio mewn cof fel strategaethau ar gyfer cyflawni'r saith nod llesiant: cymunedau llewyrchus, cydnerth, sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, yn iachach, yn fwy cyfartal a mwy cydlynus, ac sydd â diwylliant bywiog, lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.

Y bore yma ar y radio, cefais fy atgoffa

'Mae'r ffordd y mae diwylliant yn trin menywod sy'n rhoi genedigaeth yn ddangosydd da o ba mor dda y mae menywod a'u cyfraniadau i gymdeithas yn cael eu gwerthfawrogi a'u hanrhydeddu.'

A daw'r dyfyniad gan Ina May Gaskin, sy'n gweithio yn y wlad a orfeddygolwyd fwyaf a'r wlad fwyaf cyfoethog yn y byd, lle bernir bod rôl menywod yn atgynhyrchu'r hil ddynol mor ddibwys fel nad yw'n rhoi fawr ddim hawliau ariannol na chyfreithiol iddynt yn y gyfraith.

Ond nid yw'r sefydliad hwn, a Llywodraeth Cymru, yn gyfrifol, er enghraifft, am erydu budd-dal plant yn barhaus gan Lywodraeth y DU ar ben arall yr M4. Fodd bynnag, mae'n amlwg fod gennym gyfrifoldeb enfawr dros sicrhau bod unrhyw blentyn a enir heddiw yn cael y cyfle gorau posibl i fod yn llewyrchus, yn gydnerth, yn iach ac yn gyfrifol ar lefel fyd-eang, fel dinesydd byd-eang ac aelod gweithgar o wlad gydlynus, fwy cyfartal, bywiog a dwyieithog, fan lleiaf. O ystyried yr heriau digynsail a achoswyd gan y pandemig, y trafferthion economaidd o addasu i economi fyd-eang gamweithredol nad yw bellach yn addas i'r diben yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd, pe na bai Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn bodoli, byddai'n rhaid inni ei dyfeisio. Felly, da iawn a diolch yn fawr, Carl Sargeant, a'r holl bobl eraill a fu'n ymwneud â'r gwaith o greu'r Ddeddf hon. Mae'n rhoi fframwaith hollbwysig i ni ar gyfer darparu ein ffordd drwy gymhlethdodau'r penderfyniadau y mae angen i ni eu gwneud gydag adnoddau cyfyngedig iawn. Nid oes gennym ddewis ond gofyn, 'Beth y gallwn ei wneud yn wahanol er mwyn cyflawni'r newid y gobeithiaf y gallwn ei wneud ar ran y bobl a'n hetholodd i wneud y gwaith hwn?'

Yn unol ag argymhelliad 13 a 14, mae'r Pwyllgor Busnes wedi neilltuo'r brif rôl drawsbynciol o graffu ar y Ddeddf chwyldroadol hon ar gyfer y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ond nid yw hynny'n esgusodi aelodau o bwyllgorau eraill rhag chwarae eu rhan. Rhaid i bob un ohonom roi ystyriaeth lawn mor ddifrifol i'r Ddeddf â'r 44 corff cyhoeddus y mae'n rhaid inni graffu arnynt. Rhaid i bob pwyllgor ystyried mai eu cyfrifoldeb yw ymgorffori egwyddorion a nodau'r Ddeddf yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

Felly, i ganolbwyntio ychydig ar yr adroddiadau etifeddiaeth hyn, mae'n amlwg mai'r adroddiad mawr yw'r un a gynhyrchwyd ym mis Mai 2020, yng nghanol y pandemig. Ac roedd gwaith y pwyllgor—y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus—roeddwn yn aelod ohono wedi'i ohirio yn ei dro oherwydd y pandemig, yn gwbl briodol. Felly, gallaf weld, i Aelodau newydd, y gallai fod yn destun peth dryswch iddynt pam ein bod yn trafod hyn yn awr, pan fo cynffon mor hir i'r stori hon.

Ond rwy'n credu fy mod am edrych, yn fwyaf arbennig, ar rôl byrddau gwasanaethau cyhoeddus, sy'n sbardun hollbwysig i'r newidiadau sydd angen inni eu gwneud. Ac wrth edrych ar argymhelliad 2 a'r rhesymau pam y gwnaethom ei ysgrifennu yn y ffordd honno, mae rhai byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn llawer pellach ar hyd y llwybr tuag at newid diwylliannol nag eraill ac maent hwy, yn eu tro—mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn newid yn gyson. Dechreuasom gyda 22; ar adeg cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, roedd gennym 19; ac yn awr, gydag uno radical pum awdurdod lleol—Blaenau Gwent, Torfaen, Caerffili, Trefynwy a Chasnewydd—yn fwrdd gwasanaethau cyhoeddus Gwent, credaf fod gennym arweiniad cyffrous iawn ar y rôl y gall byrddau gwasanaethau cyhoeddus ei chwarae, ond mae hefyd yn dweud wrthych eu bod yn wahanol iawn. Ond tybed a allai'r Gweinidog ddweud ychydig mwy ynglŷn â sut y mae'r Llywodraeth yn credu y dylid meithrin byrddau gwasanaethau cyhoeddus i fwrw ymlaen â'u rôl. Nid yw hyn yn ymwneud â rhoi cyllidebau iddynt, oherwydd holl bwynt byrddau gwasanaethau cyhoeddus yw nad oes ganddynt gyllidebau; mae'n ymwneud â'u cael i weithio gyda'i gilydd a gweithredu'r Ddeddf. Ond rwy'n credu bod angen ymhelaethu ymhellach ar sut y mae'r Llywodraeth yn gweld rôl byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol a'u perthynas agos, y byrddau partneriaeth rhanbarthol.

