– Senedd Cymru am 5:00 pm ar 30 Tachwedd 2021.
Yr eitem nesaf heddiw yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—Diwrnod AIDS y Byd. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan.
Diolch, Llywydd. Mae yfory yn nodi Diwrnod AIDS y Byd, sy'n amser i fyfyrio ac i edrych i'r dyfodol. Mae HIV ac AIDS yn dal i fod yn fater iechyd cyhoeddus byd-eang mawr, gan ei fod wedi cymryd tua 36.3 miliwn o fywydau yn fyd-eang. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif bod 680,000 o bobl wedi marw o achosion sy'n gysylltiedig â HIV yn 2020 ac 1.5 miliwn o bobl wedi cael eu heintio gan HIV. Er nad oes iachâd o hyd ar gyfer HIV, mae atal, diagnosis, triniaeth a gofal effeithiol bellach ar gael, gan alluogi pobl sy'n byw gyda HIV i fyw bywydau hir ac iach. Mae'r amcangyfrif diweddaraf yn awgrymu bod 105,200 o bobl yn byw gyda HIV yn y DU yn 2019. O'r rhain, mae tua 6,600 heb gael diagnosis, felly dydyn nhw ddim yn gwybod bod ganddyn nhw HIV.
Rydym wedi cyflawni llawer ers dyddiau tywyll y 1980au—a ddarluniwyd mor gofiadwy y llynedd yn It's a Sin ar Channel 4—pan oedd anwybodaeth a chreulondeb tuag at bobl â HIV yn rhemp. Mae llawer o gynnydd wedi'i wneud ers i Sefydliad Iechyd y Byd sefydlu Diwrnod AIDS y Byd yn 1988, ond mae cymaint mwy i'w wneud o hyd. Dyna pam, yng Nghymru, mae ein rhaglen lywodraethu yn nodi ymrwymiadau uchelgeisiol i ddatblygu cynllun gweithredu HIV i Gymru ac i fynd i'r afael â'r stigma a brofir gan y bobl hynny sy'n byw gyda HIV. Mae'n rhaid cymryd mwy o gamau os yw Cymru yn mynd i gyrraedd targed byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer rhoi terfyn ar drosglwyddiadau HIV newydd erbyn 2030.
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda byrddau iechyd, Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru a phartneriaid eraill, wedi gwneud cynnydd enfawr o ran gwella mynediad at brofion a thriniaeth yng Nghymru.
Yn 2018, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru adolygiad cynhwysfawr o iechyd rhywiol yng Nghymru, a amlygodd amrywiad daearyddol mewn gwasanaethau a'r angen i edrych ar fodel gwahanol o ddarparu gwasanaethau i ateb y galw. Ers hynny, rydym wedi gweithio i wella mynediad at wasanaethau ledled Cymru. I'r rhai sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd rhywiol ar gyfer proffylacsis cyn-amlygiad, sydd bellach ar gael ledled Cymru, rydym wedi cyflwyno hunan-samplu HIV i wella'r gallu i gael gafael ar brofion ac amser clinig am ddim.
Ar ddechrau pandemig COVID-19, pan oedd y gallu i gael gafael ar wasanaethau iechyd rhywiol yn gyfyngedig, ehangwyd cynllun treialu profi heintiau a drosglwyddir yn rhywiol ar-lein a oedd yn digwydd mewn tri bwrdd iechyd yng Nghymru eisoes. Er y disgwyliwyd y byddai'r gwasanaeth cenedlaethol ar-lein newydd sy'n profi am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn diwallu anghenion y garfan nad oes ganddyn nhw unrhyw symptomau hysbys, gan ryddhau gwasanaethau'r clinig i weld achosion mwy cymhleth, mae hefyd wedi datgelu carfan o bobl nad oedden nhw'n hysbys i wasanaethau o'r blaen.
