5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Diagnosis a thriniaeth canser

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 1 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 4:30, 1 Rhagfyr 2021

Bydd y byrddau a’r ymddiriedolaethau iechyd yn ymateb drwy eu cynlluniau lleol i’r datganiad ansawdd. Byddwn ni wrth reswm yn llywio datblygiad y cynlluniau hynny ac yn monitro’r datblygiad hefyd. Bydd bwrdd Rhwydwaith Canser Cymru yn cefnogi’r byrddau iechyd gyda’r llwybrau sy’n gweithio orau yn genedlaethol—y llwybrau sydd angen eu mabwysiadu. Byddan nhw hefyd yn helpu’r byrddau iechyd i dynnu’r data i gyflenwi gwasanaethau ac i ddod â nhw ynghyd. Mae’r llwybrau cenedlaethol hyn yn cael eu cynnwys yn y datganiad ansawdd ac mae nifer o fanylebau gwasanaeth wedi eu cynnwys yn barod.

Rŷn ni wedi cyhoeddi yn barod fod tua £100 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn offer delweddu—offer fel sganwyr CT, MRI a PET/CT. Mae hwn yn fuddsoddiad enfawr, ac i gefnogi’r buddsoddiad hwn, bydd rhagor o leoliadau hyfforddi ar gael i radiolegwyr a radiograffwyr. Mae hyn i gyd yn bosibl diolch i’n hacademi delweddu. Rŷn ni wedi cynyddu nifer ein lleoliadau hyfforddi yn sylweddol yn y maes oncoleg. Mae hyn yn wir hefyd mewn meysydd arbenigol cysylltiedig sy’n trin pobl sydd â chanser, fel iwroleg a gastroenteroleg. Mae rhagor o waith i’w wneud eto o safbwynt cynllunio’r gweithlu canser a diagnosteg, ond mae’r gwaith yn mynd rhagddo’n barod drwy’r cynlluniau cenedlaethol perthnasol.

Byddwn ni’n buddsoddi bron i £6.5 miliwn mewn system wybodaeth canser newydd. Mae hon yn rhaglen waith uchelgeisiol iawn sy’n cyffwrdd â phob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd. Rydym ni am gyflwyno cofnod cleifion integredig cadarn ar gyfer pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser. Rydym ni’n buddsoddi miliynau mewn cyflymwyr llinellol—linear accelerators—newydd, sef dyfeisiau sy’n rhoi triniaeth radiotherapi. Yn ogystal ag hynny, rydym ni’n bwrw ymlaen gyda chanolfan ganser newydd yn y de-ddwyrain ac yn ystyried y posibilrwydd hefyd o sefydlu is-ganolfan radiotherapi yn yr ardal er mwyn gwella mynediad.

Y flwyddyn nesaf, byddwn ni hefyd yn cyflwyno fframwaith newydd ar gyfer canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol a fframwaith cyflenwi gwasanaeth iechyd. Cyn gynted ag y bydd cytundeb terfynol ar y rhain, byddwn yn diweddaru’r datganiad ansawdd gyda’r targedau a’r metrigau canser perthnasol. Bydd bwrdd Rhwydwaith Canser Cymru yn rhan o weithrediaeth y gwasanaeth iechyd gwladol. Bydd hyn yn sicrhau yn y dyfodol y bydd yr agenda hon yn elwa ar gefnogaeth arweinwyr sy’n gweithio ar lefel uchel iawn a bydd pob rhan o’r system yn gweithio mewn ffordd fwy cydgysylltiedig. Mae hon yn agenda hynod o uchelgeisiol—agenda dwi’n hyderus a fydd yn helpu i liniaru effaith y pandemig ac yn caniatáu inni wella canlyniadau i gleifion unwaith eto.