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Conservative 4:32, 24 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu’r adroddiad hwn, sy’n cynrychioli dull adeiladol a chadarnhaol o wneud i Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol weithio’n well i bobl Cymru. Ac fel fy nghyd-Aelod, a soniodd yn gynharach am y bobl sydd wedi rhoi eu hamser a'u hymdrech—Aelodau blaenorol a fu'n rhan o'r ymdrech i lunio'r adroddiad—rwy'n gwerthfawrogi eu gwaith caled a'u hymroddiad, a gwaith y clercod hefyd. Nawr, gan fy mod yn aelod newydd o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus fy hun, gwn ei bod yn cymryd pentref yn wir—pob Aelod unigol, ond y tîm gweinyddol cyfan hefyd—i greu adroddiad fel hwn yn ogystal.

Mae'r adroddiad hwn yn edrych yn benodol ar y rhwystrau i weithredu'r Ddeddf, fel y cyfryw, mewn modd amserol, a pherthnasol hefyd. Dyma'r tro cyntaf y cynhaliwyd adolygiad cynhwysfawr o'r gwaith a wnaed o dan y Ddeddf gan y gwahanol gyrff sy'n gyfrifol am ei gweithredu. Ond mae'n codi nifer o faterion. Mae'n amlwg fod diffyg ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o'r Ddeddf a'r newid sydd wedi digwydd tuag at ddatblygu cynaliadwy wrth lywodraethu a darparu gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Daw'r adroddiad i'r casgliad nad yw cyrff cyhoeddus wedi gwneud digon i godi ymwybyddiaeth a chynyddu dealltwriaeth ymhlith defnyddwyr eu gwasanaethau. Nid ydynt wedi gwneud digon i newid diwylliant eu sefydliadau eu hunain i gydweddu ag egwyddorion y Ddeddf ac nid ydynt wedi manteisio'n llawn eto ar arbenigedd a gallu y trydydd sector a'r sector preifat i gefnogi eu gwaith o dan y Ddeddf.

Ni allwn edrych ar fater gweithredu heb archwilio digonolrwydd y cyllid. Nododd Archwilydd Cyffredinol Cymru dri phrif fater sy'n creu rhwystrau allweddol i sefydliadau, a soniodd y rhan fwyaf o'r tystion am o leiaf un ohonynt wrth roi tystiolaeth. Maent yn cynnwys natur fyrdymor rhai o'r ffrydiau cyllid, sy'n rhwystro gallu cyrff cyhoeddus i gynllunio'n effeithiol ar gyfer y tymor hir; diffyg hyblygrwydd ynglŷn â'r modd y gellir gwario rhai rhannau o gyllid grant, a'r ffaith nad yw cyrff cyhoeddus yn cael gwybod am argaeledd cyllid tan yn nes ymlaen yn y flwyddyn ariannol. Caiff cyfran sylweddol o'r cyllid y mae cyrff cyhoeddus yn ei gael gan Lywodraeth Cymru ei bennu a'i ddyfarnu'n flynyddol ac mae cwynion wedi bod ers tro fod y cylchoedd cyllido byrdymor hyn yn peri rhwystrau gwirioneddol i weithredu. Mae'r adroddiad yn cydymdeimlo â'r galwadau gan gyrff cyhoeddus am gylchoedd cyllido mwy hirdymor ac yn gwneud y pwynt fod deddfwriaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gynllunio ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn anoddach i'w gweithredu'n briodol os na chaiff cyllidebau eu gwarantu am fwy na blwyddyn ar y tro.

Mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn ganolog i'r gwaith o sicrhau bod datblygu cynaliadwy yn elfen hollbwysig o wasanaethau cyhoeddus. Yr adborth gan gyrff cyhoeddus a rhanddeiliaid ehangach oedd bod proffil cyhoeddus y comisiynydd yn gadarnhaol a bod ei swyddfa'n gwneud gwaith rhagorol yn hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o'r Ddeddf, sy'n wych ei glywed. Fodd bynnag, mynegwyd rhai pryderon gan gyrff cyhoeddus ynglŷn â'r diffyg cymorth ymarferol a gawsant, hyd yr adroddiadau a gynhyrchwyd a'r angen i ailffocysu gwaith swyddfa'r comisiynydd i'w cefnogi'n fwy effeithiol yn eu gwaith. Mae'r adroddiad yn argymell y dylai comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a chyrff cyhoeddus Cymru weithio'n agos gyda'i gilydd i ddatblygu perthynas adeiladol er mwyn sicrhau bod y cydweithredu rhyngddynt yn cael cymaint o effaith ag sy'n bosibl.

