Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 1 Rhagfyr 2021.
Wel, mae ychydig o dan 20,000 o bobl yn derbyn diagnosis canser yng Nghymru bob blwyddyn, ac mae'n wybyddus i bawb erbyn hyn fod canser yn lladd mwy o bobl yng Nghymru nag unrhyw glefyd arall. Y newyddion da ydy fod y nifer sy'n goroesi'r clefyd yma yn cynyddu, gyda 60 y cant o’r cleifion a dderbyniodd ddiagnosis rhwng 2014 a 2018 yn goroesi eu canser am bum mlynedd neu fwy, sydd yn dangos bod triniaethau yn gwella.
Ond er y camau ymlaen, mae effaith COVID-19 a'r diffyg staff yn y gwasanaeth iechyd yn debyg o arwain atom ni'n gweld y niferoedd sydd yn goroesi yn lleihau am y tro cyntaf. Mae'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau canser yng Nghymru wedi'u dwysáu oherwydd COVID, fel ym mhob sector o fewn y gwasanaeth iechyd. Mae ffigurau'r Llywodraeth yn dangos bod 20,000 yn llai o bobl wedi cael eu cyfeirio ar frys am ddiagnosis canser rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd 2020 o'i gymharu â chyn y pandemig. Gwyddom bellach fod 1,700 yn llai o bobl wedi dechrau triniaeth canser yng Nghymru yn y flwyddyn rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021. Arweiniodd y COVID yma at y gwasanaethau canser yn cael eu tarfu'n sylweddol gan beryglu diagnosis a’i wneud yn anoddach i’w drin, a oedd wedyn yn arwain at ddirywiad yn eu cyfleoedd i oroesi.
Gwyddom hefyd fod staff y gwasanaeth iechyd wedi blino'n lan ar ôl ymateb i'r pandemig, yn ogystal â cheisio cynnal y gwasanaethau canser, tra hefyd yn ceisio cynnal mwy o fesurau rheoli heintiau. Ond, er bod llawer o wasanaethau canser bellach wedi dychwelyd, i raddau helaeth, i'r lefelau lle yr oedden nhw cyn COVID, y gwir ydy nad oedd canlyniadau canser yng Nghymru yn ddigon da cyn y pandemig. Fedrwn ni felly ddim mynd yn ôl i fel oedd pethau. Erys yr angen i drawsnewid gwasanaethau ar frys er mwyn gwella canlyniadau canser yn y tymor hir.
Sydd yn dod â mi at y gweithlu. Dwi eisiau gosod ar record yma heddiw ein diolch i’r gweithlu sydd wedi mynd yr ail filltir drosodd a thro yn ystod y cyfnod anodd diweddar. Fel mab i glaf canser, dwi’n diolch yn bersonol iddyn nhw, a dwi’n sicr fod y diolch hwnnw yn cael ei ategu gan bawb yma heddiw. Ond, y gwir anghyfleus ydy fod y gwasanaeth iechyd wedi dibynnu ar ewyllys da'r gweithlu er mwyn cynnal y gwasanaeth, gyda rhagor nag un o bob pedwar meddyg yn gweithio dros oriau yn ddi-dâl. Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd Cymru'n profi bylchau sylweddol yn y gweithlu diagnostig a chanser, megis delweddu, endosgopi, patholeg ac oncoleg nad yw'n lawfeddygol, neu non-surgical oncology.
Mae’r bylchau yma wedi effeithio yn sylweddol ar ein gallu i adnabod canser yn gynnar; darparu'r math mwyaf effeithiol o driniaeth; a gwella cyfleoedd goroesi. Er enghraifft, tra bod yna gynnydd wedi bod yng ngweithlu ymgynghorwyr oncoleg glinigol trwy’r Deyrnas Gyfunol a thrwy Ewrop, does yna ddim cynnydd wedi bod yn y bum mlynedd ddiwethaf yn ardal Betsi Cadwaladr. Yn 2020, dim ond 7.8 radiolegydd am bob 100,000 o’r boblogaeth oedd yng Nghymru, tra bod y cyfartaledd Ewropeaidd yn 12.8. Yn wir, mae gan Gymru hanner nifer y radiolegwyr i bob pen o’r boblogaeth ag sydd gan Ffrainc a Sbaen. Ac mae gan ogledd a gorllewin Cymru'r nifer lleiaf o radiolegwyr clinigol y pen o’i gymharu â gweddill y Deyrnas Gyfunol.
