Buddsoddiad Seilwaith Rheilffyrdd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 7 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 1:31, 7 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, mae hynny'n newyddion ardderchog, Prif Weinidog, oherwydd ei bod hi'n bedair blynedd bellach ers i Lywodraeth y DU benderfynu canslo trydaneiddio'r brif reilffordd i Abertawe. Pa mor hir mae'n ei gymryd i Lywodraeth y DU lunio eu cynllun amgen ar gyfer moderneiddio rhwydwaith rheilffyrdd Cymru? Ac rwy'n gobeithio, yn eich trafodaethau, a thrafodaethau Lee Waters gyda Llywodraeth y DU, fod dealltwriaeth lawn bod gan Gymru hawl i system reilffordd wedi'i moderneiddio yn union fel gweddill y Deyrnas Unedig.