Ddirprwy Lywydd, mae'n dda gweld bod yr argymhellion a wnaed i Lywodraeth Cymru yn yr adroddiad hwn wedi'u derbyn neu eu derbyn mewn egwyddor, ond gŵyr pob un ohonom, a gŵyr y cyhoedd, mai gweithredu sy'n bwysig, ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy na siarad am gefnogi'n unig drwy dderbyn yr argymhellion mewn egwyddor, a sicrhau bod yr argymhellion hyn yn cael eu cyflawni go iawn. Credaf fod yr adroddiad hwn heddiw'n dangos bod y Senedd yn benderfynol o gael gwared ar rwystrau rhag gweithredu'r Ddeddf ac o annog y newidiadau strwythurol a chodi ymwybyddiaeth yn y pen draw, sy'n hanfodol er mwyn ei gwireddu. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 4:35, 24 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Mae Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a basiodd drwy'r Senedd hon wedi'i chanmol gan lawer fel deddfwriaeth arloesol. Diolch i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus am y cyfle i drafod a yw realiti'r ddeddfwriaeth hon yn cyfiawnhau ei henw da.

Er ei bod yn deillio o arloesedd a didwylledd, wrth i'r Ddeddf ddatblygu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae'n amlwg nad yw'n cyflawni'r hyn a fwriadwyd. Yn gyntaf, mae'n uchelgeisiol heb fod yn orfodadwy. Mae ymdrechion i ddibynnu ar y Ddeddf wedi'u defnyddio yn y system gyfreithiol ar sawl achlysur bellach, ac maent wedi cael eu diystyru bob tro oherwydd diffyg gorfodadwyedd. Gwnaed yr ymgais gyntaf i'w defnyddio i herio penderfyniad i gau ysgol, ond cafodd yr achos ei wrthod yn 2019 gan farnwr yr Uchel Lys, Mrs Ustus Lambert, a ddywedodd na allai'r Ddeddf orfodi adolygiad cyfreithiol. Dywedodd y CF a gyflwynodd yr achos, Rhodri Williams:

'oni bai y gall unigolion ddibynnu ar yr hawliau hyn—os ydynt yn teimlo nad ydynt wedi'u cynnal—i herio penderfyniadau cyrff cyhoeddus, mae'r ddeddf bron yn ddiwerth', er ei bod yn llawn o 'ymadroddion sy'n swnio'n wych'.

Ac onid yw hynny'n crynhoi'r broblem? Ni fwriadwyd y Ddeddf hon ar gyfer y bobl nac i rymuso cymunedau i gael y dyfodol y maent yn dymuno ei weld. Dylai'r Ddeddf hon fod wedi bod yn rhodd i gymunedau ledled Cymru, ond yn lle hynny, mae'n ddi-rym. Mae'n amlwg fod angen cryfhau ei mecanweithiau a'i dylanwad.

Problem arall yw nad yw'r Ddeddf yn cael ei defnyddio yn y ffordd gywir. Canfu Swyddfa Archwilio Cymru, a adolygodd effaith y Ddeddf yn 2018, fod yn rhaid i gyrff cyhoeddus ddangos eu bod yn cymhwyso'r Ddeddf yn fwy systematig, gan annog comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol i alw ar gyrff cyhoeddus i fod yn fwy uchelgeisiol, anturus a dyfeisgar os yw'r Ddeddf yn mynd i gyflawni ei photensial. Gyda diffyg capasiti ac adnoddau i ddeall a dadansoddi goblygiadau'r Ddeddf, rwy'n ofni bod cyrff cyhoeddus o'r farn mai ymarfer ticio blychau yw'r Ddeddf. Un enghraifft yw gwerthiant fferm Trecadwgan yn Sir Benfro. Aeth y fferm ar werth mewn arwerthiant cyhoeddus yn 2018 pan ddaeth tenantiaeth y cyngor i ben. Gan ofni y byddai hyn yn arwain at ddatblygu bythynnod gwyliau, cynlluniodd grŵp o bobl leol i brynu'r eiddo fel cymuned. Codwyd yr arian a lluniwyd cynllun busnes ar gyfer fferm organig a fyddai’n darparu bwyd iach, addysg a hyfforddiant mewn dulliau amaethyddol a chanolbwynt cymdeithasol a diwylliannol i’w chymuned. Byddai hyn wedi bodloni nodau ac egwyddorion Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Ond yn anochel, heb gefnogaeth y cyngor i'r amcanion llesiant, gwerthwyd yr eiddo i unigolyn o'r tu allan i Gymru a wnaeth y cynnig uchaf. Rhesymeg y cyngor sir oedd ei fod yn sicrhau'r gwerth gorau i'w etholwyr drwy sicrhau'r elw mwyaf o'r gwerthiant i'w wario yn rhywle arall. Roedd y bobl leol yn ddi-rym i herio'r penderfyniad a chawsant eu gadael heb ddim ond potensial a wastraffwyd a chanlyniad na wnaeth unrhyw beth i wasanaethu'r gymuned leol.

