Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 1 Rhagfyr 2021.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i Peter Fox am ddod â'r mater pwysig hwn i'r Siambr ac i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Gwrandewais yn astud ar yr holl siaradwyr a chredaf fod llawer o bwyntiau dilys wedi'u gwneud.
Mae clefyd niwronau motor, fel y mae cynifer wedi dweud, yn glefyd dinistriol ac rwy'n gwybod hynny am fod fy ewythr annwyl, Robert, wedi dioddef o'r aflwydd creulon hwn ac roedd yn gwbl dorcalonnus gwylio ei anableddau corfforol yn cynyddu'n ddyddiol i bwynt lle na allai symud cyhyr, yn llythrennol, tra bod ei feddwl yn parhau i fod mor effro ag erioed.
Ar gyfer y math mwyaf cyffredin o glefyd niwronau motor, mae disgwyliad oes fel arfer yn ddwy i bum mlynedd o ddechrau'r symptomau. Yn anffodus, ar hyn o bryd, ni ellir atal na gwrthdroi clefyd niwronau motor, ond gall therapïau, offer a meddyginiaeth helpu i reoli symptomau ochr yn ochr ag addasu cartrefi pobl i'w gwneud mor ddiogel ac mor hygyrch â phosibl. Fel y dywedodd Peter Fox, mae tua 200 o bobl yng Nghymru yn byw gyda chlefyd niwronau motor ar unrhyw adeg a diolch byth, nid yw'n glefyd cyffredin, ond i'r bobl sy'n cael diagnosis o glefyd niwronau motor, wrth gwrs, nid yw hynny'n gysur o gwbl.
Credaf yn gryf fod darparu gwasanaethau o ansawdd da i bobl sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol, megis clefyd niwronau motor, yn gwbl hanfodol, ac mae angen cydbwyso hyn â chadw pobl yn ddiogel ac yn iach. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol i wella gwasanaethau i bawb sydd â chyflyrau niwrolegol ledled Cymru, gan gynnwys clefyd niwronau motor.
Fel rhan o'r opsiwn triniaeth a gynigir i gleifion, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bydd gan dreialon clinigol rôl bwysig i'w chwarae, wrth inni chwilio am driniaeth ar gyfer clefyd niwronau motor. Rwy'n cydnabod y manteision y gallai canolfannau arbenigedd yng Nghymru ar gyfer clefydau niwrolegol eu cynnig, ond nid wyf yn credu bod angen canolfannau ymchwil arbenigol arnom i wella maint ac ansawdd treialon clinigol a chynyddu mynediad cleifion at driniaethau newydd. Fodd bynnag, mae'n hanfodol ein bod yn gysylltiedig ag unrhyw ymchwil newydd sydd ar y gweill ym mhob rhan o'r DU ac yn rhyngwladol, ac rydym eisoes yn gwneud hyn, a dyna pam, mae arnaf ofn, na fyddaf yn cefnogi'r gwelliant a gyflwynwyd gan Blaid Cymru i'r cynnig heddiw.
Mae Llywodraeth Cymru, drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn darparu seilwaith i gefnogi a chynyddu ymchwil ledled Cymru, ac mae hyn yn cynnwys cyllid o tua £15 miliwn i sefydliadau'r GIG i'w galluogi i gynnal treialon clinigol o ansawdd uchel mewn ystod eang o feysydd, sy'n cynnwys clefyd niwronau motor. Drwy fy nghydweithwyr yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, rwy'n ymwybodol fod nifer o astudiaethau o glefyd niwronau motor eisoes ar y gweill ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mewn rhai achosion, mae cymorth hefyd ar gael i gleifion sy'n gymwys ar gyfer astudiaethau ymchwil clinigol y tu allan i Gymru.
Mae gan bobl sy'n dioddef o glefyd niwronau motor a chyflyrau dirywiol eraill, ynghyd â'u partneriaid, eu teuluoedd a'u gofalwyr, hawl i ddisgwyl inni wneud ein gorau glas i'w helpu i gynnal eu hannibyniaeth a byw gydag urddas. Mae gennym raglenni addasu cynhwysfawr yng Nghymru sy'n cynnwys cynghorau, cymdeithasau tai ac asiantaethau gofal a thrwsio. Gyda'i gilydd, cyfanswm ein gwariant blynyddol yw tua £60 miliwn.