Mae darparu'r gwasanaeth ar-lein ledled Cymru wedi gwneud profion am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn fwy hygyrch a theg, sydd wedi arwain at grŵp a oedd heb eu nodi o'r blaen yn cael eu profi. Mae hyn nid yn unig wedi golygu bod mwy o bobl yn gallu cael eu profi a'u trin yn gynharach, gan leihau'r risg o drosglwyddo ymhellach yn y gymuned, ond mae gwasanaethau iechyd rhywiol wedi gallu canolbwyntio ar y rhai sy'n fwy agored i niwed mewn cymdeithas. Mae'r gwasanaeth hwn wedi cael ei groesawu gan y cyhoedd a'r gwasanaethau iechyd, ac mae'n angenrheidiol iddo barhau yn y tymor hirach. Hoffwn ddiolch i bawb sy'n ymwneud â hwyluso'r gwaith o'i gyflwyno mor effeithlon ledled Cymru.
At hynny, rwy'n falch o ddweud, ar 1 Rhagfyr, y bydd triniaeth newydd, y driniaeth chwistrelladwy hirdymor gyntaf ar gyfer haint HIV-1 mewn oedolion, ar gael drwy GIG Cymru. Bydd hwn yn opsiwn gwerthfawr i'r bobl hynny sy'n gymwys a bydd yn golygu na fydd yn rhaid i bobl sy'n cael y driniaeth newydd hon gymryd meddyginiaeth ddyddiol mwyach.
Rwyf hefyd yn croesawu'r cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am PrEP, bedair blynedd ar ôl ei gyflwyno yng Nghymru. Mae PrEP yn feddyginiaeth gwrth-retrofeirysol sydd, os caiff ei chymryd yn gywir, yn gallu atal HIV i'r rhai hynny sydd mewn perygl.
Rwy'n falch o ddweud bod yr ymyrraeth hon wedi bod yn un llwyddiannus iawn, hyd yma. Does dim achosion newydd o HIV wedi bod ymysg y rhai sydd wedi bod yn derbyn PrEP. Rhwng Ionawr a Hydref 2021, gwnaeth 1,301 o bobl ddefnyddio PrEP. Serch hynny, yn ystod y pandemig, mae'r defnydd o PrEP wedi lleihau. Mae sawl rheswm posibl dros hyn, ond bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'i phartneriaid, gan gynnwys y Terrence Higgins Trust, ar ymgyrch i gynyddu gwybodaeth am PrEP yng Nghymru i annog pobl i'w ddefnyddio ac i wella mynediad at PrEP.
Mae achosion newydd o HIV yng Nghymru yn mynd ar eu lawr. Mae'n hanfodol bod y duedd hon yn parhau. Mae'n bwysig hefyd sicrhau diagnosis cynnar o achosion newydd o HIV a bod cleifion yn cael gofal o'r safon uchaf. Yn 2019—. Sori, yn 2021, roedd dros 2,300 o bobl sy'n byw yng Nghymru yn cael gofal HIV. Fe fydd y nifer yma'n cynyddu wrth i fwy o bobl wybod eu statws HIV a gallu cael triniaeth effeithiol.
Wrth gael triniaeth, mae gan rywun sydd â HIV lwyth feirysol nad oedd modd ei ganfod. Ni all y person basio HIV ymlaen, ac mae'n gallu disgwyl byw bywyd hir ac iach. Er mai dyna'r sefyllfa ers sawl blwyddyn, mae dal diffyg ymwybyddiaeth yn gyffredinol, ac mae llawer o gamsyniadau am HIV o hyd. Cyflwr cronig yw HIV. Fe ddylai bobl sydd â'r cyflwr deimlo eu bod nhw'n gallu bod yn agored am eu statws HIV, fel y buasen nhw gydag unrhyw gyflwr arall, heb ofni cael eu beirniadu neu eu trin yn wahanol. Rhaid cael gwared â'r stigma yn y gweithle, mewn ysgolion a lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Dwi'n disgwyl i bawb fod yn hyddysg am HIV a stigma HIV, a bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector addysg ac iechyd i gyflawni hyn.
Mae fy swyddogion wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i roi cyngor ac arweiniad ar ddatblygu cynllun gweithredu ar HIV. Ei nod yw cyhoeddi'r cynllun hwn yn hanner cyntaf 2022. Fe fydd y cynllun yn cynnwys camau gweithredu mesuradwy wedi eu targedu er mwyn gwneud gwahaniaeth mawr o ran atal HIV, diagnosis, triniaeth, gofal a stigma. Cyn gynted ag y bydd y cynllun wedi ei chytuno a'i chostio, fe fyddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach, gydag amserlen i gymryd yr argymhellion ymlaen.