Yn ei dystiolaeth i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yr wythnos hon, nododd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, cyn-gadeirydd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, mai

'un o'r problemau gyda Deddf cenedlaethau'r dyfodol yw nad yw'n benodol nac yn ddigon tynn.'

Nid yw'n dwyn gwleidyddion i gyfrif yn ddigonol. Rwy'n falch fod y sylwadau hyn yn cael eu hailadrodd yn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus rydym yn ei drafod heddiw. Cytunaf yn llwyr â’i argymhellion ei bod yn bryd gwneud gwaith craffu ar ôl deddfu ar y Ddeddf, ac y dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad o’r cyrff cyhoeddus y mae'r Ddeddf yn berthnasol iddynt, gan adleisio argymhellion Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Hefyd, mae ymgysylltu â'r cyhoedd yn allweddol i hyn oll. I'r rheini sydd wedi ymwneud â'r Ddeddf ers ei chreu, fel y grŵp lleol yn Sir Benfro, gwelsant rywfaint o obaith yn y Ddeddf i weithio fel arf i'w helpu i adeiladu'r gymuned roeddent yn dymuno'i gweld. Mae'n rhaid inni rymuso a meithrin y gobaith hwnnw fel nad yw'n cael ei ddiffodd gan barlys y ddeddfwriaeth. Diolch yn fawr.

Photo of Sarah Murphy Sarah Murphy Labour 4:40, 24 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Gan mai hon yw fy nadl gyntaf, ers cael fy ethol, ar Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r nifer fawr o bobl a wnaeth i hyn ddigwydd, yn enwedig llawer o'r bobl y tu ôl i'r llenni, na fydd eu henwau byth yn hysbys i'r cyhoedd, mae'n debyg, ond a fu'n chwysu i greu'r ddeddfwriaeth arloesol hon. Ac nid wyf yn defnyddio'r ymadrodd hwnnw'n ysgafn, gan fy mod o ddifrif yn credu bod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn llafur cariad a gobaith a phenderfyniad i wneud Cymru'n decach, yn wyrddach ac yn hapusach. A gogoniant y Ddeddf yw ei bod yn ein gorfodi i edrych ar ein hunain yng nghyd-destun hanes, yma nawr, nid yn unig fel unigolion, ond fel rhywogaeth ar y blaned rydym yn ei rhannu â llawer o rai eraill am y mymryn lleiaf o amser, gan nad ni yw'r unig fodau dynol sydd wedi bod yma erioed, ond ni yw'r unig rai sydd ar ôl.

Ac fel yr amlygwyd gan lawer yn y COP26, gan gynnwys Greta Thunberg a David Attenborough, credaf ei bod yn boenus o amlwg fod rhai o'n gwendidau fel rhywogaeth yn cynnwys bod yn greaduriaid sy'n gaeth i arfer, sy'n gwrthwynebu newid ac yn dibynnu ar adnoddau naturiol fel pe bai'r cyflenwad yn ddiddiwedd. Mae ein bywydau'n brysur ac yn ddi-baid, mae ein poblogaeth yn tyfu, ac mae'r bwlch rhwng y tlotaf a'r cyfoethocaf yn ein cymdeithas yn parhau i dyfu. Credaf fod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn unigryw gan ei bod yn ein gorfodi i wynebu'r tueddiadau a'r materion hyn gyda'n gilydd a meddwl am y dyfodol, nid yn unig i ni ein hunain, ond i eraill. Mae'n crynhoi gwerthoedd sosialaeth: gofalu am ddieithriaid, pobl na fyddwch byth yn eu cyfarfod, pobl nad ydynt wedi cael eu geni eto hyd yn oed. Fel y dywedodd Jenny Rathbone, pe na bai'n bodoli, byddem wrthi'n ceisio gwneud iddi ddigwydd.

Ac yn sicr, gallwch weld hynny'n cael ei adlewyrchu yn null rhaglen bartneriaeth 'Gallu i Greu' comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, sy'n taflu goleuni ar y gwaith gwych sy'n gwella llesiant ledled Cymru, gan annog pobl i nodi gweledigaeth gadarnhaol am yr hyn sy'n bosibl, sut y gallai Cymru edrych pe bai ein cyrff cyhoeddus yn ymateb i'r cyfleoedd y mae'r ddeddfwriaeth yn eu darparu i wneud penderfyniadau gwell ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Yn ychwanegol at hynny, credaf ei bod yn wych gweld, gyda briff mor enfawr, gyda nodau sylweddol a disgwyliadau uchel, fod swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru yn creu llwybr sy'n ymgorffori'r 17 nod datblygu cynaliadwy gyda'r bwriad o greu Cymru gyfartal, lewyrchus, gydnerth ac iach. Mae hyn wedi bod yn arbennig o berthnasol yn sgil COVID-19, ac rwy'n falch o weld bod ein Llywodraeth yng Nghymru yn ystyried Deddf  llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn ei strategaeth adfer i adeiladu Cymru gryfach, wyrddach a thecach, yn enwedig mewn perthynas â 'Rhaglen Lywodraethu Addas ar gyfer y Dyfodol' y comisiynydd, sy'n cynnwys syniadau penodol ar gyfer buddsoddi mewn datgarboneiddio cartrefi, strategaeth drafnidiaeth y genedl newydd a datblygiad parhaus polisi sgiliau.

