Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 1 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:54, 1 Rhagfyr 2021

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'r Gweinidog wedi disgrifio yn reit frwdfrydig sut mae am greu byddin frechu ar gyfer cyflymu cynlluniau i roi'r booster. Does yna ddim llawer o fanylion eto; mae'n eithaf cynnar. Dwi'n edrych ymlaen at weld rhagor o'r manylion. Ond, er fy mod i'n ymwybodol o'r datganiad gafodd ei gyhoeddi heddiw am ddiwygio contractau ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol, rydyn ni wedi clywed pryderon gan y BMA heddiw fod yna broblem ddifrifol o gapasiti gan feddygon teulu i gyfrannu at wneud y gwaith. Felly, sut mae'r Gweinidog yn bwriadu gweithredu'r cynlluniau brechu yma, yn cynnwys gofal sylfaenol, ac ar yr un pryd drio sicrhau bod gofal sylfaenol yn gynaliadwy?