Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Mae Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a basiodd drwy'r Senedd hon wedi'i chanmol gan lawer fel deddfwriaeth arloesol. Diolch i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus am y cyfle i drafod a yw realiti'r ddeddfwriaeth hon yn cyfiawnhau ei henw da.
Er ei bod yn deillio o arloesedd a didwylledd, wrth i'r Ddeddf ddatblygu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae'n amlwg nad yw'n cyflawni'r hyn a fwriadwyd. Yn gyntaf, mae'n uchelgeisiol heb fod yn orfodadwy. Mae ymdrechion i ddibynnu ar y Ddeddf wedi'u defnyddio yn y system gyfreithiol ar sawl achlysur bellach, ac maent wedi cael eu diystyru bob tro oherwydd diffyg gorfodadwyedd. Gwnaed yr ymgais gyntaf i'w defnyddio i herio penderfyniad i gau ysgol, ond cafodd yr achos ei wrthod yn 2019 gan farnwr yr Uchel Lys, Mrs Ustus Lambert, a ddywedodd na allai'r Ddeddf orfodi adolygiad cyfreithiol. Dywedodd y CF a gyflwynodd yr achos, Rhodri Williams:
'oni bai y gall unigolion ddibynnu ar yr hawliau hyn—os ydynt yn teimlo nad ydynt wedi'u cynnal—i herio penderfyniadau cyrff cyhoeddus, mae'r ddeddf bron yn ddiwerth', er ei bod yn llawn o 'ymadroddion sy'n swnio'n wych'.
Ac onid yw hynny'n crynhoi'r broblem? Ni fwriadwyd y Ddeddf hon ar gyfer y bobl nac i rymuso cymunedau i gael y dyfodol y maent yn dymuno ei weld. Dylai'r Ddeddf hon fod wedi bod yn rhodd i gymunedau ledled Cymru, ond yn lle hynny, mae'n ddi-rym. Mae'n amlwg fod angen cryfhau ei mecanweithiau a'i dylanwad.
Problem arall yw nad yw'r Ddeddf yn cael ei defnyddio yn y ffordd gywir. Canfu Swyddfa Archwilio Cymru, a adolygodd effaith y Ddeddf yn 2018, fod yn rhaid i gyrff cyhoeddus ddangos eu bod yn cymhwyso'r Ddeddf yn fwy systematig, gan annog comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol i alw ar gyrff cyhoeddus i fod yn fwy uchelgeisiol, anturus a dyfeisgar os yw'r Ddeddf yn mynd i gyflawni ei photensial. Gyda diffyg capasiti ac adnoddau i ddeall a dadansoddi goblygiadau'r Ddeddf, rwy'n ofni bod cyrff cyhoeddus o'r farn mai ymarfer ticio blychau yw'r Ddeddf. Un enghraifft yw gwerthiant fferm Trecadwgan yn Sir Benfro. Aeth y fferm ar werth mewn arwerthiant cyhoeddus yn 2018 pan ddaeth tenantiaeth y cyngor i ben. Gan ofni y byddai hyn yn arwain at ddatblygu bythynnod gwyliau, cynlluniodd grŵp o bobl leol i brynu'r eiddo fel cymuned. Codwyd yr arian a lluniwyd cynllun busnes ar gyfer fferm organig a fyddai’n darparu bwyd iach, addysg a hyfforddiant mewn dulliau amaethyddol a chanolbwynt cymdeithasol a diwylliannol i’w chymuned. Byddai hyn wedi bodloni nodau ac egwyddorion Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Ond yn anochel, heb gefnogaeth y cyngor i'r amcanion llesiant, gwerthwyd yr eiddo i unigolyn o'r tu allan i Gymru a wnaeth y cynnig uchaf. Rhesymeg y cyngor sir oedd ei fod yn sicrhau'r gwerth gorau i'w etholwyr drwy sicrhau'r elw mwyaf o'r gwerthiant i'w wario yn rhywle arall. Roedd y bobl leol yn ddi-rym i herio'r penderfyniad a chawsant eu gadael heb ddim ond potensial a wastraffwyd a chanlyniad na wnaeth unrhyw beth i wasanaethu'r gymuned leol.
Yn ei dystiolaeth i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yr wythnos hon, nododd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, cyn-gadeirydd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, mai
'un o'r problemau gyda Deddf cenedlaethau'r dyfodol yw nad yw'n benodol nac yn ddigon tynn.'
Nid yw'n dwyn gwleidyddion i gyfrif yn ddigonol. Rwy'n falch fod y sylwadau hyn yn cael eu hailadrodd yn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus rydym yn ei drafod heddiw. Cytunaf yn llwyr â’i argymhellion ei bod yn bryd gwneud gwaith craffu ar ôl deddfu ar y Ddeddf, ac y dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad o’r cyrff cyhoeddus y mae'r Ddeddf yn berthnasol iddynt, gan adleisio argymhellion Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Hefyd, mae ymgysylltu â'r cyhoedd yn allweddol i hyn oll. I'r rheini sydd wedi ymwneud â'r Ddeddf ers ei chreu, fel y grŵp lleol yn Sir Benfro, gwelsant rywfaint o obaith yn y Ddeddf i weithio fel arf i'w helpu i adeiladu'r gymuned roeddent yn dymuno'i gweld. Mae'n rhaid inni rymuso a meithrin y gobaith hwnnw fel nad yw'n cael ei ddiffodd gan barlys y ddeddfwriaeth. Diolch yn fawr.