Ond yn ogystal â nodau cynaliadwy, mae'r Ddeddf hefyd yn ymwneud â chreu Cymru o gymunedau cydlynus gyda diwylliant bywiog a'r Gymraeg yn ffynnu, Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang ac sy'n dysgu oddi wrth eraill. Rydym yn sicr wedi gweld hyn yn yr argymhellion ar gyfer incwm sylfaenol cyffredinol a'r wythnos waith pedwar diwrnod gan y comisiynydd, gan adeiladu ar ymgyrchoedd fy nghyd-Aelod, Jack Sargeant, dros y ddau beth hynny. Mae'r ddau bolisi wedi'u treialu mewn gwledydd eraill a'u nod yw rhoi mwy o ymreolaeth i bobl, amser gydag anwyliaid, a gwell lles meddyliol a chorfforol, ynghyd â buddion economaidd i bawb. A bellach, yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i dreialu dwy flynedd o incwm sylfaenol cyffredinol mewn ardaloedd trefol a gwledig ledled Cymru, gyda llawer o awdurdodau lleol, fel Rhondda Cynon Taf—nid fy un i, ond gwn eu bod wedi—yn mynegi diddordeb mewn cynnal y cynllun peilot. Ac yn ddiweddar hefyd, cawsom ddadl fawr ar yr wythnos waith pedwar diwrnod, ac mae'r Dirprwy Weinidog, Hannah Blythyn, wedi ymrwymo i gadw llygad ar y treialon sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd yng Ngwlad yr Iâ a'r Alban.

Felly, o ran gweithredu'r Ddeddf, credaf fod y dystiolaeth yn dangos bod Aelodau'r Senedd wedi craffu'n gyson, yn dryloyw ac yn drylwyr ar gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ac Archwilydd Cyffredinol Cymru. A hoffwn dalu teyrnged i Aelodau'r bumed Senedd a'r rheini ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus. Gyda fy nghyd-Aelodau o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol sydd newydd ei ffurfio, dan gadeiryddiaeth Jenny Rathbone, edrychaf ymlaen at barhau'r gwaith hwn i sicrhau bod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn cyflawni'r holl bethau y bwriadwyd iddi eu cyflawni, yn benodol, argymhellion 3, 4 ac 11, sy'n ymwneud â chryfhau'r berthynas rhwng comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a chyrff cyhoeddus Cymru, yn ogystal â sicrhau bod y pum ffordd o weithio wedi'u hymgorffori yn eu cynlluniau ar gyfer adfer yn sgil y pandemig COVID-19, fel nad yw'r cynnydd a wnaed yn yr ymateb uniongyrchol i'r pandemig yn cael eu colli a'u bod yn newid eu ffocws o'r dydd i ddydd i atal a'r tymor hir.

Felly, i gloi, mae llawer wedi'i wneud mewn cyfnod byr iawn o amser mewn gwirionedd ac yng nghanol pandemig byd-eang hefyd, ond mae llawer mwy y gellir ei wneud o hyd, ac rwy'n croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i ddangos nad yw gweithredu agenda llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn ôl-ystyriaeth a'i bod yn cael ei defnyddio i herio, cwestiynu a gwella ei ffyrdd presennol o weithio, fel y gellir ystyried dewisiadau mwy cynaliadwy bob amser.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:45, 24 Tachwedd 2021

Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am eu gwaith ar y cyd yn cyflwyno'r ddadl hon. Mae'r rôl hanfodol sydd gan y Senedd hon, Senedd Cymru, yn fframwaith llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn un o nodweddion allweddol ymagwedd Cymru tuag at ddatblygu cynaliadwy, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod ffocws y ddadl ar graffu ar weithredu. Os edrychwn ar wledydd eraill ledled y byd, mae seneddau'n chwarae rhan allweddol wrth graffu ar weithredu'r agenda datblygu cynaliadwy, ond wrth gwrs, mae gennym gyfle unigryw i drafod hyn yng ngoleuni ein Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a gyrhaeddodd ei charreg filltir bum mlynedd y llynedd. Ac mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi ein hatgoffa mai Cymru yw'r unig wlad i ddeddfu yn y ffordd hon, gan ddefnyddio dull hirdymor o edrych ar achosion sylfaenol problemau mewn deddf sy'n destun edmygedd ledled y byd.

