Buddsoddiad Seilwaith Rheilffyrdd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 7 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:30, 7 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Llywydd, rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, ac yn croesawu cefnogaeth adolygiad Hendy i'n metro ac argymhellion comisiwn Burns. Bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn cyfarfod â Gweinidog y DU sy'n gyfrifol am yr adolygiad ar 15 Rhagfyr i drafod yr adroddiad, y diweddaraf mewn cyfres o gyfarfodydd yn ymwneud â'i waith.