Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 1 Rhagfyr 2021.
Wel, unwaith eto, hoffwn ddechrau drwy ddiolch yn ddiffuant i Mabon ap Gwynfor AS am gyflwyno'r cynnig pwysig iawn hwn, yn ogystal ag i'r 15 Aelod a gefnogodd y galwadau pwysig hyn i fynd i'r afael ag amseroedd aros hir am ddiagnosis a thriniaethau canser. Fel y bydd y ddadl hon yn dangos yn glir, mae amseroedd aros canser y GIG ar gyfer mis Medi 2021 yn dangos mai 59 y cant o gleifion sy'n cael eu triniaeth gyntaf o fewn 62 diwrnod i'r dyddiad yr amheuir bod ganddynt ganser, sy'n llawer is na tharged y llwybr canser o 75 y cant.
Weinidog, roedd datganiad ansawdd mis Mawrth ar gyfer canser yn gyfle i Lywodraeth Cymru nodi strategaeth ar gyfer gwella diagnosis canser, ond mae'n brin o fanylion pellach a mecanweithiau atebolrwydd. Fel y dywedodd Cancer Research UK yn glir, cyn bo hir Cymru fydd yr unig wlad yn y DU heb strategaeth ganser y mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell bod un gan bob gwlad. Rwy'n ymuno â fy nghyd-Aelodau i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am gamau nesaf y datganiad ansawdd ar gyfer canser, a gofynnaf i chi fanylu ar ba fecanweithiau sy'n cael eu hystyried ar gyfer cyflymu'r broses o olrhain buddsoddiad cynnydd ar gyfer staff, offer a seilwaith.
Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd bylchau sylweddol yn y gweithlu yng Nghymru sy'n rhoi diagnosis o ganser ac yn ei drin, er enghraifft ym maes delweddu, endosgopi, oncoleg nad yw'n feddygol a nyrsys arbenigol. Canlyniad y bylchau staffio hyn yw bod achosion gofidus yn troi at fy swyddfa i chwilio am gymorth, gan gynnwys achosion lle mae cleifion yn cael gwybod am ddiagnosis o ganser sy'n newid bywyd dros y ffôn, yn hytrach na drwy sgwrs bersonol, wyneb yn wyneb.
Yn ogystal â phrinder staff, mae'n wir yng ngogledd Cymru fod yn rhaid i'r bwrdd iechyd atgyfeirio llawer o gleifion yn ôl i Loegr i gael y driniaeth angenrheidiol. O fod yn cynorthwyo etholwr yn ddiweddar iawn, gwn nad yw'r broses yn llyfn, gydag oedi, er enghraifft, oherwydd bod cyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol rhwng bwrdd Betsi Cadwaladr a'r ysbyty perthnasol yn Lloegr weithiau ond yn digwydd unwaith yr wythnos. Mae'n ymddangos bod datganoli'n peri oedi diangen ac annerbyniol i driniaethau canser. Mae arnom angen gwell cydweithrediad ar draws y ffiniau a'r GIG ledled y DU, fel nad yw trigolion gogledd Cymru dan anfantais oherwydd diffyg arbenigedd yn y rhanbarth. Gwyddom fod aflonyddu ar wasanaethau hefyd yn peryglu diagnosis ar gamau diweddarach, gan ei wneud yn llawer anos ei drin a chan leihau'r nifer sy'n goroesi canser.
Felly, hoffwn gloi drwy ofyn i'r Gweinidog ddefnyddio ei hateb i gadarnhau a fydd cyllideb aml-flwyddyn Llywodraeth Cymru sydd i'w chyhoeddi cyn bo hir yn cael ei defnyddio fel cyfle i fuddsoddi yn y gweithlu canser yng Nghymru yn y tymor hir, ac rwy'n gofyn yn gadarn iawn, yn sicr yng ngogledd Cymru, am weld gweithredu'n digwydd ynglŷn â'r modd y rhoddir gwybod i gleifion am afiechydon gydol oes o'r fath sy'n newid bywydau. Diolch.