Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Gan mai hon yw fy nadl gyntaf, ers cael fy ethol, ar Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r nifer fawr o bobl a wnaeth i hyn ddigwydd, yn enwedig llawer o'r bobl y tu ôl i'r llenni, na fydd eu henwau byth yn hysbys i'r cyhoedd, mae'n debyg, ond a fu'n chwysu i greu'r ddeddfwriaeth arloesol hon. Ac nid wyf yn defnyddio'r ymadrodd hwnnw'n ysgafn, gan fy mod o ddifrif yn credu bod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn llafur cariad a gobaith a phenderfyniad i wneud Cymru'n decach, yn wyrddach ac yn hapusach. A gogoniant y Ddeddf yw ei bod yn ein gorfodi i edrych ar ein hunain yng nghyd-destun hanes, yma nawr, nid yn unig fel unigolion, ond fel rhywogaeth ar y blaned rydym yn ei rhannu â llawer o rai eraill am y mymryn lleiaf o amser, gan nad ni yw'r unig fodau dynol sydd wedi bod yma erioed, ond ni yw'r unig rai sydd ar ôl.
Ac fel yr amlygwyd gan lawer yn y COP26, gan gynnwys Greta Thunberg a David Attenborough, credaf ei bod yn boenus o amlwg fod rhai o'n gwendidau fel rhywogaeth yn cynnwys bod yn greaduriaid sy'n gaeth i arfer, sy'n gwrthwynebu newid ac yn dibynnu ar adnoddau naturiol fel pe bai'r cyflenwad yn ddiddiwedd. Mae ein bywydau'n brysur ac yn ddi-baid, mae ein poblogaeth yn tyfu, ac mae'r bwlch rhwng y tlotaf a'r cyfoethocaf yn ein cymdeithas yn parhau i dyfu. Credaf fod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn unigryw gan ei bod yn ein gorfodi i wynebu'r tueddiadau a'r materion hyn gyda'n gilydd a meddwl am y dyfodol, nid yn unig i ni ein hunain, ond i eraill. Mae'n crynhoi gwerthoedd sosialaeth: gofalu am ddieithriaid, pobl na fyddwch byth yn eu cyfarfod, pobl nad ydynt wedi cael eu geni eto hyd yn oed. Fel y dywedodd Jenny Rathbone, pe na bai'n bodoli, byddem wrthi'n ceisio gwneud iddi ddigwydd.
Ac yn sicr, gallwch weld hynny'n cael ei adlewyrchu yn null rhaglen bartneriaeth 'Gallu i Greu' comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, sy'n taflu goleuni ar y gwaith gwych sy'n gwella llesiant ledled Cymru, gan annog pobl i nodi gweledigaeth gadarnhaol am yr hyn sy'n bosibl, sut y gallai Cymru edrych pe bai ein cyrff cyhoeddus yn ymateb i'r cyfleoedd y mae'r ddeddfwriaeth yn eu darparu i wneud penderfyniadau gwell ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Yn ychwanegol at hynny, credaf ei bod yn wych gweld, gyda briff mor enfawr, gyda nodau sylweddol a disgwyliadau uchel, fod swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru yn creu llwybr sy'n ymgorffori'r 17 nod datblygu cynaliadwy gyda'r bwriad o greu Cymru gyfartal, lewyrchus, gydnerth ac iach. Mae hyn wedi bod yn arbennig o berthnasol yn sgil COVID-19, ac rwy'n falch o weld bod ein Llywodraeth yng Nghymru yn ystyried Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn ei strategaeth adfer i adeiladu Cymru gryfach, wyrddach a thecach, yn enwedig mewn perthynas â 'Rhaglen Lywodraethu Addas ar gyfer y Dyfodol' y comisiynydd, sy'n cynnwys syniadau penodol ar gyfer buddsoddi mewn datgarboneiddio cartrefi, strategaeth drafnidiaeth y genedl newydd a datblygiad parhaus polisi sgiliau.
Ond yn ogystal â nodau cynaliadwy, mae'r Ddeddf hefyd yn ymwneud â chreu Cymru o gymunedau cydlynus gyda diwylliant bywiog a'r Gymraeg yn ffynnu, Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang ac sy'n dysgu oddi wrth eraill. Rydym yn sicr wedi gweld hyn yn yr argymhellion ar gyfer incwm sylfaenol cyffredinol a'r wythnos waith pedwar diwrnod gan y comisiynydd, gan adeiladu ar ymgyrchoedd fy nghyd-Aelod, Jack Sargeant, dros y ddau beth hynny. Mae'r ddau bolisi wedi'u treialu mewn gwledydd eraill a'u nod yw rhoi mwy o ymreolaeth i bobl, amser gydag anwyliaid, a gwell lles meddyliol a chorfforol, ynghyd â buddion economaidd i bawb. A bellach, yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i dreialu dwy flynedd o incwm sylfaenol cyffredinol mewn ardaloedd trefol a gwledig ledled Cymru, gyda llawer o awdurdodau lleol, fel Rhondda Cynon Taf—nid fy un i, ond gwn eu bod wedi—yn mynegi diddordeb mewn cynnal y cynllun peilot. Ac yn ddiweddar hefyd, cawsom ddadl fawr ar yr wythnos waith pedwar diwrnod, ac mae'r Dirprwy Weinidog, Hannah Blythyn, wedi ymrwymo i gadw llygad ar y treialon sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd yng Ngwlad yr Iâ a'r Alban.
Felly, o ran gweithredu'r Ddeddf, credaf fod y dystiolaeth yn dangos bod Aelodau'r Senedd wedi craffu'n gyson, yn dryloyw ac yn drylwyr ar gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ac Archwilydd Cyffredinol Cymru. A hoffwn dalu teyrnged i Aelodau'r bumed Senedd a'r rheini ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus. Gyda fy nghyd-Aelodau o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol sydd newydd ei ffurfio, dan gadeiryddiaeth Jenny Rathbone, edrychaf ymlaen at barhau'r gwaith hwn i sicrhau bod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn cyflawni'r holl bethau y bwriadwyd iddi eu cyflawni, yn benodol, argymhellion 3, 4 ac 11, sy'n ymwneud â chryfhau'r berthynas rhwng comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a chyrff cyhoeddus Cymru, yn ogystal â sicrhau bod y pum ffordd o weithio wedi'u hymgorffori yn eu cynlluniau ar gyfer adfer yn sgil y pandemig COVID-19, fel nad yw'r cynnydd a wnaed yn yr ymateb uniongyrchol i'r pandemig yn cael eu colli a'u bod yn newid eu ffocws o'r dydd i ddydd i atal a'r tymor hir.
Felly, i gloi, mae llawer wedi'i wneud mewn cyfnod byr iawn o amser mewn gwirionedd ac yng nghanol pandemig byd-eang hefyd, ond mae llawer mwy y gellir ei wneud o hyd, ac rwy'n croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i ddangos nad yw gweithredu agenda llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn ôl-ystyriaeth a'i bod yn cael ei defnyddio i herio, cwestiynu a gwella ei ffyrdd presennol o weithio, fel y gellir ystyried dewisiadau mwy cynaliadwy bob amser.