Yn ogystal â helpu'r gwasanaeth iechyd i adfer a symud ymlaen ar ôl heriau anferthol y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i weithredu i sicrhau tegwch i bawb, a chael gwared ar anghydraddoldeb, stigma a rhagfarn ar bob lefel o gymdeithas. Gan weithio gyda phartneriaid ar draws y gwasanaeth iechyd, y byd academaidd a chyrff y trydydd sector, fel y Terrence Higgins Trust a Fast-Track Cities, sy'n llawn gwybodaeth ac arbenigedd, dwi'n hyderus y gall Cymru arwain y ffordd. Dwi'n edrych ymlaen at roi rhagor o wybodaeth ichi am waith pellach a'r ymrwymiadau hyn, sydd wedi eu gwneud yn rhaglen Llywodraeth Cymru, a'n hymdrechion pwrpasol i leihau trosglwyddiad HIV yma yng Nghymru.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw? Rwy'n cytuno â llawer o'r hyn a ddywedwyd yng nghyfraniad y Gweinidog. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, oherwydd y gwaith gwych a wnaed gan wyddonwyr a gweithwyr gofal iechyd, rydym wedi gweld trosglwyddo HIV yn lleihau'n sylweddol, sydd wedi helpu, wrth gwrs, i gyfyngu ar yr effaith andwyol y mae'r feirws wedi'i chael ar fywyd person. Mae ffigurau'n dangos bod achosion o HIV wedi gostwng 15 y cant yng Nghymru ers 2018, ac mae hyn yn dyst, wrth gwrs, i'r profion HIV estynedig ac effeithiolrwydd triniaethau HIV. Fodd bynnag, sylwais hefyd fod nifer y rhai yng Nghymru sy'n cael diagnosis hwyr yn llawer uwch na chyfartaledd y DU, felly wrth gwrs, rwy'n croesawu'r cynllun gweithredu HIV a amlinellwyd gan y Gweinidog ond tybed a all y Gweinidog roi rhywfaint o wybodaeth am sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu mynd i'r afael â diagnosis hwyr, yng Nghymru yn benodol.
Rwy'n credu, diolch i'r gwaith anhygoel dros nifer o ddegawdau, y gall pobl sy'n byw gyda HIV wneud yn union hynny: gallan nhw fyw, a gall y rhai sydd â HIV bellach fyw bywydau hir ac iach gyda'r feddyginiaeth hyd yn oed yn ei wneud yn bosibl lleihau'r clefyd i sefyllfa lle nad yw'n cael ei drosglwyddo. Ond fel y nododd y Gweinidog yn ei datganiad heddiw, mae stigma o hyd ynghylch HIV, a tybed a all y Gweinidog efallai siarad ychydig yn fwy ar y cynllun gweithredu yn hynny o beth, oherwydd yn sicr fy marn i o'r ychydig ymchwil yr wyf i wedi'i wneud yn y fan yma yw y dylai'r mater o stigma fod yn rhan ganolog o'r cynllun hwnnw, felly tybed a fyddai'r Gweinidog yn cytuno â'r safbwynt hwnnw.
Un o'r pethau allweddol a ddysgwyd o bandemig COVID-19 yw pwysigrwydd, wrth gwrs, y gallu i gael triniaeth effeithiol a thechnolegau newydd yn gyflym. Dylai pobl sy'n byw gyda HIV allu cael gafael ar unrhyw arloesedd a thechnoleg newydd mewn modd cyflym a diogel er mwyn helpu i wella ansawdd eu bywyd, ac mae'n wych gweld y driniaeth newydd a amlinellwyd gan y Gweinidog yn ei datganiad heddiw. Rwy'n credu mai triniaeth chwistrelladwy ydyw ar gyfer heintiau HIV-1 mewn oedolion, os wyf yn iawn ar hynny; rwy'n credu bod hynny'n cael ei gyflwyno'n fuan, fel yr wyf yn ei ddeall, sy'n golygu y bydd cleifion yn gallu rhoi'r gorau i gymryd meddyginiaethau dyddiol. Ni wn a yw'r Gweinidog yn gwybod mwy am hynny, ond byddai'n ddefnyddiol gwybod os, gyda'r driniaeth newydd honno, pa mor aml y mae'n rhaid rhoi'r pigiadau, ac a fydd y driniaeth yn agored i bob oedolyn sydd â HIV yng Nghymru.
