Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 1 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:55, 1 Rhagfyr 2021

Diolch yn fawr. Wrth gwrs, bydd yna broblem capasiti os ydyn ni'n mynd i daflu popeth at hwn yn ystod yr wythnosau nesaf. Yn amlwg, fe fydd yn rhaid i bethau eraill gymryd sedd sydd ychydig tu ôl i hynny. O ran gofal sylfaenol, rŷn ni'n ymwybodol iawn fod pwysau aruthrol arnyn nhw, ond mae'n ddiddorol i weld bod rhai meddygon teulu wedi bod yn barod i ddod i'r adwy, i gymryd yr awenau yn fan hyn. Fel rydych chi wedi gweld yn ardal Pen Llŷn, er enghraifft, maen nhw eisoes wedi bod yn helpu gyda'r boosters. Dwi'n meddwl eu bod nhw'n deall y sefyllfa. Dwi'n obeithiol iawn y bydd meddygon teulu yn camu i'r adwy, ynghyd â phobl ar draws Cymru, y rheini sy'n wirfoddolwyr ac, wrth gwrs, bobl o lywodraeth leol ac ati hefyd.