Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am eu gwaith ar y cyd yn cyflwyno'r ddadl hon. Mae'r rôl hanfodol sydd gan y Senedd hon, Senedd Cymru, yn fframwaith llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn un o nodweddion allweddol ymagwedd Cymru tuag at ddatblygu cynaliadwy, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod ffocws y ddadl ar graffu ar weithredu. Os edrychwn ar wledydd eraill ledled y byd, mae seneddau'n chwarae rhan allweddol wrth graffu ar weithredu'r agenda datblygu cynaliadwy, ond wrth gwrs, mae gennym gyfle unigryw i drafod hyn yng ngoleuni ein Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a gyrhaeddodd ei charreg filltir bum mlynedd y llynedd. Ac mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi ein hatgoffa mai Cymru yw'r unig wlad i ddeddfu yn y ffordd hon, gan ddefnyddio dull hirdymor o edrych ar achosion sylfaenol problemau mewn deddf sy'n destun edmygedd ledled y byd.
Felly, credwn fod y Ddeddf—a chredaf fod hyn wedi'i fynegi yn y Siambr hon heddiw—yn treiddio ac yn hybu gwelliant parhaus yn y ffordd y mae'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus yn gweithio, fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ddisgwyl gwell ansawdd bywyd ar blaned iach. Mae'r ddadl yn rhoi cyfle imi ddangos sut y mae'r dyletswyddau allweddol yn y Ddeddf wedi'u gweithredu a chydnabod ymdrechion pawb wrth wneud iddi weithio. Felly, mae cyrff cyhoeddus wedi nodi eu hamcanion llesiant, wedi cyhoeddi datganiadau llesiant ynglŷn â'u cyfraniad at y nodau, ac maent yn adrodd bob blwyddyn ar yr hyn y maent yn ei wneud. Mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi'u sefydlu ac mae asesiadau o lesiant lleol wedi'u cwblhau; mae cynlluniau llesiant lleol ar waith ac adroddir ar eu cynnydd yn flynyddol.
Ond hoffwn ymateb i Jenny Rathbone, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, a diolch iddi am ei phwynt a'i chwestiwn penodol am fyrddau gwasanaethau cyhoeddus, gan eu bod yn rhan hanfodol o'r gwaith o leoleiddio nodau llesiant Cymru a dônt â phartneriaid allweddol ynghyd mewn partneriaeth, ac maent yn llywio lleoedd ar lwybr mwy cynaliadwy ac mae ganddynt ymagwedd wahanol at eu gwaith, fel y dywedwch, Jenny. Maent yn targedu eu hymdrechion yn well, maent yn nodi meysydd lle gall gweithredu ar y cyd gael yr effaith fwyaf. Ac mae'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn gwneud gwaith rhagorol wrth ymateb i'r adferiad, fel sir Fynwy—ac rwy'n siŵr fod Peter Fox yn ymwybodol o hynny, fel y cyn arweinydd; prosiect cydweithredol y byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar ddinasyddiaeth weithgar; yn ogystal â gwaith Cwm Taf ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod hefyd. Felly, mae gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus rôl bwysig, ac maent wedi cael eu symbylu, mewn gwirionedd, o ran ymateb i adferiad cymunedau yn dilyn COVID-19. Nid gwaith ychwanegol ar gyfer byrddau gwasanaethau cyhoeddus yw hyn; mae'n barhad o'u gwaith craidd i wella llesiant eu hardaloedd.
A hoffwn ddiolch i Natasha Asghar am ei chyfraniad heddiw hefyd, a rhoi sicrwydd iddi, mewn perthynas â chylchoedd cyllido, mai ein dyhead ni, wrth gwrs, yw darparu cyllidebau mwy hirdymor pan fo hynny'n bosibl. Nid yw'r amserlen honno wedi bod ar gael i ni ar gyfer ein setliadau cyllidebol ein hunain, felly mae gennym sicrwydd bellach y bydd cynlluniau gwariant tair blynedd ym rhan o adolygiad o wariant y DU yn darparu'r setliadau aml-flwyddyn hynny. Ni allwn ddiystyru'r risg mewn perthynas â rhagolygon ar gyfer y dyfodol, ond mae'n golygu bod gennym gyfle yn awr i sicrhau y bydd gennym sicrwydd o gylch cyllido gyda'r adolygiad o wariant.
I edrych ar rai o'r ffyrdd y mae'r Ddeddf yn cael ei gweithredu, fel y dywedais: mae'r cynghorau tref a chymuned y mae'r Ddeddf yn berthnasol iddynt yn cymryd camau tuag at eu hamcanion llesiant lleol. Oherwydd mae gweithredu'r Ddeddf yn ymwneud bellach â chyflawni, a golyga hyn fod cyrff cyhoeddus yn cyflawni eu hamcanion llesiant, byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn cyflawni eu cynlluniau llesiant, cynghorau tref a chymuned yn gweithredu, ond mae'n ymwneud hefyd â gwelliannau yn y ffordd y mae cyrff yn gweithredu yn unol ag egwyddor datblygu cynaliadwy, a sicrhau bod y pum ffordd o weithio yn gweithio.