Felly, credwn fod y Ddeddf—a chredaf fod hyn wedi'i fynegi yn y Siambr hon heddiw—yn treiddio ac yn hybu gwelliant parhaus yn y ffordd y mae'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus yn gweithio, fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ddisgwyl gwell ansawdd bywyd ar blaned iach. Mae'r ddadl yn rhoi cyfle imi ddangos sut y mae'r dyletswyddau allweddol yn y Ddeddf wedi'u gweithredu a chydnabod ymdrechion pawb wrth wneud iddi weithio. Felly, mae cyrff cyhoeddus wedi nodi eu hamcanion llesiant, wedi cyhoeddi datganiadau llesiant ynglŷn â'u cyfraniad at y nodau, ac maent yn adrodd bob blwyddyn ar yr hyn y maent yn ei wneud. Mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi'u sefydlu ac mae asesiadau o lesiant lleol wedi'u cwblhau; mae cynlluniau llesiant lleol ar waith ac adroddir ar eu cynnydd yn flynyddol.

Ond hoffwn ymateb i Jenny Rathbone, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, a diolch iddi am ei phwynt a'i chwestiwn penodol am fyrddau gwasanaethau cyhoeddus, gan eu bod yn rhan hanfodol o'r gwaith o leoleiddio nodau llesiant Cymru a dônt â phartneriaid allweddol ynghyd mewn partneriaeth, ac maent yn llywio lleoedd ar lwybr mwy cynaliadwy ac mae ganddynt ymagwedd wahanol at eu gwaith, fel y dywedwch, Jenny. Maent yn targedu eu hymdrechion yn well, maent yn nodi meysydd lle gall gweithredu ar y cyd gael yr effaith fwyaf. Ac mae'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn gwneud gwaith rhagorol wrth ymateb i'r adferiad, fel sir Fynwy—ac rwy'n siŵr fod Peter Fox yn ymwybodol o hynny, fel y cyn arweinydd; prosiect cydweithredol y byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar ddinasyddiaeth weithgar; yn ogystal â gwaith Cwm Taf ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod hefyd. Felly, mae gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus rôl bwysig, ac maent wedi cael eu symbylu, mewn gwirionedd, o ran ymateb i adferiad cymunedau yn dilyn COVID-19. Nid gwaith ychwanegol ar gyfer byrddau gwasanaethau cyhoeddus yw hyn; mae'n barhad o'u gwaith craidd i wella llesiant eu hardaloedd.

A hoffwn ddiolch i Natasha Asghar am ei chyfraniad heddiw hefyd, a rhoi sicrwydd iddi, mewn perthynas â chylchoedd cyllido, mai ein dyhead ni, wrth gwrs, yw darparu cyllidebau mwy hirdymor pan fo hynny'n bosibl. Nid yw'r amserlen honno wedi bod ar gael i ni ar gyfer ein setliadau cyllidebol ein hunain, felly mae gennym sicrwydd bellach y bydd cynlluniau gwariant tair blynedd ym rhan o adolygiad o wariant y DU yn darparu'r setliadau aml-flwyddyn hynny. Ni allwn ddiystyru'r risg mewn perthynas â rhagolygon ar gyfer y dyfodol, ond mae'n golygu bod gennym gyfle yn awr i sicrhau y bydd gennym sicrwydd o gylch cyllido gyda'r adolygiad o wariant.

I edrych ar rai o'r ffyrdd y mae'r Ddeddf yn cael ei gweithredu, fel y dywedais: mae'r cynghorau tref a chymuned y mae'r Ddeddf yn berthnasol iddynt yn cymryd camau tuag at eu hamcanion llesiant lleol. Oherwydd mae gweithredu'r Ddeddf yn ymwneud bellach â chyflawni, a golyga hyn fod cyrff cyhoeddus yn cyflawni eu hamcanion llesiant, byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn cyflawni eu cynlluniau llesiant, cynghorau tref a chymuned yn gweithredu, ond mae'n ymwneud hefyd â gwelliannau yn y ffordd y mae cyrff yn gweithredu yn unol ag egwyddor datblygu cynaliadwy, a sicrhau bod y pum ffordd o weithio yn gweithio.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 4:50, 24 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cydnabod yr hyn y mae'r Cadeirydd, Mark Isherwood, wedi'i ddweud am y pum ffordd—fod angen y newid diwylliannol hwnnw arnom. Pan fydd pobl yn deall y pum ffordd o weithio, mae hynny'n eu helpu i gynllunio a gwneud penderfyniadau. Rydym yn trafod heddiw, yn gwbl gywir, i ba raddau y mae egwyddor datblygu cynaliadwy yn cael ei chymhwyso, a yw'r amcanion yn cael eu cyflawni, a'r hyn y mae'r Ddeddf yn ei ofyn. Dyna mae'r Ddeddf yn gofyn i ni ei wneud, a dyna mae'r archwilydd a'r comisiynydd yn adrodd arno. Ond gwyddom nad yw hyn yn syml o ran y llwybr at nodau llesiant. Ysgogiadau ydynt, ac mae rhai ysgogiadau y tu hwnt i'n rheolaeth, ac mae angen inni allu dygymod â hwy. Ond hefyd, mae angen i arloesi a gwahanol ddewisiadau gael eu hystyried ar gyfer gwneud cynnydd.