Byddai'n dda gwybod ychydig mwy am ddatblygiad y cynllun hefyd; soniodd y Gweinidog yn ei sylwadau am Ymddiriedolaeth Terrence Higgins a Fast-Track Cities. A yw'r sefydliadau hyn yn mynd i fod yn rhan o ddatblygu'r cynllun hwnnw? Ychydig mwy o wybodaeth yn hynny o beth.
Ac wrth gwrs, yn olaf, gwyddom fod gennym gyfradd swyddi gwag fawr o ran nyrsys yng Nghymru—1,700 o swyddi nyrsio gwag—felly wrth gwrs, rydym ni eisiau helpu'r rhai sy'n byw gyda HIV yng Nghymru i fyw bywydau hir ac iach, felly mae angen i ni gynnal gweithlu i hwyluso hynny. Felly, tybed a fydd y Gweinidog yn ymrwymo i ddatblygu strategaeth yn hyn o beth ar gyfer recriwtio a chadw'r gweithlu HIV, yn enwedig mewn lleoliadau clinigol, llywodraeth leol a'r sector gwirfoddol. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch yn fawr, Russell. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn glir iawn ynghylch faint o bobl sy'n cael eu heffeithio gan HIV yng Nghymru; yn 2019, roedd gennym tua 2,378 o bobl a oedd wedi cael gofal HIV. Dynion oedd tua 77 y cant o'r rheini, ac rydych chi yn llygad eich lle i ganolbwyntio ar yr angen i geisio sicrhau bod gennym ddiagnosis cynnar. I wneud hynny, mae angen i bobl gamu ymlaen a dod ymlaen, ac felly mae cael gwared ar yr holl sefyllfa o stigma y gwnaethoch chi sôn amdani yn gwbl ganolog i hynny. A bydd yn ganolog i'r cynllun sydd wedi'i ddatblygu, ac yn amlwg, ar y grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw, bydd Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yn rhan o ddatblygu'r cynllun hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cael sawl cyfarfod gyda rhanddeiliaid ac maent yn datblygu camau gweithredu penodol i fynd i'r afael ag addysg am HIV a'r stigma a brofir gan y rhai sy'n byw gyda HIV, a bydd cyfarfod cyntaf y grŵp stigma hwnnw'n cael ei gynnal cyn diwedd eleni.
Fe wnaethoch chi sôn am y driniaeth newydd sy'n cael ei datblygu, ac rydych chi yn llygad eich lle bod NICE, o 1 Ionawr ymlaen, wedi cymeradwyo hon. Caiff hon ei chyflwyno o Ionawr 1 yng Nghymru a bydd hynny'n atal pobl rhag gorfod cymryd meddyginiaeth yn ddyddiol. Felly, bydd ar gael i'r rhai y mae'r feddyginiaeth honno yn briodol ar eu cyfer, felly mae'n amlwg bod hynny'n benderfyniad clinigol yn hytrach na rhywbeth y gallaf fod yn glir amdano yma heddiw. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn deall bod stigma o hyd o ran HIV ac AIDS, a dydy un o bob wyth sydd ag AIDS ac yn sicr sydd â HIV erioed wedi dweud wrth unrhyw un am eu statws y tu allan i'r lleoliad gofal iechyd, ac mae tua 18 y cant o bobl â HIV wedi osgoi gofal iechyd hyd yn oed pan oedd ei angen arnyn nhw. Felly, mae'n rhaid i ni ddatrys hyn, ac mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r sefyllfa o ran stigma yng Nghymru.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn ein bod ni fel Senedd yn cael cyfle i nodi Diwrnod AIDS y Byd. Mae'n gyfle hefyd i ganmol pawb a oedd yn ymwneud ag Wythnos Profi HIV Cymru; mi gafodd ei chydlynu gan Fast Track Caerdydd a'r Fro, a'r nod, wrth gwrs, oedd torri lawr y stigma sydd yn atal pobl rhag cael prawf. Mae o ynghlwm wedyn ynglŷn â'r targed o stopio heintiad newydd o HIV erbyn 2030, a dwi'n falch iawn, yn sicr, fod Cymru wedi bod yn flaengar trwy fod y cyntaf o wledydd y Deyrnas Unedig i ymrwymo i'r targed yna, a hefyd i sicrhau bod y cyffur atal HIV, PrEP, ar gael ar y NHS.
Rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi datgan ein dymuniad ni y dylid dod â'r targed ymlaen i 2026. Mae'n bwysig iawn bod yn uchelgeisiol ac, fel mae neges Diwrnod AIDS y Byd yn ei dweud eleni, nid yn unig i siarad gêm dda, ond i roi cynllun mewn lle er mwyn gwireddu'r uchelgais honno. Y nod yn Seland Newydd ydy ei dileu erbyn 2025. Maen nhw efo tua'r un faint o bobl yn derbyn triniaeth am HIV ag sydd gennym ni yng Nghymru, felly mae hynny'n rhoi syniad i ni o beth gallem ni fod yn anelu amdano fo.
Gaf i ofyn, fel cwestiwn cyntaf, felly, pa gamau mae'r Llywodraeth wedi'u cymryd yn barod i ddysgu oddi wrth arferion da rhyngwladol, fel defnyddio'r tair egwyddor o aros yn saff, profi yn gynnar a thrin yn gynnar, fel maen nhw wedi'i wneud yn Seland Newydd er mwyn gallu dod â'r targed yna ymlaen?
Felly, ie, troi geiriau yn gweithredu ydy galwad y Terrence Higgins Trust. Rydym ni'n falch iawn mai dyna yw'r nod hirdymor. Mae'n bwysig cael yr un nod yn y pen draw, ond mi fuaswn i'n ddiolchgar hefyd o wybod beth ydy'r camau bach y mae'r Llywodraeth am eu cymryd ar y ffordd tuag at y nod yna yn y pen draw. Felly, all y Gweinidog ymrwymo heddiw, pan gaiff y cynllun gweithredu HIV ei gyflwyno blwyddyn nesaf, i gynnwys yn hwnnw'r camau, cam wrth gam, blwyddyn wrth flwyddyn, fydd yn cael eu cymryd i gynyddu profion, i dargedu adnoddau a mynd i'r afael â stigma bydd yn rhan, wedyn, o gynllun realistig i gyrraedd y targed tymor hir hwnnw?
Buaswn i hefyd yn licio sicrwydd ynglŷn â pharhad cyllid yn y hirdymor ar gyfer y cynllun profi HIV ac STIs trwy'r post, sydd wedi bod yn llwyddiannus fel cynllun cenedlaethol.
Troi at PrEP, mae mynediad at PrEP, fel rydym ni'n gwybod, yn hollol allweddol er mwyn dod â throsglwyddiadau HIV i lawr ac i ben, gobeithio. Yn ystod y pandemig, fel rydym ni wedi clywed, mi benderfynwyd rhagnodi a monitro pobl ar PrEP drwy'r platfform Attend Anywhere. Gan fod angen prawf HIV negyddol cyn mae PrEP yn cael ei rhagnodi, mi oedd clinigwyr yn gallu postio profion gwrthgorff neu antigen HIV i gartrefi pobl, a rhagnodi gwerth hyd at chwe mis o PrEP, ac yna fonitro cleifion ar-lein. Ydy'r Llywodraeth yn sicr yn mynd i barhau efo'r cynllun rhagnodi a monitro pobl ar-lein er mwyn pobl sydd eisiau osgoi gorfod dod i mewn i glinig? A throi hynny ar ei ben i lawr, sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau, i'r rhai sydd yn well ganddyn nhw, neu sydd angen, gwasanaethau wyneb yn wyneb, y gallan nhw gael y ddarpariaeth honno er mwyn sicrhau mynediad teg i apwyntiadau? Mae pawb yn chwilio am ffyrdd gwahanol o gael y mynediad, wrth gwrs.
Cwestiwn hefyd ynglŷn â gwasanaethau iechyd meddwl, rydym ni'n gwybod yn iawn sy'n bwysig iawn. Mi wnaeth arolwg Lleisiau Cadarnhaol nôl yn 2017 ddweud bod pobl sy'n byw efo HIV yng Nghymru a Lloegr ddwywaith yn fwy tebygol o brofi materion problemau iechyd meddwl o'u cymharu efo'r boblogaeth gyffredinol. Felly, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ochr yn ochr â byrddau iechyd Cymru ac ati i sicrhau bod darpariaeth a chefnogaeth iechyd meddwl mewn lle.
