Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 1 Rhagfyr 2021.
Nid un peth yw canser, wrth gwrs; mae'n fwy na 200 o glefydau. Clefyd y broses heneiddio ydyw yn bennaf, ond gellir atal cyfran sylweddol o achosion, yn enwedig drwy fynd i'r afael â chyfraddau ysmygu a gordewdra. Cyn y pandemig cawsom nifer o fersiynau o strategaethau a chynlluniau cyflawni cenedlaethol, a gwelsom flynyddoedd olynol o welliant graddol mewn cyfraddau goroesi a marwolaethau canser, yn ogystal â lefelau uchel iawn o brofiad cadarnhaol ymhlith cleifion. Roeddem wedi buddsoddi'n helaeth mewn offer radiotherapi, wedi cyflwyno'r archwiliad cyflawn cyntaf yn y DU o amseroedd aros canser, ac wedi sefydlu arweinyddiaeth genedlaethol ragorol ar gyfer datblygu gwasanaethau canser. Ac rwy'n falch o nodi bod rhan 3 o'r cynnig yn cydnabod un o lwyddiannau nodedig y dull gweithredu hwn, sef sefydlu cysyniad y ganolfan ddiagnostig gyflym. Mae hyn yn dangos sut y gall dull cenedlaethol helpu i nodi cyfleoedd ar gyfer modelau gwasanaeth newydd, ariannu cynlluniau peilot o ansawdd uchel, datblygu sylfaen dystiolaeth a chefnogi'r gwaith o gyflwyno hyn ar lefel fwy ledled Cymru.
Mae'n anochel fod y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar ofal canser. Yn gynnar yn y pandemig, aeth llawer llai o bobl i ofyn am archwiliad. Ataliwyd y rhaglenni sgrinio dros dro, nid oedd rhai pobl am fynychu eu hapwyntiadau, a newidiwyd therapi rhai pobl i leihau eu risg. Gwnaethom gyhoeddi canllawiau ar gyfer gwasanaethau hanfodol ar unwaith, gan gynnwys ymchwiliadau a thriniaeth canser, a daeth ein gwasanaethau canser at ei gilydd yn gyflym i newid y ffordd roeddent yn darparu gwasanaethau.
Tua diwedd 2020, roedd gweithgarwch atgyfeirio'n gwella, diolch byth, wrth i niferoedd arferol o bobl ddechrau mynd at eu meddyg teulu, ond roedd y ffigurau'n dangos bod llai o bobl nag y byddai disgwyl iddynt gael eu gweld fel arfer wedi cael eu gweld y llynedd. O ddechrau 2021 rydym wedi gweld atgyfeiriadau ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o ganser yn cynyddu'n sylweddol uwchlaw'r lefelau arferol, ac mae hyn yn cyfuno â chapasiti cyfyngedig yn deillio o absenoldeb staff a mesurau atal heintiau. Y galw uwch nag arfer a'r capasiti is nag arfer yw'r hyn sy'n gyrru'r perfformiad amseroedd aros canser a ddisgrifir yn y cynnig.
Mae staff y GIG yn parhau i weithio'n eithriadol o galed i archwilio a thrin pobl â chanser, ac maent yn trin mwy o bobl nag mewn blynyddoedd blaenorol. Fel Llywodraeth, rydym yn darparu adnoddau ychwanegol i'r GIG i ymgymryd â chymaint â phosibl o weithgarwch sy'n rhoi diagnosis o ganser ac yn ei drin, ac rwyf wedi gwneud adfer gwasanaethau canser yn flaenoriaeth gynllunio i'r GIG, fel yr adlewyrchir yn ein dull o adfer, 'COVID-19: Edrych tua'r dyfodol', wedi'i gefnogi gan bron i £250 miliwn o adnoddau ychwanegol.
Er nad oes gennym unrhyw dystiolaeth glir ar hyn o bryd o ganlyniadau canser gwaeth, credwn fod y tarfu a ddigwyddodd yn sgil y pandemig yn debygol o gael effaith yn y blynyddoedd i ddod. Yn anffodus, mae cyfnodau pandemig yn gwneud llawer o niwed anuniongyrchol i lefelau mynediad at ofal iechyd arferol, fel y mae'r prif swyddog meddygol wedi'i nodi'n fanwl.
Yn ogystal â'n dull ehangach o adfer, ym mis Mawrth eleni cyhoeddwyd y datganiad ansawdd ar gyfer canser, fel y soniodd llawer o bobl. Ac a gaf fi fod yn glir fy mod yn deall y pryderon a godwyd mewn perthynas â'r dull gweithredu newydd hwn? Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn ystyried sut y gwnaethom gyrraedd y pwynt hwnnw, ac mae hyn yn mynd yn ôl at adolygiadau'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ac adolygiadau seneddol, a arweiniodd at ymrwymiadau a wnaed yn 'Cymru Iachach', ac rydym wedi ymrwymo yn 'Cymru Iachach' i gyflwyno cyfres o ddatganiadau ansawdd ar gyfer y GIG yng Nghymru. Ni allwn gyflawni'r ymrwymiad hwn a dal i gydymffurfio â'i resymeg tra'n glynu wrth yr hen ffordd o wneud pethau.
Yr hyn y ceisiwn ei gyflawni yw dull integredig gwell a mwy effeithiol yn seiliedig ar ansawdd o weithredu nifer o wasanaethau clinigol; dull sy'n cyd-fynd yn well â'r fframwaith cynllunio ar gyfer cyrff GIG lleol ac sy'n llywio'n well y trefniadau atebolrwydd a ddefnyddiwn gyda holl gyrff lleol y GIG. A disgrifir y dull hwn yn fanwl iawn yn y fframwaith clinigol cenedlaethol. Dyma'r dull rydym wedi penderfynu y bydd yn gweithio orau i Gymru ac i'n system iechyd. Mae'n ffordd gwbl newydd o wneud pethau, ond mae'n adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae'r dull gweithredu ar gyfer canser wedi'i seilio ar alluogi i wella ansawdd. Mae'n canolbwyntio'n helaeth ar ei gwneud hi'n bosibl canfod a chael triniaeth yn gynharach. Mae ffocws pwysig hefyd ar gyflwyno system gwybodeg canser newydd, gan alluogi dull gwell o gynllunio'r gweithlu canser a chefnogi'r gwaith o gynllunio gwasanaethau'n well.