1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 30 Tachwedd 2021.
1. Pryd mae'r Prif Weinidog yn disgwyl i Gymru gael cynllun dychwelyd ernes gweithredol? OQ57293
Llywydd, yn gynharach yn y mis hwn, cafodd pwerau i weithredu cynllun dychwelyd ernes eu datganoli i Gymru. Yn gynnar yn y flwyddyn newydd, byddwn yn cyhoeddi ein dyluniad ar gyfer cynllun o’r fath a’r dyddiad yr ydym ni’n bwriadu ei roi ar waith.
Wel, mi edrychwn ni ymlaen yn fawr iawn i weld beth yw'r dyddiad yna. Wrth gwrs, y trasiedi yw ein bod ni wedi colli blynyddoedd i bob pwrpas. Rŷn ni wedi bod yn sôn am gynllun dychwelyd ernes i Gymru ers bron i ddegawd, ac, wrth gwrs, rŷn ni dal yn sôn am gynllun dychwelyd ernes i Gymru.
Nawr, mi benderfynoch chi, wrth gwrs, redeg proses ymgynghorol ar y cyd gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Beth petai uchelgais Llywodraeth y Deyrnas Unedig o safbwynt sgôp y cynllun maen nhw'n mynd i'w gyhoeddi, pan fyddan nhw'n penderfynu, yn wahanol iawn i'r uchelgais sydd gennym ni yma yng Nghymru? Rydych chi wedi dweud mewn cyd-destunau eraill fod Cymru wastad yn gweithredu'n fwyaf effeithiol, a'r Senedd yma yn gweithredu'n fwyaf effeithiol, pan fyddwn ni'n dod â datrysiadau Cymreig i gwrdd â'r heriau sy'n ein hwynebu ni. Felly, am ba hyd ŷch chi'n hapus i aros i Boris Johnson gael ei act at ei gilydd, yn hytrach na chyflwyno, unwaith ac am byth, gynllun dychwelyd ernes i Gymru?
Wel, y peth cyntaf, Llywydd, oedd i gymryd y pwerau. Heb y pwerau, does dim cyfle gyda ni i gael unrhyw fath o gynllun, a dydy hwnna ddim yn ein dwylo ni fel Senedd; mae'n rhaid i ni dynnu'r pwerau nôl i fan hyn i gael cynllun, a dyna beth sydd wedi digwydd drwy gydweithio â phobl eraill. Rŷn ni wedi bod yn cydweithio nid jest gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ond gyda Llywodraeth Gogledd Iwerddon hefyd, i dynnu'r gwersi mas o'r gwaith maen nhw'n ei wneud.
Mae natur y ffin rhyngom ni a Lloegr, Llywydd, yn golygu ei bod hi'n bwysig i ni drio creu gymaint o dir cyffredin ag sy'n bosibl, i helpu'r cynllun, a'r bobl sy'n rhedeg y cynllun ar y tir, i'w wneud e mewn ffordd sy'n gweithio i ni ac i bobl yma yng Nghymru. Ac mae nifer fawr o bethau ymarferol i feddwl amdanyn nhw, a chynllun Cymreig fydd e pan fyddwn ni'n dod ymlaen â'r cynllun. Fel, dwi'n siŵr, mae'r Aelod yn ymwybodol, roedd Llywodraeth yr Alban, yn gynharach yn y mis hwn, wedi gorfod gohirio gweithredu ar eu cynllun nhw. Nawr, mae'r pwerau i gyd gyda nhw, so doedd hwnna ddim yn broblem iddyn nhw. Maen nhw wedi wynebu nifer o broblemau ymarferol ac maen nhw wedi tynnu eu cynllun nhw yn ôl.
Rŷn ni eisiau bwrw ymlaen i gydweithio â phobl eraill i gael datrys nifer o'r problemau ymarferol—cynhyrchu'r cynllun, penodi gweinyddwyr nid er elw, cytuno ar lefelau ernes hyblyg, er enghraifft—a'r bwriad yw, yn gynnar yn y flwyddyn newydd, i ddod nôl i'r Senedd gyda'r cynllun i ni yma yng Nghymru.
