Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 1 Rhagfyr 2021.
Mae'n ofynnol i bob darparwr i gadw at y safonau gwasanaeth ar gyfer addasiadau tai a gyhoeddon ni yn 2019. Mae'r rhain yn cynnwys targedau ar gyfer amseroedd aros am wahanol fathau o addasiadau. Addasiadau bach yw'r rhan fwyaf, sy'n cael eu cwblhau mewn ychydig o ddyddiau, ond y grŵp mwyaf o addasiadau o ran gwerth yw addasiadau o faint canolig. Mae'r rhain yn cynnwys yr addasiadau mwyaf cyffredin, fel lifft grisiau, cawod â mynediad gwastad, ystafell wlyb lawr grisiau a rampiau mawr, neu gyfuniad o'r pethau hyn. Ar gyfartaledd, mae addasiad canolig yn cymryd ychydig dros bedwar mis i'w gwblhau.
Eleni, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn darparu £1 miliwn o gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol er mwyn osgoi defnyddio prawf modd ar gyfer addasiadau o faint canolig. Mae'r ymateb gan awdurdodau lleol wedi bod yn gadarnhaol iawn, ond mae mabwysiadu polisïau newydd drwy weithdrefnau'r cynghorau yn cymryd amser. Rŷn ni'n disgwyl y bydd y mwyafrif llethol o gynghorau, os nad pob un, wedi mabwysiadu polisi o beidio â chynnal prawf modd erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf.
Dim ond ychydig o addasiadau mawr sy'n cael eu gwneud bob blwyddyn, ac mae'r rhain yn cynnwys newidiadau sylweddol i'r adeilad, er enghraifft, estyniad sydd angen, efallai, caniatâd cynllunio. Dyw hi ddim yn syndod bod y rhain yn cymryd mwy o amser oherwydd eu cymhlethdod, ac ar gyfartaledd maen nhw'n cymryd tua 40 wythnos. Nawr, i bobl sydd ag MND mae'r amserlen yma yn anodd iawn, a dwi'n deall, wrth gwrs, y gall 40 wythnos fod yn amser rhy hir iddyn nhw i helpu'r bobl hyn. Fe roddon ni discretion ym mis Ebrill eleni i fyrddau partneriaeth rhanbarthol ddefnyddio cyfalaf o'r gronfa gofal integredig i ychwanegu at y grant cyfleusterau i'r anabl ar gyfer addasiadau sy'n costio mwy na'r drefn statudol o £36,000.
Wrth gwrs, dyw gwneud gwaith adeiladu mawr ar adeg mor anodd ddim wastad yn beth dymunol, felly mae'n bwysig bod pobl ag MND yn gallu cael mynediad at amrywiaeth o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a fydd yn gallu darparu gwahanol ddulliau a therapïau i bobl i fyw bywyd cystal â phosibl am gyhyd â phosibl. Byddan nhw'n gweithio gyda phobl a theuluoedd i chwilio am ddewisiadau eraill posibl yn lle addasiadau.
Bydd y gofal arbenigol sy'n cael ei ddarparu gan y gwasanaeth ystum corff a symudedd yng Nghymru hefyd yn cefnogi pobl gydag MND drwy ddarparu'r offer symudedd a chyfathrebu cywir, yn ôl yr angen. Mae therapi galwedigaethol cymunedol, ffisiotherapi a therapi iaith a lleferydd hefyd yn gallu helpu pobl gydag MND i reoli eu symptomau, a lleihau effaith y clefyd ar eu bywyd bob dydd. Mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn gweithio gyda'i gilydd, ochr yn ochr â gweithwyr cymdeithasol a chydweithwyr yn y trydydd sector, i ddarparu gwasanaethau integredig, a hynny o'r diagnosis hyd at ofal diwedd oes. Mae gofalu am y teulu cyfan yn hanfodol, ac mae ein gweithwyr proffesiynol yn cymryd gofal enfawr i sicrhau bod yr holl ddarpariaeth yn amserol, ac nad yw yn rhy ymwthiol i deuluoedd sy'n dymuno gwneud y gorau o'r amser byr, o bosib, sydd gyda nhw ar ôl. I gloi, Llywydd, dwi eisiau annog y Siambr i gefnogi'r cynnig.