Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 1 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:56, 1 Rhagfyr 2021

Diolch am yr ateb yna. Pan fydd y Gweinidog yn sôn am rai pethau'n gorfod cael eu rhoi yn y sedd gefn, dyna dwi'n poeni amdano fo, ac mae yna, wrth gwrs, oblygiadau difrifol iawn—y mwyaf difrifol—pan fydd rhai pethau'n cael eu rhoi yn y sedd gefn, a dwi'n meddwl am ganser a'r angen am ddiagnosis canser, er enghraifft. Mae yna lawer o bobl sydd yn dal, o bosib, yn cadw draw o ofal sylfaenol, â pheswch, a dylen nhw fod yn cael triniaeth oherwydd efallai mai canser yr ysgyfaint ydy o, ond yn dewis am ba bynnag rheswm i gadw draw. Mi ges i gyfarfod â Tenovus ddoe, oedd yn disgrifio beth roedden nhw'n ei weld fel nifer devastating, i'w dyfynnu nhw, o bobl rŵan oedd ddim yn canfod canser yr ysgyfaint, er enghraifft, tan gyfnod 4. Mi fyddai strategaeth i sicrhau bod canser yn cael ei ganfod yn gynnar, wrth gwrs, yn rhan allweddol o'r cynllun canser newydd i Gymru rydyn ni'n wirioneddol angen ei weld. Ond, beth mae'r Gweinidog am ei wneud rŵan i sicrhau (1) fod pobl yn teimlo eto'n ddiogel i fynd at y meddyg teulu, (2) eu bod nhw yn gallu gweld meddygon teulu, a (3) pan fydd hi'n dod at ganser, fod y referral yn dal yn gallu digwydd rŵan, hyd yn oed pan fyddwn ni'n wynebu'r amrywiolyn newydd yma sy'n achosi cymaint o bryder?