Prif Weinidog, fis Tachwedd diwethaf, roeddwn i'n hynod o falch o fod wedi cyflwyno cynnig deddfwriaethol ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaethau i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes ac, yn bwysig, cafwyd pleidlais fwyafrifol i gefnogi'r cynigion hynny. Nawr, yng nghyfarfod cyntaf Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y chweched Senedd, roeddwn i hefyd yn falch o sicrhau ymrwymiad pellach gan eich Gweinidog Newid Hinsawdd y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y byddai unrhyw gynllun dychwelyd ernes yn drwyadl. Yn ogystal â sicrhau cydnawsedd â'r DU, dywedodd rhwng 77 y cant ac 83 y cant o'r rhai a gymerodd ran mewn arolwg y bydden nhw'n defnyddio cynllun dychwelyd ernes ar y rhan fwyaf o adegau ar gyfer y pum math o gynwysyddion a gafodd eu harchwilio, gan gynnwys poteli plastig, poteli gwydr, caniau metel ar gyfer yr holl ddiodydd meddal, diodydd alcoholig a chynhyrchion sy'n seiliedig ar laeth. O ystyried hyn, ac o gofio dyddiad terfyn yr hydref ar gyfer gosod deddfwriaeth y gwnaethoch chi ymrwymo iddi wrth ymateb i fy nghwestiwn i chi ym mis Mehefin, pa ymdrechion—ac rwy'n gwybod eich bod chi wedi sôn am hyn yma heddiw—ydych chi wedi eu gwneud i adolygu effaith gost gweithredu cynllun dychwelyd ernes trwyadl ar awdurdodau lleol? Ac, i unrhyw un sydd wedi gwneud gwaith glanhau traethau, yn rhy aml rydym ni'n gweld llawer o dopiau a chaeadau poteli wedi eu gadael ym mhob man, gan effeithio ar ein hamgylchedd morol. O gofio bod ymgyrch glanhau traethau Prydain Fawr 2021 y Gymdeithas Cadwraeth Forol wedi canfod 18.7 o dopiau a chaeadau—
Iawn, mae angen i ni gyrraedd y cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda. Dim ond ar gwestiwn 1 ydym ni.
—fesul pob darn 100 metr o draethau Cymru, a wnewch chi ymgorffori, yn ogystal â'r poteli eu hunain, y topiau yn y cynllun dychwelyd? Diolch.
Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna ac am ei diddordeb cyson yn y pwnc hwn yn gyffredinol. Bydd hi'n gyfarwydd iawn â'r cynllun a gafodd ei dreialu yng Nghonwy yn gynharach yn y flwyddyn, a dysgwyd llawer iawn o'r gwaith hwnnw, yn ogystal â chynllun treialu yng Ngogledd Iwerddon, a'r gwaith a gafodd ei wneud yn flaenorol yn Wirral yr wyf i'n gwybod ei bod hi'n ymwybodol ohono. Felly, byddwn yn cyflwyno cynigion. Mae arnaf ofn y byddan nhw ar ddechrau'r flwyddyn newydd bellach, yn hytrach na'r hydref, oherwydd yr oedi cyn trosglwyddo'r pwerau i ni. Byddwn yn ymateb i'r ymgynghoriad a gafodd ei gynnal rhwng mis Mawrth a mis Mehefin eleni. Bydd yn mynd i'r afael â nifer o'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu codi y prynhawn yma, ac mae'n iawn i dynnu sylw at adroddiad y Gymdeithas Cadwraeth Forol, a gafodd ei gyhoeddi ryw wythnos yn unig yn ôl, Llywydd. Mae yn dangos gostyngiad i rai mathau o sbwriel, yn enwedig y rhai lle bu gweithredu llywodraethol ar y cyd—ffyn cotwm, er enghraifft, a bagiau plastig untro. Ond roedd 75 y cant o'r sbwriel a gafodd ei gasglu ar draethau yn blastig neu'n bolystyren, ac roedd topiau poteli yn amlwg iawn yn y sbwriel a gafodd ei gasglu. Mae'n bendant yn dangos yr angen i ni weithredu o ran cynlluniau dychwelyd ernes a hefyd ymrwymiad y Llywodraeth hon i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd y plastigau untro mwyaf cyffredin, ac edrychwn ymlaen at gyflwyno gerbron y Senedd yn ddiweddarach y tymor hwn.