Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 30 Tachwedd 2021.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn ein bod ni fel Senedd yn cael cyfle i nodi Diwrnod AIDS y Byd. Mae'n gyfle hefyd i ganmol pawb a oedd yn ymwneud ag Wythnos Profi HIV Cymru; mi gafodd ei chydlynu gan Fast Track Caerdydd a'r Fro, a'r nod, wrth gwrs, oedd torri lawr y stigma sydd yn atal pobl rhag cael prawf. Mae o ynghlwm wedyn ynglŷn â'r targed o stopio heintiad newydd o HIV erbyn 2030, a dwi'n falch iawn, yn sicr, fod Cymru wedi bod yn flaengar trwy fod y cyntaf o wledydd y Deyrnas Unedig i ymrwymo i'r targed yna, a hefyd i sicrhau bod y cyffur atal HIV, PrEP, ar gael ar y NHS.
Rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi datgan ein dymuniad ni y dylid dod â'r targed ymlaen i 2026. Mae'n bwysig iawn bod yn uchelgeisiol ac, fel mae neges Diwrnod AIDS y Byd yn ei dweud eleni, nid yn unig i siarad gêm dda, ond i roi cynllun mewn lle er mwyn gwireddu'r uchelgais honno. Y nod yn Seland Newydd ydy ei dileu erbyn 2025. Maen nhw efo tua'r un faint o bobl yn derbyn triniaeth am HIV ag sydd gennym ni yng Nghymru, felly mae hynny'n rhoi syniad i ni o beth gallem ni fod yn anelu amdano fo.
Gaf i ofyn, fel cwestiwn cyntaf, felly, pa gamau mae'r Llywodraeth wedi'u cymryd yn barod i ddysgu oddi wrth arferion da rhyngwladol, fel defnyddio'r tair egwyddor o aros yn saff, profi yn gynnar a thrin yn gynnar, fel maen nhw wedi'i wneud yn Seland Newydd er mwyn gallu dod â'r targed yna ymlaen?
Felly, ie, troi geiriau yn gweithredu ydy galwad y Terrence Higgins Trust. Rydym ni'n falch iawn mai dyna yw'r nod hirdymor. Mae'n bwysig cael yr un nod yn y pen draw, ond mi fuaswn i'n ddiolchgar hefyd o wybod beth ydy'r camau bach y mae'r Llywodraeth am eu cymryd ar y ffordd tuag at y nod yna yn y pen draw. Felly, all y Gweinidog ymrwymo heddiw, pan gaiff y cynllun gweithredu HIV ei gyflwyno blwyddyn nesaf, i gynnwys yn hwnnw'r camau, cam wrth gam, blwyddyn wrth flwyddyn, fydd yn cael eu cymryd i gynyddu profion, i dargedu adnoddau a mynd i'r afael â stigma bydd yn rhan, wedyn, o gynllun realistig i gyrraedd y targed tymor hir hwnnw?
Buaswn i hefyd yn licio sicrwydd ynglŷn â pharhad cyllid yn y hirdymor ar gyfer y cynllun profi HIV ac STIs trwy'r post, sydd wedi bod yn llwyddiannus fel cynllun cenedlaethol.
Troi at PrEP, mae mynediad at PrEP, fel rydym ni'n gwybod, yn hollol allweddol er mwyn dod â throsglwyddiadau HIV i lawr ac i ben, gobeithio. Yn ystod y pandemig, fel rydym ni wedi clywed, mi benderfynwyd rhagnodi a monitro pobl ar PrEP drwy'r platfform Attend Anywhere. Gan fod angen prawf HIV negyddol cyn mae PrEP yn cael ei rhagnodi, mi oedd clinigwyr yn gallu postio profion gwrthgorff neu antigen HIV i gartrefi pobl, a rhagnodi gwerth hyd at chwe mis o PrEP, ac yna fonitro cleifion ar-lein. Ydy'r Llywodraeth yn sicr yn mynd i barhau efo'r cynllun rhagnodi a monitro pobl ar-lein er mwyn pobl sydd eisiau osgoi gorfod dod i mewn i glinig? A throi hynny ar ei ben i lawr, sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau, i'r rhai sydd yn well ganddyn nhw, neu sydd angen, gwasanaethau wyneb yn wyneb, y gallan nhw gael y ddarpariaeth honno er mwyn sicrhau mynediad teg i apwyntiadau? Mae pawb yn chwilio am ffyrdd gwahanol o gael y mynediad, wrth gwrs.
Cwestiwn hefyd ynglŷn â gwasanaethau iechyd meddwl, rydym ni'n gwybod yn iawn sy'n bwysig iawn. Mi wnaeth arolwg Lleisiau Cadarnhaol nôl yn 2017 ddweud bod pobl sy'n byw efo HIV yng Nghymru a Lloegr ddwywaith yn fwy tebygol o brofi materion problemau iechyd meddwl o'u cymharu efo'r boblogaeth gyffredinol. Felly, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ochr yn ochr â byrddau iechyd Cymru ac ati i sicrhau bod darpariaeth a chefnogaeth iechyd meddwl mewn lle.
Ac yn olaf, dwi'n canmol yn fawr y gwaith mae Fast-Track Cities yn ei wneud yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, yn cynnwys yr wythnos profi yna mi wnes i gyfeirio ati. Mi wnes i gael cyfarfod buddiol iawn efo nhw'n gynharach eleni yn trafod y posibilrwydd o ehangu'r cynllun, efallai i ardal Bangor yn y gogledd, ar garreg drws fy etholaeth i. Felly, ydy'r Llywodraeth yn cefnogi sefydlu rhwydweithiau cydweithredol Fast-Track Cities mewn dinasoedd neu ardaloedd eraill o Gymru er mwyn gallu adeiladu ar lwyddiant yr un yng Nghaerdydd a sicrhau bod y genedl gyfan yn gallu elwa o'r gwaith da sydd yn mynd ymlaen?