Mae yna gamau y gellir eu cymryd yn y tymor byr i ddiwallu’r sefyllfa, megis cymysgu sgiliau. Gall arloesi efo technolegau newydd helpu i wneud y mwyaf o allu'r gweithlu canser hefyd. Ac, wrth gwrs, mae’n rhaid edrych ar gefnogi lles y gweithlu er mwyn eu cadw. Ond, tra gall y camau yma helpu, dim ond trwy fynd i’r afael â’r argyfwng yn y gweithlu go iawn y cawn ni ddatrysiad i’r cwestiwn ehangach o staffio. Rhaid felly gweld y Llywodraeth yn ehangu'r nifer o staff mewn proffesiynau canser allweddol drwy fuddsoddi mewn hyfforddiant a chyflogi mwy o staff canser i lenwi'r swyddi gwag cyfredol a sicrhau bod gan y gweithlu'r gallu i ateb y galw cynyddol, yn ogystal ag amser i arloesi a thrawsnewid gwasanaethau.
Daw hyn â fi at y pwynt nesaf, sef amseroedd aros. Mae’n deg dweud, fel rydym ni wedi sôn, fod COVID wedi cael effaith andwyol ar y gwasanaethau canser. Dengys data mis Medi 2021 fod 59 y cant o gleifion wedi derbyn triniaeth cyntaf o fewn 62 niwrnod i’r amheuaeth fod ganddyn nhw ganser. Mae hyn ymhell o dan y targed o 75 y cant. Mae’r ystadegyn pryderus yma yn dweud wrthym ni fod llawer gormod o gleifion yn aros llawer rhy hir cyn cael diagnosis neu driniaeth. Ond fedrwn ni ddim gwella’r canlyniadau heblaw ein bod ni’n gweld cynnydd yn y gweithlu a’r offer angenrheidiol er mwyn ei ddal yn ddigon cynnar.
Rŵan, mae’r llwybr amheuaeth o ganser, a gafodd ei gyhoeddi nôl yn y gwanwyn, i'w groesawu. Ond mae angen gwneud mwy i leihau yr amseroedd aros a rhoi’r cyfle gorau posib i gleifion gael diagnosis cynnar, i gael triniaeth buan ac i oroesi.
Dwi hefyd yn croesawu’r datganiad ansawdd ar gyfer canser a gyhoeddwyd eleni. Ond mae’n ddatganiad sydd yn annigonol. Nid strategaeth canser mohoni, ac mae’r strategaeth canser flaenorol bellach yn dirwyn i ben. Cymru, felly, fydd yr unig genedl yn y Deyrnas Gyfunol heb strategaeth canser, rhywbeth y mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud y dylai pob Llywodraeth ei mabwysiadu. Mae'n rhaid cryfhau’r datganiad ansawdd canser, felly, a datblygu strategaeth canser i Gymru ar fyrder.
Yn olaf, dwi am droi'n sydyn at adolygiad Richards gan y gwasanaeth iechyd yn Lloegr. Un o argymhellion allweddol yr adolygiad hwnnw oedd hybiau diagnostig ar gyfer diagnostig dewisol, elective diagnostics, a chymryd yr elfennau megis sganio a phrofion allan o ysbytai acíwt er mwyn adeiladu capasiti. Ond, wrth gwrs, mae angen buddsoddiad ychwanegol i greu’r rhain, ynghyd â gweithlu, offer ac yn y blaen. Mae angen i’r Llywodraeth, felly, roi ystyriaeth lawn i hyn, a byddwn yn annog y Llywodraeth i ymchwilio i fewn i’r posibilrwydd o sefydlu peilot, gyda golwg i ddatblygu hybiau o’r fath yma yng Nghymru.
Felly, i gloi, rydym ni'n cydnabod bod yr argyfwng COVID wedi gwneud pethau yn anodd iawn i'r gwasanaeth canser a gwasanaethau iechyd eraill, ac rydym ni'n diolch yn swyddogol i'r gweithlu am eu dewrder a'u gwaith yn ystod y cyfnod yma. Ond doedd pethau ddim yn iawn cyn hynny. Rydyn ni'n cydnabod bod yna gamau wedi cael eu cymryd i'r cyfeiriad cywir, ond mae angen llawer iawn mwy. Mae'n rhaid gweld buddsoddi yn y gweithlu, sydd yn golygu cynyddu'r cyfleoedd hyfforddiant a chynyddu'r niferoedd, yn arbennig felly'r gweithlu arbenigol. Mae angen strategaeth canser glir, gan adeiladau ar y datganiad a wnaed yn y gwanwyn, gan osod gweledigaeth, targedau clir ac atebolrwydd. Ac yn olaf, mae angen gweld ymrwymiad i dreialu a mabwysiadu rhai o'r argymhellion yn adroddiad Richards. Wedi'r cyfan, does dim angen ailddyfeisio'r olwyn. Trwy weithredu’r rhain, gallwn fod yn hyderus y caiff fwy o gleifion ddiagnosis sydyn ac y bydd cyfraddau goroesi yn cynyddu. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.