Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Rwy'n cydnabod yr hyn y mae'r Cadeirydd, Mark Isherwood, wedi'i ddweud am y pum ffordd—fod angen y newid diwylliannol hwnnw arnom. Pan fydd pobl yn deall y pum ffordd o weithio, mae hynny'n eu helpu i gynllunio a gwneud penderfyniadau. Rydym yn trafod heddiw, yn gwbl gywir, i ba raddau y mae egwyddor datblygu cynaliadwy yn cael ei chymhwyso, a yw'r amcanion yn cael eu cyflawni, a'r hyn y mae'r Ddeddf yn ei ofyn. Dyna mae'r Ddeddf yn gofyn i ni ei wneud, a dyna mae'r archwilydd a'r comisiynydd yn adrodd arno. Ond gwyddom nad yw hyn yn syml o ran y llwybr at nodau llesiant. Ysgogiadau ydynt, ac mae rhai ysgogiadau y tu hwnt i'n rheolaeth, ac mae angen inni allu dygymod â hwy. Ond hefyd, mae angen i arloesi a gwahanol ddewisiadau gael eu hystyried ar gyfer gwneud cynnydd.
Cryfder y Ddeddf yw ei ffocws ar ffyrdd o weithio sy'n galluogi i ddewisiadau llawer mwy cynaliadwy gael eu nodi. Bydd yna safbwyntiau, wrth gwrs, gan gynnwys y rhai ar y comisiwn, ynglŷn ag a ddylai penderfyniadau gan gyrff cyhoeddus neu'r Llywodraeth fod yn wahanol. Wrth gwrs, mae gwelliannau i'w gwneud. Rwy'n cydnabod, yn amlwg, o gyfraniad Peredur Griffiths, y cwestiynau a gafwyd ynghylch, 'A yw'n ddigon cryf? A oes angen adolygiadau ôl-ddeddfu ar y Ddeddf?' Yn amlwg, rydym am barhau i adolygu'r sefyllfa honno, ond nid ydym am ddargyfeirio ymdrechion ar hyn o bryd oddi wrth y cynnydd a wnaed gyda Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Credwn ein bod ar y llwybr tuag at gynnydd, sy'n bwysig iawn, ond fel y dywedais, rydym yn adolygu'r sefyllfa. Ond rydym wedi ymrwymo i adolygu'r cyrff cyhoeddus y mae'r Ddeddf yn berthnasol iddynt, a chredaf y bydd hynny'n bwysig, a bydd hynny'n caniatáu inni adolygu'r rhan hon o'r ddeddfwriaeth a mynd i'r afael ag argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus blaenorol.
Felly, ar gyfer fy sylwadau clo, mae angen inni wella ymwybyddiaeth o'r ddeddfwriaeth. Mae gennym ein fforwm rhanddeiliaid, sy'n cael eu sefydlu ar hyn o bryd, y fforwm rhanddeiliaid cenedlaethol, a byddant yn trafod hyn yn nes ymlaen yr wythnos hon. Rwy'n edrych ymlaen at glywed eu barn. Ond yr hyn sy'n dod i'r amlwg o'n plaid yw bod rhai mudiadau a grwpiau nad oes yn rhaid iddynt gydymffurfio ar hyn o bryd yn gwirfoddoli i gydymffurfio. Mae Trafnidiaeth Cymru yn datblygu cynllun datblygu cynaliadwy wedi'i lunio gan ddull cenedlaethau'r dyfodol o weithredu, gan fanylu ar sut y maent yn edrych tua'r dyfodol, drwy gydgysylltu rheilffyrdd a theithio llesol. Yn gynharach y mis hwn, ymrwymodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru i greu strategaeth gynaliadwyedd sydd wedi'i halinio'n llawn â'n Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae grwpiau cymunedol fel Parc Llesiant Bronllys yn Aberhonddu yn llunio eu gweledigaeth ar gyfer eu parc lleol ar ddull llesiant cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Mae hynny'n hollbwysig.
Felly, credaf ein bod mewn sefyllfa lle rydym yn hyrwyddo pwysigrwydd deddfwriaeth ar gyfer y dyfodol. Rwyf mor ddiolchgar i Sarah Murphy am ei chyfraniad heddiw, gan y credaf fod clywed rhywun yn dweud, 'Rydym yn ystyried llesiant cenedlaethau'r dyfodol' yn ysbrydoli pobl. Mae Senedd y DU, yr Arglwydd John Bird a Simon Fell AS yn cyd-noddi Bil llesiant cenedlaethau'r dyfodol drwy Senedd y DU, sydd wedi'i fodelu ar ein deddfwriaeth ni. Mae'r Alban wedi ymrwymo i ddeddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol. Ac ymhellach i ffwrdd, mae gennym y Cenhedloedd Unedig yn gwneud ymrwymiadau sylweddol i gyflwyno dull cenedlaethau'r dyfodol i system y Cenhedloedd Unedig, gan ymrwymo i gennad arbennig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, digwyddiadau ac adroddiadau'r dyfodol.
Felly, dyna sut y mae arweinyddiaeth ar yr agenda hon yn edrych: dylanwadu, ysbrydoli, gwella Cymru, arwain y ffordd ar flaen yr agenda. Felly, mae'r adroddiadau y gofynnir i ni eu nodi heddiw yn rhan hanfodol o'r daith ddysgu. Rydym yn llunio ein gweithredoedd yn awr. Byddant yn llunio'r daith dros y pum mlynedd nesaf, ac wrth gwrs, byddwn yn cyhoeddi ein cerrig milltir cenedlaethol cyn bo hir a diweddariad ein fframwaith dangosyddion llesiant.
Felly, Ddirprwy Lywydd, rwy'n agosáu at y diwedd. A gaf fi ddiolch i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus am eu hymwneud â hyn, a dweud fy mod yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i gyflymu camau gweithredu? Credaf y gallwn fod yn falch o'r newid tuag at fabwysiadu dull o weithredu sy'n ystyriol o lesiant cenedlaethau'r dyfodol ym mhob dim a wnawn, ac rwy'n croesawu'r ddadl hon. Diolch.