Ac yn olaf, dwi'n canmol yn fawr y gwaith mae Fast-Track Cities yn ei wneud yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, yn cynnwys yr wythnos profi yna mi wnes i gyfeirio ati. Mi wnes i gael cyfarfod buddiol iawn efo nhw'n gynharach eleni yn trafod y posibilrwydd o ehangu'r cynllun, efallai i ardal Bangor yn y gogledd, ar garreg drws fy etholaeth i. Felly, ydy'r Llywodraeth yn cefnogi sefydlu rhwydweithiau cydweithredol Fast-Track Cities mewn dinasoedd neu ardaloedd eraill o Gymru er mwyn gallu adeiladu ar lwyddiant yr un yng Nghaerdydd a sicrhau bod y genedl gyfan yn gallu elwa o'r gwaith da sydd yn mynd ymlaen?
Diolch yn fawr, Rhun, a hoffwn i hefyd roi diolch am y gwaith anhygoel mae Fast-Track Cities Caerdydd yn ei wneud, a dwi yn meddwl bod yr wythnos profi yn rhywbeth dwi'n meddwl fydd yn dod yn rhywbeth sydd yn bwysig yn hanes HIV yn flynyddol yn ein gwlad ni. Fel chi, hoffwn i weld hwnna efallai yn cael ei ganolbwyntio—mae'n gwneud synnwyr i ganolbwyntio ar yr ardaloedd hynny lle rydym ni'n gwybod bod mwy o achosion nag mewn llefydd eraill.
Rŷn ni hefyd yn awyddus i stopio trosglwyddiad HIV, fel mae'r WHO yn ein hannog ni i wneud. Wrth gwrs, os gallwn ni wneud hynny cyn 2030, bydd hwnna yn rhywbeth pwysig i ni ei weld ac, wrth gwrs, fe fydd angen inni glywed beth sydd gan y grŵp yma rŷn ni wedi ei sefydlu i ddweud am hynny. Dwi yn meddwl ei bod yn bwysig ein bod ni yn edrych ar arfer da mewn gwledydd eraill. Fel rydych chi'n dweud, mae Seland Newydd, aros yn saff. Mae peidio â datblygu'r peth ar y dechrau yn gwneud lot o synnwyr, ac felly dyna pam mae rhoi PrEP i bobl, dwi'n meddwl, yn help. Rŷn ni wedi rhoi allan tua 2,197 o prescriptions i PrEP. Mae hwnna wedi ei roi i tua 1,300 o bobl.
Dwi'n meddwl eich bod chi wedi gweld ein hymrwymiad ni fel plaid yn y maniffesto i daclo HIV. Mae hi yn glir i'w gweld, ac rŷn ni'n awyddus iawn i weld hwn yn ddatblygiad. Dyna pam y bydd yn rhaid aros nawr i glywed beth fydd y bartneriaeth yma yn dod i fyny gyda fe o ran beth maen nhw'n argymell fel strategaeth. Dwi yn gobeithio gweld amserlen glir mewn beth maen nhw'n mynd i awgrymu, a hefyd, wrth gwrs, fe fydd angen cyllid i fynd gyda hynny. Felly, dwi'n edrych ymlaen at roi mwy o fanylder ar hynny unwaith maen nhw wedi gwneud eu hargymhellion nhw.
Dwi'n cytuno, o ran iechyd meddwl, fod hwnna'n rhywbeth mae'n rhaid i ni ei gymryd o ddifrif ac, wrth gwrs, mi fydd Lynne Neagle yn edrych mewn i hynny, ac mi fydd hwnna'n rhan bwysig o'i gwaith hi.
A hefyd, jest o ran y rhagnodi a monitro o bell, mae hwnna wedi bod yn effeithiol, fel rydych chi'n dweud, ond rydych chi'n eithaf iawn—fe fydd rhai pobl fydd eisiau'r cysylltiad uniongyrchol yna, ac felly mae'n bwysig ein bod ni yn rhoi'r gwasanaeth yna ac yn cadw hwnna i fynd hefyd. Diolch.
Diolch, Weinidog.