5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Diagnosis a thriniaeth canser

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 1 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 4:14, 1 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Mabon ap Gwynfor am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Rwy'n credu ei fod yn fater eithriadol o bwysig y credaf fod pob plaid yn poeni yn ei gylch yn y Siambr hon, ac mae'n ddrwg gennyf nad oeddwn yn ddigon cyflym, mewn gwirionedd, i roi fy enw i gefnogi'r ddadl cyn ei chyflwyno. Ond hoffwn nodi y byddaf yn cefnogi'r cynnig heddiw, ac rwy'n cytuno â'r pwyntiau yn y cynnig y mae Mabon wedi'i gyflwyno. 

Yn anffodus, credaf fod cleifion canser wedi cael eu gadael ar ôl yng Nghymru. Ers gormod o amser rydym wedi gohirio sgrinio, wedi oedi cyn rhoi triniaeth, ac mae'r pandemig wedi rhoi straen sylweddol ar weithlu sydd eisoes wedi'i orlwytho, ac mae nifer sylweddol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol bellach yn dioddef straen a gorflinder. Os yw Cymru am ateb y galw cynyddol a sicrhau canlyniadau rhagorol i gleifion canser, rhaid iddi fuddsoddi yng ngweithlu'r GIG fel mater o frys. Felly, rwy'n cefnogi'n gryf yr alwad ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â phrinder staff yn y gweithlu canser.

A nodaf mai Cymru fydd yr unig wlad yn y DU cyn bo hir heb strategaeth canser. Ac fel y mae dau Aelod eisoes wedi nodi, mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell y dylai pob gwlad gael strategaeth. Felly, o gofio bod tri Aelod bellach wedi sôn am hynny yn y ddadl heddiw, gobeithio y gall y Gweinidog fynd i'r afael â'r pwynt hwnnw'n benodol. Ond rwy'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys yn hynny o beth, ac mae angen gweledigaeth ar Gymru i nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda GIG Cymru a sut y bydd yn cefnogi gwasanaethau i adfer yn sgil effaith y pandemig a gwella cyfraddau goroesi canser drwy arloesi a thrawsnewid yn y tymor hir.

Ar ddechrau'r ddadl, nododd Mabon ei brofiad a'i sefyllfa deuluol ei hun, ac rwy'n tybio bod canser wedi effeithio ar bob Aelod o'r Siambr hon mewn rhyw ffordd, a bydd hynny yr un fath i bobl ledled Cymru. Felly, rwy'n credu ei fod yn destun pryder mawr i bob un ohonom, onid yw, pan fydd gennym restrau aros hirach, a chredaf y bydd hynny'n effeithio ar bob person ledled Cymru yn yr ystyr y byddant yn bryderus ynghylch rhestrau aros hirach ar gyfer canser. Gwn y bydd cyd-Aelodau'n sicr yn cytuno â hynny.

Ond drwy'r pandemig, gwelsom amseroedd aros hirach nag erioed. Dangosodd amseroedd aros canser y GIG ar gyfer mis Medi fod 59 y cant o gleifion wedi cael eu triniaeth gyntaf o fewn 62 diwrnod i'r dyddiad yr amheuid bod ganddynt ganser, ac mae hyn yn llawer is na'r llwybr canser o 75 y cant. Felly, ni fyddwn yn gwella canlyniadau canser oni bai ein bod yn lleihau amseroedd aros yng Nghymru. A chredaf fod rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys i fuddsoddi yn y staff a'r seilwaith sydd eu hangen i helpu mwy o bobl i gael diagnosis a thriniaeth amserol, fel y nododd Mabon yn ei sylwadau agoriadol. Felly, byddaf yn sicr yn cefnogi'r cynnig heddiw fel y'i cyflwynwyd, a gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ymateb yn unol â hynny i'r ddadl hon y prynhawn yma.