Cryfder y Ddeddf yw ei ffocws ar ffyrdd o weithio sy'n galluogi i ddewisiadau llawer mwy cynaliadwy gael eu nodi. Bydd yna safbwyntiau, wrth gwrs, gan gynnwys y rhai ar y comisiwn, ynglŷn ag a ddylai penderfyniadau gan gyrff cyhoeddus neu'r Llywodraeth fod yn wahanol. Wrth gwrs, mae gwelliannau i'w gwneud. Rwy'n cydnabod, yn amlwg, o gyfraniad Peredur Griffiths, y cwestiynau a gafwyd ynghylch, 'A yw'n ddigon cryf? A oes angen adolygiadau ôl-ddeddfu ar y Ddeddf?' Yn amlwg, rydym am barhau i adolygu'r sefyllfa honno, ond nid ydym am ddargyfeirio ymdrechion ar hyn o bryd oddi wrth y cynnydd a wnaed gyda Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Credwn ein bod ar y llwybr tuag at gynnydd, sy'n bwysig iawn, ond fel y dywedais, rydym yn adolygu'r sefyllfa. Ond rydym wedi ymrwymo i adolygu'r cyrff cyhoeddus y mae'r Ddeddf yn berthnasol iddynt, a chredaf y bydd hynny'n bwysig, a bydd hynny'n caniatáu inni adolygu'r rhan hon o'r ddeddfwriaeth a mynd i'r afael ag argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus blaenorol.

Felly, ar gyfer fy sylwadau clo, mae angen inni wella ymwybyddiaeth o'r ddeddfwriaeth. Mae gennym ein fforwm rhanddeiliaid, sy'n cael eu sefydlu ar hyn o bryd, y fforwm rhanddeiliaid cenedlaethol, a byddant yn trafod hyn yn nes ymlaen yr wythnos hon. Rwy'n edrych ymlaen at glywed eu barn. Ond yr hyn sy'n dod i'r amlwg o'n plaid yw bod rhai mudiadau a grwpiau nad oes yn rhaid iddynt gydymffurfio ar hyn o bryd yn gwirfoddoli i gydymffurfio. Mae Trafnidiaeth Cymru yn datblygu cynllun datblygu cynaliadwy wedi'i lunio gan ddull cenedlaethau'r dyfodol o weithredu, gan fanylu ar sut y maent yn edrych tua'r dyfodol, drwy gydgysylltu rheilffyrdd a theithio llesol. Yn gynharach y mis hwn, ymrwymodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru i greu strategaeth gynaliadwyedd sydd wedi'i halinio'n llawn â'n Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae grwpiau cymunedol fel Parc Llesiant Bronllys yn Aberhonddu yn llunio eu gweledigaeth ar gyfer eu parc lleol ar ddull llesiant cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Mae hynny'n hollbwysig.

Felly, credaf ein bod mewn sefyllfa lle rydym yn hyrwyddo pwysigrwydd deddfwriaeth ar gyfer y dyfodol. Rwyf mor ddiolchgar i Sarah Murphy am ei chyfraniad heddiw, gan y credaf fod clywed rhywun yn dweud, 'Rydym yn ystyried llesiant cenedlaethau'r dyfodol' yn ysbrydoli pobl. Mae Senedd y DU, yr Arglwydd John Bird a Simon Fell AS yn cyd-noddi Bil llesiant cenedlaethau'r dyfodol drwy Senedd y DU, sydd wedi'i fodelu ar ein deddfwriaeth ni. Mae'r Alban wedi ymrwymo i ddeddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol. Ac ymhellach i ffwrdd, mae gennym y Cenhedloedd Unedig yn gwneud ymrwymiadau sylweddol i gyflwyno dull cenedlaethau'r dyfodol i system y Cenhedloedd Unedig, gan ymrwymo i gennad arbennig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, digwyddiadau ac adroddiadau'r dyfodol.

Felly, dyna sut y mae arweinyddiaeth ar yr agenda hon yn edrych: dylanwadu, ysbrydoli, gwella Cymru, arwain y ffordd ar flaen yr agenda. Felly, mae'r adroddiadau y gofynnir i ni eu nodi heddiw yn rhan hanfodol o'r daith ddysgu. Rydym yn llunio ein gweithredoedd yn awr. Byddant yn llunio'r daith dros y pum mlynedd nesaf, ac wrth gwrs, byddwn yn cyhoeddi ein cerrig milltir cenedlaethol cyn bo hir a diweddariad ein fframwaith dangosyddion llesiant.

