5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Diagnosis a thriniaeth canser

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 1 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:53, 1 Rhagfyr 2021

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i gyflwyno’r cynnig yma heddiw ger eich bron, a diolch i’r holl Aelodau eraill sydd wedi ei gefnogi o. Mae’r nifer sydd wedi cefnogi'r cynnig yn dyst i bwysigrwydd y testun.

Mae canser, wrth gwrs, yn rhywbeth sydd yn agos iawn at bob un ohonom ni—yn llawer rhy agos mewn gwirionedd. Mae fy nhad yn glaf canser, ac wedi bod ers diwedd 2019. Yn ôl yn yr haf, cafodd fy nhad y newyddion da fod y canser wedi diflannu, a'i fod mewn remission. Roedd yn achos dathlu, wrth reswm. Yna, ar ddechrau’r hydref, wrth fynd am ei brofion, gwelwyd fod y tyfiant wedi dod yn ôl.

Dwi’n dyst, felly, i’r ffaith fod y broses ddiagnosis, aros am ganlyniadau, aros am driniaeth, aros am atebion pan fo rhywbeth annisgwyl yn codi—hyn oll yn boen meddwl creulon, a gallaf ddim dychmygu'r gwewyr mae fy nhad a mam yn gorfod mynd drwyddo heb wybod os ydy’r erchyll beth yma yn tyfu ynghynt y tu mewn iddo, neu wedi ymledu.

Ond dydw i ddim ar fy mhen fy hun yn byw'r profiadau yma. Mae yna filoedd o gleifion a theuluoedd yng Nghymru yn byw'r profiad yma yn ddyddiol ac, wrth gwrs, mae eraill yn y Siambr yma heddiw wedi ei brofi o, dwi’n siŵr.

Rydyn ni oll, wrth gwrs, heddiw, yn cofio am yr annwyl a'r diweddar Steffan Lewis, a gyfrannodd gymaint mewn amser llawer yn rhy fyr, ac fe'i gollwyd o i ganser.

Wrth gyflwyno’r cynnig yma heddiw, dwi am ganolbwyntio ar effaith COVID ar wasanaethau canser, y gweithlu, amseroedd aros a diagnosis.