Felly, Ddirprwy Lywydd, rwy'n agosáu at y diwedd. A gaf fi ddiolch i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus am eu hymwneud â hyn, a dweud fy mod yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i gyflymu camau gweithredu? Credaf y gallwn fod yn falch o'r newid tuag at fabwysiadu dull o weithredu sy'n ystyriol o lesiant cenedlaethau'r dyfodol ym mhob dim a wnawn, ac rwy'n croesawu'r ddadl hon. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:55, 24 Tachwedd 2021

Galwaf ar Jenny Rathbone i ymateb i'r ddadl.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Credaf i Natasha Asghar wneud rhai pwyntiau cryno a defnyddiol iawn, ac fe'u nodwyd gan y Gweinidog. Ni chredaf y bydd y cyhoedd byth yn arbennig o ymwybodol o'r Ddeddf. Nid yw pobl yn mynd i ddarllen y Ddeddf, ond mae angen iddynt wybod am yr egwyddorion sy'n sail i'r holl gyrff cyhoeddus a enwir yn y Ddeddf. Ni chredaf y gallwn feio'r Ddeddf am nad yw rhai cyrff cyhoeddus wedi ymgysylltu'n ddigonol â'r dinasyddion y mae mesur penodol yn effeithio arnynt. Credaf ei bod yn dda clywed bod y Gweinidog wedi rhoi rhywfaint o sicrwydd ynghylch hyblygrwydd cynyddol i'r modd y gellir gwario cyllid, a rhoi cyllid mwy hirdymor i gyrff cyhoeddus fel y gallant gyflawni'r amcan hwnnw, yn hytrach na gorfod cael cylchoedd blynyddol bob amser.

Adroddiadau byrrach, yn sicr. Credaf fod y pwynt hwnnw wedi'i wneud. Mae llawer o bethau yn y gyfrol hon, ond ychydig o bobl a fydd wedi'i darllen o glawr i glawr. Ond credaf fod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi ein clywed ar hynny, a chynhyrchodd adroddiad cryno iawn yn ddiweddar ar sut y dylem fynd ati i ôl-osod, sy'n bwnc gwirioneddol heriol. Mae'n llawn ffeithiau a ffigurau, ac nid yw ond oddeutu 16 tudalen o hyd. Felly, da iawn. Mae'n mynd i fod yn offeryn defnyddiol iawn ar gyfer canfod sut rydym yn ymdrin â'r mater gwirioneddol bwysig hwnnw.

Peredur, yn amlwg, mae'r gwydr yn amlwg yn hanner llawn yn eich achos chi. Rydych yn credu y dylai'r Ddeddf fod wedi bod yn rhodd sydd ei hangen ar gymunedau er mwyn sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn rhan o'r ymgynghori ac yn cael eu cynnwys i raddau mwy yn y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau. Yn amlwg, ni all cynnwys dinasyddion fod yn ymarfer ticio blychau, ond credaf fod y Ddeddf yn rhoi mwy o rym iddynt nag y byddech yn ei gydnabod. Nid y bwriad oedd iddi fod yn fecanwaith er mwyn atal newid, gan nad yw peidio â newid yn opsiwn o gwbl. Mae'n ymwneud â sicrhau, fodd bynnag, ein bod yn gwneud y newid cywir a bod yr holl randdeiliaid yn cael dweud eu barn ar y newid hwnnw, a sicrhau bod cyrff cyhoeddus sy'n gorfod gwneud y peth penodol hwnnw yn gwneud y penderfyniadau cywir o fewn fframwaith y Ddeddf. Rwy'n petruso rhag anghytuno gyda'r barnwr hybarch nad yw'r Ddeddf yn addas at y diben, ond ni all y Ddeddf unioni diffygion cyrff cyhoeddus. Y cyrff cyhoeddus eu hunain sy'n gorfod mynd i'r afael â hynny.

Mae angen inni gael agwedd gadarnhaol tuag at hyn, a hoffwn ddyfynnu prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, a ddywedodd wrth y pwyllgor nad oes diben cwyno am gyllid,

'nid yw cwyno am gyllid yn mynd i helpu unrhyw un. Rydym mewn sefyllfa anodd iawn ac mae'n rhaid inni wneud y gorau o'r hyn sydd gennym.'

Yn sicr. Mae angen i bob un ohonom wneud hynny. Ac felly, credaf fod gwir angen inni ddefnyddio'r offer y mae'r Ddeddf yn eu darparu i ni er mwyn dod o hyd i'r ffordd ymlaen yn y sefyllfa anodd y mae pob un ohonom yn ei hwynebu. Roedd yn wych clywed agwedd Sarah Murphy at y Ddeddf, ac rwy'n gobeithio y bydd yr agwedd honno'n ddefnyddiol iawn yn y ffordd y mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn gwneud ei waith.

Felly, mae Jane Hutt yn llygad ei lle yn canmol rôl Sophie Howe, sydd wedi llwyddo o ddifrif i arddangos pwysigrwydd y Ddeddf, gyda Thŷ'r Arglwyddi a'r Cenhedloedd Unedig. Yn amlwg, mae'n rhaid i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus chwarae rôl yn dod â phobl at ei gilydd, a'r gwaith y sonioch chi amdano ar ddinasyddiaeth weithgar yn sir Fynwy a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yng Nghwm Taf. Mae gwir angen inni edrych ar yr holl bethau y mae'n rhaid inni eu gwneud yng nghyd-destun y Ddeddf. Mae cymaint o gyfoeth yn y Ddeddf, ac mae angen inni ddychwelyd at hyn yn rheolaidd fel ffordd o sicrhau ein bod yn bodloni gofynion y Ddeddf ym mhopeth a wnawn.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:59, 24 Tachwedd 2021

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.